|
|
Croeso i'r hysbysiad diweddaraf ar safle tirlenwi’r Hafod. Mae'r cylchlythyr hwn yn darparu gwybodaeth am gyfarfodydd diweddar, gwaith parhaus ar y safle a sut rydym yn rheoleiddio'r safle tirlenwi.
|
|
|
Mae gwaith ar y safle yn parhau yn unol â'r Cynllun Gweithredu Rheoli Trwytholchion (LMAP). Caiff y cynllun hwn ei ddiweddaru'n rheolaidd gan y gweithredwr ac mae'n amlinellu'r camau a gymerir i reoli trwytholch ar y safle ac ymdrin â materion o ran cydymffurfio â’r drwydded.
Ar hyn o bryd mae'r gweithredwr yn cael gwared ar silt sydd wedi cronni mewn rhannau o'r system rheoli trwytholchion.
Ar ôl i'r gwaith hwn gael ei gwblhau, bydd y gweithredwr yn cynnal arolwg teledu cylch cyfyng o'r holl ffynhonnau trwytholchi. Bydd ein swyddogion yn bresennol yn ystod yr arolwg. Yna bydd y gweithredwr yn rhoi adroddiad inni ar gyflwr pob ffynnon, gan gynnwys unrhyw rwystrau neu broblemau eraill a allai effeithio ar lefelau trwytholch.
Nod y gweithredwr yw cwblhau'r gwaith hwn erbyn mis Medi 2026. Ar ôl i ni adolygu’r canfyddiadau, byddwn yn ystyried a oes angen unrhyw gamau pellach.
|
|
|
Rydym yn parhau i gynnal adolygiad rheolaidd o ddata monitro, archwiliadau safle ac asesiadau arogl oddi ar y safle.
Gellir gweld copïau o Adroddiadau Asesu Cydymffurfiaeth (CARs), sy'n darparu gwybodaeth am arolygiadau a gweithgarwch rheoleiddio ar y safle, ar ein cofrestr gyhoeddus.
|
|
|
Cyfarfu'r Pwyllgor Craffu ar gyfer Cartrefi a'r Amgylchedd ar 17 Mehefin 2026.
Mynychwyd y cyfarfod gan ein swyddogion, ynghyd â chynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW), Enovert (gweithredwr y safle) a chynghorwyr lleol.
Mae gwybodaeth o'r cyfarfod, gan gynnwys yr agenda, y cofnodion a'r darllediad gwe, ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
|
|
|
Cynhaliwyd cyfarfod rhanddeiliaid ar 19 Mehefin 2026.
Mynychwyd y cyfarfod gan ein swyddogion ni, CBSW, Enovert a thrigolion lleol.
Yn dilyn y cyfarfod, cyhoeddwyd datganiad diweddaru ar y cyd.
|
|
|
|