|
|
Rydyn ni’n ymwybodol bod gan bobl yn y gymuned leol bryderon am safle Kronospan yn y Waun o hyd. Rydyn ni am sicrhau trigolion ein bod ni’n parhau i reoleiddio'r safle yn unol â'i drwydded amgylcheddol drwy gyfrwng arolygiadau safle, ymchwiliadau, adolygu data monitro aer a dŵr, ac ymgysylltu’n rheolaidd â'r gweithredwr a sefydliadau partner.
Mae ein swyddogion yn cynnal archwiliadau ac asesiadau i helpu i sicrhau bod y safle'n gweithredu yn unol â gofynion y drwydded. Rydyn ni’n deall y gallai pobl leol fod eisiau cysylltu â ni ynglŷn â'u pryderon. Fodd bynnag, rydyn ni’n annog trigolion i ddefnyddio ein sianeli adrodd swyddogol yn unig wrth adrodd am ddigwyddiadau.
Gall unrhyw un sydd â phryderon roi gwybod i ni amdanyn nhw drwy ffonio ein llinell gyfathrebu digwyddiadau 24/7 ar 0300 065 3000 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen rhoi gwybod am ddigwyddiadau ar-lein.
Bydd defnyddio'r sianeli hyn yn caniatáu i ni ymchwilio i bryderon yn drylwyr ac yn gyson, gan sicrhau bod ein swyddogion yn gallu canolbwyntio ar eu dyletswyddau rheoleiddio.
Os bydd preswylwyr yn gweld ein cydweithwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau rheoleiddio, gofynnwn yn garedig iddyn nhw gael eu trin â pharch. Rydyn ni’n llawn barchu hawl y cyhoedd i godi pryderon a gofyn cwestiynau. Fodd bynnag, gall rhyngweithiadau hir, heriau dro ar ôl tro ynghylch penderfyniadau blaenorol, neu feirniadaeth bersonol o staff ei gwneud hi'n anodd i swyddogion gwblhau'r gweithgarwch arsylwi a chasglu tystiolaeth y maen nhw yno i'w wneud.
|
|
|
Pan ddaw adroddiad i mewn, caiff ei gofnodi a'i asesu gan ein timau. Caiff ei ystyried ochr yn ochr ag adroddiadau eraill, data monitro a gwybodaeth sydd gennym ni am y safle. Nid ydym ni’n asesu adroddiadau ar eu pen eu hun. Yn hytrach, rydyn ni’n eu defnyddio i greu darlun ehangach dros amser, sy’n ein helpu ni i nodi patrymau a thargedu ein gweithgarwch rheoleiddio. Gallai adroddiadau arwain at archwiliadau safle pellach, ymchwiliadau neu ymgysylltu â'r gweithredwr.
Rydyn ni’n deall yr hoffai pobl gael adborth ar yr adroddiadau maen nhw'n eu cyflwyno. Fodd bynnag, oherwydd nifer yr adroddiadau sy’n dod i law, yn ogystal ag ystyriaethau diogelu data a'r ffordd rydyn ni’n asesu gwybodaeth ar y cyd, ni allwn ni roi ymateb unigol. Byddai rhoi diweddariad ar bob adroddiad yn lleihau'r amser sydd ar gael ar gyfer ein gwaith rheoleiddio. Felly, rydyn ni’n rhoi diweddariadau rheolaidd at ddibenion rhannu gwybodaeth am ein gweithgarwch rheoleiddio a'r camau gweithredu rydyn ni’n eu cymryd.
|
|
|
Mae rheoli llwch yn parhau i fod yn faes allweddol rydyn ni’n canolbwyntio arno. Mae systemau niwlio yn parhau i fod ar waith o fewn yr ardaloedd storio a dosbarthu ffibrau wedi'u hailgylchu, gyda chefnogaeth offer atal llwch symudol. Mae'r mesurau hyn bob amser yn cael eu gwirio yn ystod ein harolygiadau.
Rydyn ni hefyd yn parhau i adolygu Cynllun Rheoli Llwch y safle ac yn cynnal archwiliadau dilynol i asesu sut mae'r rheolaethau'n cael eu gweithredu ac a oes angen gwelliannau pellach.
|
|
|
Rydyn ni wedi cwblhau archwiliad o WESP32 (system rheoli allyriadau) yn ddiweddar. Bydd Adroddiad Asesu Cydymffurfiaeth (CAR) yn cael ei gyhoeddi ar y Gofrestr Gyhoeddus maes o law. Yn ystod yr archwiliad, nodwyd rhai anghysondebau rhwng yr wybodaeth a gafodd ei darparu yn yr ymatebion o ran amodau gwelliant a'r ffordd mae'r offer yn gweithio’n ymarferol. Rydyn ni’n ymchwilio i’r materion hyn ar hyn o bryd.
Rydyn ni’n parhau i gryfhau ein gallu i asesu arogleuon. Mae swyddogion sy'n ymchwilio i gwynion am arogleuon yn ymgymryd â hyfforddiant arogleuon ar hyn o bryd, o ymwybyddiaeth gyflwyniadol hyd at dechnegau rheoli uwch. Nid yw trwyddedau amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion gael synnwyr arogli “wedi’i sgrinio” na’i “raddnodi” wrth gynnal archwiliadau, ond rydyn ni’n credu bod yr hyfforddiant hwn yn bwysig.
Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw canfod arogl yn dynodi achos o dorri trwydded yn awtomatig. Mae amodau’r drwydded yn ei gwneud yn ofynnol i allyriadau fod yn rhydd rhag arogleuon ar lefelau sy’n debygol o achosi llygredd y tu allan i’r safle, oni bai bod y gweithredwr wedi defnyddio mesurau priodol i atal neu, lle nad yw hyn yn ymarferol, leihau arogleuon.
|
|
|
Mae sŵn yn parhau i fod yn faes gwaith parhaus arall. Mae gweithredwr y safle yn parhau i gynnal asesiadau a gwelliannau pellach sy'n gysylltiedig â sŵn.
Mae estyniad wedi'i ganiatáu i Amod Gwella 40, sy'n ymwneud â'r Cynllun Rheoli Sŵn, tan 30 Medi 2026. Bydd hyn yn caniatáu i waith ychwanegol gael ei gwblhau a'i asesu.
Fel yn achos arogleuon, mae’r drwydded yn ei gwneud yn ofynnol i allyriadau o weithgarwch ar y safle fod yn rhydd rhag sŵn a dirgryniad ar lefelau sy’n debygol o achosi llygredd y tu allan i’r safle, oni bai bod y gweithredwr wedi defnyddio mesurau priodol i atal neu, lle nad yw hyn yn ymarferol, leihau’r effeithiau hynny.
|
|
|
Mae'r cais am amrywiad Pren Fflawiau Cyfeiriedig (OSB) yn parhau i gael ei ystyried gan ein gwasanaeth trwyddedu.
Rydyn ni’n dilyn ein gweithdrefnau trwyddedu arferol a byddwn yn ymgynghori yn unol â Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd, sy’n nodi pryd a pham y byddwn ni’n ymgynghori, a sut mae ymgynghori yn rhan o'r broses gwneud penderfyniadau.
|
|
|
Mae gweithgarwch monitro uwch yn parhau o ran Boeler K7 a Seiclonau MDF2. Mae ymchwiliadau i ormodeddau blaenorol yn parhau.
Rydyn ni’n parhau i weithio'n agos gyda sefydliadau partner wrth i'r ymchwiliadau hyn fynd rhagddynt, a byddwn yn rhoi diweddariadau pellach pan fo'n briodol.
Yn dilyn codi'r hysbysiad atal, ailgychwynnwyd Boeler Biomas K7 ddechrau mis Mawrth 2026.
Ar y cyfan, mae allyriadau'n gwella. Mae allyriadau metelau trwm wedi cydymffurfio'n llawn ers i Foeler Biomas K7 gael ei ailgychwyn, ac mae allyriadau diocsinau a ffwranau wedi lleihau'n sylweddol. Fodd bynnag, maent yn parhau i beidio â chydymffurfio. Mae allyriadau o Foeler Biomas K7 yn cael eu cario drwy ddwythellau i seiclonau MDF2 ac yn cael eu rhyddhau i'r aer ar y pwynt hwn. Dangosodd gweithgarwch monitro a gynhaliwyd ar yr un pryd â'r profion ychwanegol fod allyriadau o'r seiclonau islaw'r terfynau allyriadau a osodwyd ar gyfer Boeler Biomas K7.
Mae hysbysiad gorfodi yn parhau i fod ar waith sy'n ei gwneud yn ofynnol i Kronospan barhau i gynnal gweithgarwch monitro uwch o ran diocsinau a ffwranau yn fisol ar gyfer Boeler K7 a Seiclonau MDF2 tan ddiwedd y flwyddyn. Mae'r gofyniad hwn yn parhau i fod yn destun adolygiad parhaus. Bydd pob paramedr arall o ran allyriadau yn parhau i gael ei fonitro yn y pwyntiau allyriadau hyn yn unol â gofynion y drwydded.
Mae'r hysbysiad gorfodi hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Kronospan ymchwilio i'r mesurau sydd eu hangen i leihau ffurfiad diocsinau a ffwranau yn y boeler, a darparu cynllun sy'n dangos sut y byddan nhw’n sicrhau cydymffurfiaeth.
|
|
|
|