|
Cynhadledd y Ganolfan Adfer Afonydd, Casnewydd – gan Daisy
Ym mis Mai, fe wnaethon ni fynd i gynhadledd flynyddol y Ganolfan Adfer Afonydd yng Nghasnewydd, gan ddod ag ymarferwyr adfer afonydd, ymchwilwyr a sefydliadau o bob cwr o'r DU ynghyd i rannu'r syniadau a'r wybodaeth arloesol ddiweddaraf ym maes adfer afonydd.
Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i ddysgu o brosiectau sy'n mynd i'r afael ag ystod eang o heriau, o fesurau arafu'r llif ac ysgolion pysgod i weithio gyda ffermwyr ac adfer prosesau afonydd. Roedd hefyd yn galonogol gweld llawer o'r themâu a drafodwyd yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith sydd eisoes yn digwydd yma yn nalgylch uchaf afon Gwy.
Darparodd y gynhadledd ddigon o ysbrydoliaeth a syniadau newydd y gallwn barhau i'w hymgorffori yn ein gwaith wrth i'r prosiect ddatblygu.
 Ffotograff: 27ain Gynhadledd Flynyddol y Ganolfan Adfer Afonydd yng Nghasnewydd
Partneriaethau’n tyfu gyda Coed Cadw – gan Susie
Yn gynharach y mis hwn, croesawodd Susie gydweithwyr o Coed Cadw, y Woodland Trust yng Nghymru, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed a thyddynnwr i fferm ar un o lednentydd Afon Irfon. Mae’r prosiect wedi cyflawni gwaith plannu coed a gwrychoedd ar y fferm, gan ddefnyddio planhigion a gyflenwyd gan Coed Cadw drwy ein partneriaeth.
Dangosodd yr ymweliad sut mae gwrychoedd newydd, wedi’u plannu ar draws llethrau yn unol â manylebau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn helpu i arafu llif dŵr ffo i’r afon, tra bo ffensio coetir brodorol a phlannu coed newydd yn cefnogi adfywiad naturiol ac yn gwella cynefinoedd glan yr afon.
Roedd tîm Coed Cadw yn falch o weld pa mor dda y mae’r coed a blannwyd wedi ymsefydlu yn dilyn gwanwyn gwlyb, gan roi cyngor ar sut i’w rheoli yn y dyfodol, yn ogystal â thrafod sut gallant ddal ati i gefnogi tirfeddianwyr sydd â diddordeb mewn gwarchod ac adfer coetir hynafol.
  Ffotograffau: Ymweld â gwrych newydd ei blannu gyda Coed Cadw
Rhannu adferiad Gwy Uchaf gydag arbenigwyr dŵr croyw yn y DU – gan Hilary
Yn ddiweddar, croesawodd Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf arbenigwyr dŵr croyw o asiantaethau llywodraethau’r DU yn ystod y Grŵp Dŵr Croyw Rhyngasiantaethol, y bu CNC yn ei letya eleni.
Daeth ymwelwyr o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i nifer o safleoedd adfer afonydd CNC yng Nghymru i weld amrywiaeth o waith adfer ymarferol. Cafwyd un ymweliad â’n safle ar afon Gwy lle rydym yn treialu dull ‘gwrth-gnoi’ arloesol i sefydlogi glannau’r afon gan ddefnyddio polion mawr o helyg byw. Y syniad y tu ôl i’r dull hwn yw gyrru polion mawr o helyg byw yn ddwfn i lan yr afon er mwyn i systemau’r gwreiddiau helpu i leihau erydiad y lan, gan sicrhau bod y tyfiant newydd uwchlaw uchder pori defaid ac felly’n dileu’r angen am ffens, a thros amser bydd yn darparu cysgod sy’n fawr ei angen ar hyd yr afon. Dangosodd ein cydweithwyr yn y DU gryn ddiddordeb a brwdfrydedd yn y datrysiad hwn.
Roedd yr ymweliad yn gyfle i arddangos y gwaith cydweithredol sy’n digwydd ar draws y dalgylch gan hefyd gyfnewid syniadau â chydweithwyr sy’n wynebu heriau tebyg mewn mannau eraill yn y DU. Mae rhannu gwybodaeth fel hyn yn helpu i sicrhau bod technegau adfer yn parhau i esblygu a gwella er budd afonydd ledled y wlad.
  Lluniau: Gwaith arloesol i sefydlogi glan yr afon gan ddefnyddio polion mawr o helyg byw
Meddwl fel dyfrgi – gan Susie
Yn ddiweddar, cwblhaodd tîm y prosiect hyfforddiant ar gynnal arolygon o ddyfrgwn gyda'r arbenigwr dyfrgwn enwog Geoff Liles, gan ddysgu mwy am ecoleg dyfrgwn, cynefin y rhywogaeth, a sut i gynnal arolygon i weld a ydynt yn bresennol. Roedd Geoff yn awyddus i dynnu sylw at y diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o faint o amser y mae dyfrgwn yn ei dreulio yn teithio ar draws tir, nid ar hyd afonydd yn unig.
Maent yn arbennig o hoff o frogaod a byddant yn teithio ar draws tir i gyrraedd pyllau dŵr pan fydd digonedd o frogaod, felly mae angen i ni feddwl am gadw eu llwybrau ar agor a darparu mannau tawel iddynt orffwys. Dangosodd Geoff ddigon o arwyddion o ddyfrgwn i ni ar afon Ieithon i'r de o Landrindod a byddwn yn defnyddio ein sgiliau newydd i arwain y gwaith rydym yn ei wneud ar draws rhan uchaf afon Gwy.
 Ffotograff: Dyfrgi yn afon Gwy. Cydnabyddiaeth: Peter Lewis
Mae Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf #AdferGwyUchaf wedi'i ariannu gan Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, rhan o'r Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr, i adfer cyflwr rhan uchaf afon Gwy.
Nod cyffredinol y prosiect hwn yw gwarchod rhywogaethau a gwella cynefinoedd trwy fynd i'r afael ag amrywiaeth o bwysau sy'n effeithio ar yr afon.
Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio ar gyfer diweddariadau yn y dyfodol, rhowch wybod i ni drwy'r cyfeiriad e-bost isod.
Pe bai'n well gennych gopi papur o'r cylchlythyr, cysylltwch â ni.
E-bost: AdferGwyUchaf@cyfoethnaturiol.cymru
Gwe: Gwefan Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf
Y cyfryngau cymdeithasol: Facebook, Instagram, X
|