|
Mae’r misoedd cynnes wedi cyrraedd o’r diwedd, gan ddod â gwyliau’r haf, dyddiau gŵyl a chyfleoedd i ddod i nabod y llwybr ychydig yn well. Cadwch yn ddiogel mewn tywydd poeth, dilynwch ganllawiau swyddogol a mwynhewch fisoedd yr haf!
 |
|
Dyma rai syniadau gwych i’r teulu eu mwynhau ar y llwybr dros wyliau’r haf. O droeon glan y môr, pysgota am grancod yn harbwr Solfach, teithiau cerdded sy’n addas i gadeiriau olwyn a bygis, a hyd yn oed edrych am grocodeils (!)
Mae yna rywbeth i bawb – yn cynnwys y rhai ohonoch chi sy ddim yn rhy hoff o deimlo tywod rhwng bysedd eich traed! Syniadau yma ar ble i fynd
|
|
Mae’r bwletin busnes cyntaf allan nawr – yn arbennig i helpu busnesau ar hyd y llwybr i wneud y gorau o gyfleoedd busnes. sy’n cynnwys:
- Deunydd marchnata i bartneriaid, y gallwch ei lawrlwytho yn rhad ac am ddim ac sy’n hawdd i fusnesau ei ddefnyddio
- Cynghorion i’ch helpu i ddenu ymwelwyr
Tanysgrifiwch i’r bwletinau busnes drwy dicio’r blwch “Ydw” i’r cwestiwn “Ydych chi’n berchennog ar fusnes?"
|
|
 |
Yn y tywydd poeth diweddar mae wedi bod yn anodd cerdded o un ystafell i’r llall heb chwysu, heb sôn am gerdded ar hyd y llwybr. Dyma ein cyngor ni ar gyfer cerdded mewn tywydd poeth:

- Peidiwch â cherdded rhwng 11am a 3pm a dewiswch lwybrau cysgodol. Mae awel ar yr arfordir ond peidiwch ag anwybyddu cryfder yr haul. Hetiau! Eli haul!
- Ymgyfarwyddwch â symptomau gorflinder gwres a thrawiad gwres
- Yfwch ddigon. Cymerwch lymeidiau drwy’r dydd yn hytrach nag yfed eich diod ar eich talcen ac yfwch lawer ar ddechrau a diwedd y dydd.
- Os ydych chi'n cerdded ar eich pen eich hun, rhannwch eich cynlluniau.
- Cymerwch hufen ar gyfer brathiada - Mae pryfed llwyd yn llechwraidd ac mae eu brathiadau’n boenus – maen nhw’n cael eu denu at bethau tywyll felly gwisgwch ddillad golau.
- Mae tanau gwyllt yn cychwyn yn hawdd yn ystod cyfnodau o dywydd sych.Peidiwch â chynnau barbeciws a byddwch yn ofalus iawn wrth ddefnyddio stofiau.
- Gall sioc dŵr oer ddigwydd yn gyflym, hyd yn oed mewn ton wres. Ewch i mewn i'r dŵr yn araf. Gwyliwch How to Float to Live mewn dwr agored (gan RNLI)
Rhannwch cyngor ar Instagram
O grysau-t sy’n sychu’n chwim i gapiau i’ch cysgodi rhag yr haul, bydd ein casgliad yn eich cadw’n gyfforddus yn y gwres. Jest y peth naill ai fel anrheg fach i chi’ch hun neu i ddod â lwc dda i chi ar eich teithiau yn y dyfodol – mae popeth yma i chi.
 Crys T Goleudy - Mineral Blue
Mae dewis helaeth o drafnidiaeth gyhoeddus pan fyddwch chi’n cerdded y llwybr – bydd ychydig o waith ymchwil yn talu ar ei ganfed – does dim byd gwaeth yn rhuthro i ddal y bws neu’r trên olaf ar ôl diwrnod o gerdded!
Mae trenau yn ddewis da ar arfordir gogledd Cymru, defnyddiwch y bysiau ar gyfer Pen Llŷn, Sir Benfro a gan ddefnyddio bws fflecsi, llwybrau bysiau arfordirol lleol a Bws Casnewydd yn ne Cymru. A gallwch chi gerdded bron i 100 milltir rhwng Pwllheli ac Aberystwyth gan ddefnyddio’r trên ar Lein Arfordir y Cambrian. Darllenwch am sut i gyrraedd y llwybr a chrwydro o’i amgylch
 Cricieth - Trafnidiaeth Cymru
Gallwch fynd yn nes at y lan gyda chadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio yr haf hwn yn unrhyw un o’r traethau hyn. Yn ddelfrydol i’r rheiny sy angen cyfleusterau a rampiau hygyrch, a chofiwch archebu unrhyw offer symudedd cyn eich ymweliad.
Ydyn ni wedi methu rhywbeth? Rhowch wybod i ni!
 Cadair olwyn ar y traeth
Ai dim ond un car sydd gyda chi, neu ydych chi’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? Rhowch gynnig ar y teithiau cerdded cylchol hyn, sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo modd. Mae’r teithiau hyn yn mynd ar hyd y prif lwybr am ran o’r daith ond hefyd cewch brofi llefydd newydd. Dewch o hyd i daith gerdded gylchol yn agos ataf i.
 llwybr rhwng Ystumllwynarth a Phen y Mwmbwls
Wnaethoch chi erioed feddwl sut cafodd lle ei enw? Gofynnwyd i Josef Roberts, aka Tir.Lun sy’n archwilio Cymru un enw lle ar y tro, esbonio tarddiad rhai o’r enwau lleoedd mwyaf adnabyddus ar hyd rhan Ceredigion o’r llwybr, er enghraifft Mwnt, Llangrannog a Cheinewydd. Gwyliwch fideos Tir.Lun (yn agor yn YouTube)
Mae’n rhyfeddol clywed y straeon y tu ôl i’r enwau lleoedd hyn ar y llwybr – wnewch chi ddim edrych arnyn nhw yn yr un ffordd byth eto!
|
Canada a Chymru - beth yw’r cysylltiad?
Llwybrau arfordir, wrth gwrs!
Roedd hi’n bleser croesawu Erika a Melissa, sy’n rhan o’r tîm technegol a datblygu ehangach i greu’r llwybr 1,000km y Great Coastal Trail (GCT) of Newfoundland and Labarador, Canada.
Fe ddaethon nhw i weld sut lwyddodd Cymru i sefydlu’r llwybr arfordir, mewn wythnos yn llawn dop o ddysgu a rhannu profiadau a gwybodaeth am sut i greu llwybr arfordir!
Gan deithio ar hyd Cymru gyfan, cafodd Erika a Melissa groeso cynnes gan nifer o’r sefydliadau a chwaraeodd eu rhan yn creu Llwybr Arfordir Cymru. Fe gawsant lawer o drafodaethau diddorol am sut mae’r llwybr yn cysylltu cymunedau, o fudd i’r economi, yn cysylltu pobl â byd natur ac yn creu gwaddol i genedlaethau’r dyfodol gan hefyd amlygu diwylliant, iaith a threftadaeth Cymru.
Dymunwn yn dda i dîm GCT ac edrychwn ymlaen at weld y llwybr yn dod yn ei flaen!
|
 |
|
NEWYDD! Llwybr Bwyd Môr Môn
Mae’r llwybr newydd Bwyd Môr Môn yn ffordd wych o ddod i nabod y rhan boblogaidd hon o’r llwybr a rhoi cynnig ar gynnyrch bwyd lleol arbennig ar hyd y daith. Edrychwch ar y teithiau cerdded cylchol hyn i wneud y gorau o dywydd yr haf a’r penwythnosau hir.
|
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar y cylchlythyrau hyn, boed yn dda neu'n ddrwg. Dywedwch wrthym sut y gallwn eu gwella i chi! Cyslltwch â ni
 |
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
 |
|
Gyda dros 11,000 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|