|
Rydym yn ymwybodol bod gan bobl yn y gymuned leol bryderon am safle Kronospan yn y Waun o hyd. Rydym yn parhau i reoleiddio’r safle yn unol â’i drwydded amgylcheddol drwy gyfrwng arolygiadau safle, ymchwiliadau, adolygu data monitro aer a dŵr, ac ymgysylltu parhaus â’r gweithredwr a sefydliadau partner.
Hyd yn hyn yn 2026, mae ein swyddogion wedi cynnal 20 o archwiliadau safle. Caiff yr archwiliadau hyn eu defnyddio i asesu a yw’n cydymffurfio ag amodau’r drwydded, i adolygu gweithrediadau’r safle ac i ymchwilio i bryderon penodol. Yn ogystal â’r archwiliadau hyn, mae swyddogion yn cynnal ymweliadau eraill yn y Waun a chyfarfodydd â Kronospan i gefnogi ein gwaith rheoleiddio. Mae adroddiadau yn ymwneud ag ymweliadau â’r safle i’w gweld ar y gofrestr gyhoeddus.
Rydym wedi mynychu dau gyfarfod cyswllt eleni gyda chynrychiolwyr o Kronospan, Cyngor Tref y Waun, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r cyfarfodydd hyn yn gyfle i drafod datblygiadau ar y safle, gwaith arfaethedig, pryderon a chwynion gan y gymuned, yn ogystal â pherfformiad amgylcheddol a chydymffurfiaeth.
Ers mis Ionawr 2026, rydym wedi ymateb i dros 40 o ymholiadau gwahanol, gan gynnwys gohebiaeth gan aelodau’r cyhoedd, cynghorwyr, Aelodau’r Senedd, yn ogystal â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth.
Rydym yn parhau â’n hymchwiliadau i’r allyriadau o’r boeleri K7 a oedd yn groes i’r drwydded, ynghyd â’r ffrwydrad ddiwedd Ebrill 2026. Mae’r rhain yn ymchwiliadau cymhleth sy’n gofyn asesiad technegol manwl a, lle bo angen, asesiad cyfreithiol hefyd. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo ac yn dal i fod yn flaenoriaeth.
|