|
|
Yn y cylchlythyr hwn cewch y diweddaraf ar y gweithgareddau rheoleiddio yn Safle Tirlenwi Hafod, gan gynnwys gwaith diweddar gan weithredwyr y safle, sut caiff y safle ei sgorio ar hyn o bryd o dan ein fframwaith perfformiad, a chrynodeb byr o waith monitro ansawdd yr aer yn lleol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Sut rydym yn rheoleiddio Safle Tirlenwi Hafod.
|
|
|
Mae gweithredwr y safle wedi bod yn bwrw ymlaen â nifer o gamau gweithredu fel rhan o’u cynllun rheoli a gweithredu y cytunwyd arno ar gyfer Safle Tirlenwi Hafod. Yn fwyaf diweddar, maent wedi ail-ddrilio a gosod naw ffynnon nwy newydd ar draws y safle. Mae’r ffynhonnau nwy hyn wedi’u dylunio i ddal nwyon tirlenwi yn ddiogel a helpu i reoli arogl ac allyriadau, sy’n ofyniad allweddol ar gyfer gweithrediadau tirlenwi.
Mae gwaith capio hefyd yn mynd rhagddo. Mae capio yn cynnwys gosod haenau peirianyddol dros ardaloedd o’r safle tirlenwi sydd wedi’u cwblhau er mwyn lleihau ymdreiddiad dŵr, rheoli faint o nwyon sy’n dianc a diogelu’r amgylchedd yn yr hirdymor. Mae’r gweithredwr wedi cadarnhau y bydd y gwaith hwn yn parhau ac y bwriedir ei wneud dros fisoedd yr haf, yn ddibynnol ar amodau’r tywydd a’r safle.
Yn ogystal, mae’r gweithredwr yn paratoi i ddechrau tipio gwastraff i gell newydd yn y dyfodol agos. Mae celloedd newydd yn cael eu dylunio a’u hadeiladu mewn camau i sicrhau bod gwastraff yn cael ei ddyddodi mewn ffordd reoledig, gyda mesurau yn eu lle i ddiogelu’r amgylchedd. Byddwn yn parhau i reoleiddio’r gweithgareddau hyn drwy gyfrwng arolygiadau arferol, gwaith monitro a gwiriadau cydymffurfio â thrwyddedau.
|
|
|
Rydym yn asesu cydymffurfiaeth yn Safle Tirlenwi Hafod drwy gyfrwng arolygiadau ac archwiliadau yn erbyn amodau’r drwydded amgylcheddol. Os nodir achos o fynd yn groes i’r drwydded, rhoddir sgôr diffyg cydymffurfio a chaiff ei gofnodi ar ffurflen Adroddiad Asesu Cydymffurfiaeth.
Caiff achosion o ddiffyg cydymffurfio eu categoreiddio gan ddefnyddio ein canllawiau ar asesu diffyg cydymffurfio ar safleoedd a reoleiddir. Mae’r categorïau a’r sgoriau fel a ganlyn:
- C1 – Diffyg cydymffurfio difrifol: 60 pwynt
- C2 – Diffyg cydymffurfio sylweddol: 31 pwynt
- C3 – Mân ddiffyg cydymffurfio: 4 pwynt
- C4 – Dim effaith amgylcheddol: 0.1 pwynt
Mae pob achos o ddiffyg cydymffurfio a nodir yn cynhyrchu sgôr. Caiff y sgoriau hyn eu hadio at ei gilydd trwy gydol y flwyddyn gydymffurfio, sy’n rhedeg rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr. Yna caiff cyfanswm y sgôr ei drosi yn fand cydymffurfio.
Mae’r band cydymffurfio yn pennu’r canlynol:
- Lefel yr ymdrech reoleiddio a roddir i’r safle yn y flwyddyn ganlynol, ac
- Y tâl cynhaliaeth blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod.
Rhoddir sgoriau uwch i safleoedd ble mae nifer fwy o achosion o fynd yn groes i’r drwydded, neu ble mae achosion o’r fath yn fwy difrifol, a gall hynny arwain at fand cydymffurfio gwaeth a mwy o daliadau cynhaliaeth. Mae’r system hon wedi’i dylunio i sicrhau bod gweithredwyr sydd angen mwy o sylw rheoleiddiol yn cyfrannu’n briodol at gost rheoleiddio ac yn cael eu hannog i wella cydymffurfiaeth.
Mae rhagor o fanylion am fandiau cydymffurfio a thaliadau cynhaliaeth i’w gweld yn ein Cynllun Codi Tâl a’r canllawiau cysylltiedig, sydd ar gael ar ein gwefan Codi Tâl am Drwyddedu Amgylcheddol
|
|
|
Mae’r gweithredwr yn parhau i fonitro ansawdd yr aer yn Safle Tirlenwi Hafod a’r cyffiniau. Mae’r crynodebau diweddaraf ar ansawdd aer Safle Tirlenwi Hafod, fel y’u darparwyd gan Weithredwr y Safle, i’w gweld ar ein tudalen ‘Sut rydym yn rheoleiddio Safle Tirlenwi Hafod’.
|
|
|
|