|
Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd a’r blodau’n dod i’r golwg. Gallwn ddechrau mwynhau‘r awyr gynnes a’r nosweithiau wrth iddi oleuo. Croeso i'r rhifyn arbennig hwn am gerdded Llwybr Arfordir Cymru - ffyrdd ymarferol, cyfrifol a chyffrous o ddechrau archwilio'r llwybr. Beth am gychwyn eich taith gyda ni ym mis Mai - sef y mis cerdded cenedlaethol swyddogol!
Mae'r llwybr yn ffordd ragorol o archwilio’r hyn sydd ar garreg eich drws yn gyntaf. Bydd llawer o bobl yn cychwyn o'u cartrefi ac yna’n cael yr ysfa i gerdded Llwybr Arfordir Cymru a chrwydro ymhellach.
Rydyn ni wedi crynhoi rhai awgrymiadau a chynghorion syml ar gyfer "cerdded yn dda" - o gerdded gyda chŵn, sicrhau fod gennych ychydig o elfennau hanfodol i sicrhau bod eich taith gerdded yn fwy diogel ac yn fwy pleserus. Dewiswch fis Mai fel y mis i ddechrau archwilio arfordir Cymru. Darllenwch y blog
|
Bydd ychydig o waith paratoi yn talu ar ei ganfed - bydd gwirio'r llwybr ar Google Street View, amodau'r tywydd, gofalu bod gennych ddillad addas a gwybod beth i'w ddisgwyl yn sicrhau amser mwy pleserus ar y llwybr.
Ewch i'n tudalen Cynllunio eich Ymweliad i gael map rhyngweithiol, gwybodaeth am unrhyw ddargyfeiriadau dros dro, ap Llwybr Arfordir Cymru, tablau pellter ac arweinlyfrau swyddogol
|
Chwilio am rywfaint o ysbrydoliaeth er mwyn cerdded? Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Mae yna lawer o deithiau cerdded yn cael eu trefnu a digon o ddewis. O deithiau cerdded i ddysgwyr Cymraeg, gwyliau cerdded a digwyddiadau i godi awydd arnoch. Dyma beth sydd ar gael:
-
Cerdded i Lesiant ar hyd llwybr yr arfordir yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Gweithgaredd ardderchog i deuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr. (9 a 10 Mai)
- Teithiau Cerdded i Ddysgwyr Cymraeg - cyfle i ymarfer eich Cymraeg ar deithiau cerdded wedi'u trefnu gan Fenter Iaith Cymru, ac mae rhai ohonynt ar hyd llwybr yr arfordir. (amrywiol ddyddiadau a lleoliadau).
-
Gŵyl gerdded Gŵyr – Trefnir y digwyddiad blynyddol a phoblogaidd hwn gan arweinwyr teithiau cerdded o amgylch Gŵyr, sy’n rhan ysblennydd o'r llwybr. Mae angen tocynnau. (5-13 Medi 2026)
-
Cerddwyr Cymru - Trefnir teithiau cerdded gan aelodau grwpiau rhanbarthol ac maent yn cynnwys rhai o'r teithiau cerdded mwyaf godidog yng Nghymru, gan gynnwys llwybr yr arfordir.
-
Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro - Mae unig barc cenedlaethol arfordirol y DU yn cynnig teithiau cerdded arfordirol godidog gydag arbenigwyr lleol ym meysydd bywyd gwyllt, mythau a chwedlau lleol, treftadaeth ac archaeoleg. Dilynwch eu tudalen Facebook i ddod o hyd i deithiau cerdded hygyrch hefyd!
Yr ail ran fwyaf o'r llwybr cyfan (167 milltir/291km), defnyddiwch y pasbort Arfordir Llŷn ac Eryri i gynllunio ble i aros, bwyta ac yfed.
 map bws fflecsi Penrhyn Llŷn
Cofiwch ddefnyddio’r gwasanaeth bws fflecsi i archwilio y Penrhyn Llŷn a theithio o gwmpas y rhan boblogaidd hon o'r llwybr - cadarnle diwylliant a threftadaeth gydag amrywiaeth o olygfeydd, o draethau tywodlyd, cildraethau cudd a threfi a phentrefi tawel a phrysur.
Gwnewch y mwyaf o’r nosweithiau hirach a’r penwythnosau Gŵyl y Banc i archwilio mwy ar lwybr yr arfordir. Dyma ychydig o awgrymiadau (un ffordd yn bennaf):
 Eglwys Sant Cwyfan, Porth Cwyfan, Ynys Môn
Gogledd Cymru
Taith gerdded gylchol y Parlwr Du, Sir y Fflint - Mae'r daith gerdded wastad hon (2.6 milltir/4.2km) yn cychwyn o Dalacre ac yn eich arwain o gwmpas Y Parlwr Du lle ceir cerfluniau sy'n adlewyrchu treftadaeth yr ardal.
Promenâd Llanfairfechan, Conwy - Mae llwybr gwastad yn mynd â chi ar hyd glan y môr i warchodfa natur Glan y Môr Elias gyda golygfeydd drosodd i Ynys Môn. Mae hon yn daith ddelfrydol ar gyfer pramiau ac offer symudedd.
Llanbedrog i Abersoch, Pen Llŷn - Mae’r daith gerdded 4 milltir/6km (un ffordd) hon yn cychwyn yn oriel gelf Plas Glyn y Weddw ac yn mynd drwy goetiroedd i fyny at Fynydd Tir y Cwmwd, golygfan lle ceir cerflun metel trawiadol, ac sy’n edrych dros Fae Ceredigion cyn disgyn i’r traeth yn Abersoch. Defnyddiwch y gwasanaeth bws fflecsi i fynd â chi yn ôl i'ch man cychwyn.
Aberffraw i Borth Cwyfan, Ynys Môn - Gan gychwyn o bentref hanesyddol Aberffraw, mae'r daith 3 milltir/4km hon yn mynd ar hyd yr arfordir at yr eglwys brydferth hon yn y môr - Eglwys Sant Cwyfan ym Mhorth Cwyfan. Golygfa werth ei gweld a lle perffaith i eistedd a mwynhau’r machlud.
Canolbarth Cymru
Cei Newydd i Aberporth - Gan ddechrau o bwynt hanner ffordd swyddogol y llwybr yng Nghei Newydd, mae'r rhan hon sy’n 13 milltir/22km yn mynd rhwng Cwm Tydu a Llangrannog lle mae'r llwybr yn glynu wrth y llethrau arfordirol serth. Mae bws T5 TrawsCymru yn cysylltu dau ben y daith gerdded. Gofalwch eich bod yn mynd i weld y cerflun sy'n edrych dros harbwr Cei Newydd - mae hi'n chwythu cusan i ddymuno taith ddiogel i gerddwyr.
Aberporth i Dresaith, Ceredigion - Mae'r darn 2 filltir (un ffordd) hwn yn cynnwys golygfeydd trawiadol o ben y clogwyni gyda rhywfaint o'r llwybr yn addas i gadeiriau olwyn.
Gorllewin Cymru
Parc arfordirol y Mileniwm, Sir Gaerfyrddin - Gellir mwynhau'r rhan hon o'r llwybr (17 milltir/22km) ar droed neu ar gefn beic a gellir ei thorri’n rhannau llai ac mae lluniaeth/toiledau ar gael.
Traeth Marloes i Martins Haven, Sir Benfro - Mae'r darn 2 filltir/3km hwn o'r llwybr yn troelli o amgylch y clogwyni, ac yn cynnig golygfeydd godidog o ynysoedd Sgomer, Sgogwm a Gateholm, sy'n enwog am eu nythfeydd enfawr o balod. Gellir defnyddio'r bws fflecsi a gwasanaeth bws arfordirol Y Pâl Gwibio fel rhan o'r daith gerdded hon.
De Cymru
Bae Dwnrhefn i Nash Point, Bro Morganwg - mae 7 milltir/11km o arfordir Treftadaeth Morgannwg yn cynnig golygfeydd ysblennydd o ben y clogwyni a goleudy Nash Point.
Rest Bay i Warchodfa Natur Cynffig - O lan y traeth, i dwyni tywodlyd a golygfeydd dros Fae Abertawe, mae'r daith gerdded 3 milltir/5km hon yn gorffen yng Ngwarchodfa Natur Cynffig sy'n adnabyddus am ei thegeirianau lliwgar.
Cylchdaith Ystumllwynarth a Phen y Mwmbwls - Mae'r daith gerdded 4 milltir/7km hon yn ymweld â chastell Ystumllwynarth, yn cynnig golygfeydd godidog o ben y clogwyni a thaith gerdded ar y promenâd i ddychwelyd i'r Mwmbwls gyda'r opsiwn o ymestyn eich taith i ymweld â goleudy Pen y Mwmbwls.
Cylchdaith Port Talbot a Baglan, Castell-nedd Port Talbot - Mae'r daith gerdded 10 milltir/17km hon yn rhannu'n ddwy, mae'r rhan gyntaf yn mynd ar hyd promenâd Traeth Aberafan ac mae'r opsiwn arall yn cynnwys croesi'r bryniau uwchben y dref, gan fwynhau golygfeydd o'r arfordir o bell.
AWGRYM DA #1 Defnyddiwch Google Street View i gael syniad o’r llwybr ac i chwilio am y cyfleusterau lleol.
AWGRYM DA #2 Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd dechrau eich taith gerdded a cherdded i'ch llety neu gar - mae hyn yn arbed y drafferth o ruthro'n wyllt am y trên neu'r bws olaf ar y diwrnod!
 Harbwr Cei Newydd, Cerediigon
Cynlluniwch eich taith ar hyd Llwybr Arfordir Cymru gyda'r T5, lle gallwch deithio o Hwlffordd i Aberystwyth. Archwiliwch Sir Benfro a Cheredigion heb orfod poeni am barcio, ffioedd maes parcio na gyrru rhywle nad ydych chi'n gyfarwydd. Darllenwch mwy
Gydag amrywiaeth o olygfeydd arfordirol, mae'r llwybr rhwng Prestatyn a Llanfairfechan yn ddelfrydol ar gyfer cadeiriau olwyn, offer symudedd a theuluoedd â phramiau.
Mae'r rhan hon o arfordir gogledd Cymru tua 41.5 milltir/67.5km o hyd a gellir ei rhannu'n 6 rhan o tua 4-10 milltir. Mae'n gyfle ardderchog i archwilio ychydig mwy ar arfordir gogledd Cymru gydag offer symudedd a chyda theuluoedd iau.
Mae’r uchafbwyntiau'n cynnwys dewis o leoedd i fwyta, yfed ac aros, glannau môr bywiog, cyrchfan Fictoraidd Llandudno a'r opsiwn i ymweld â Gwarchodfa Natur RSPB Conwy i wylio adar yn hamddenol.
 person in a wheelchair on Llanfairfechan promenade
Mae cerdded y llwybr cyfan - sy’n 870 milltir/1,400km - yn gamp eithriadol.
Mae ein pasbortau yn rhannu'r llwybr cyfan yn rhannau mwy hwylus (mewn milltiroedd a chilometrau) gyda mannau cychwyn a gorffen mewn trefi, pentrefi a dinasoedd mawr. Defnyddiwch nhw fel mannau cychwyn ar gyfer ymchwilio i leoedd i fwyta, yfed ac aros ar hyd y ffordd, gan gynnig croeso Cymreig cynnes ac unigryw.
AWGRYM DA Y pasbortau yw'r ffordd ddelfrydol hen ffasiwn o gofnodi eich taith ar Lwybr Arfordir Cymru, gyda rhestr o leoedd ar gyfer pob rhan.
|
|
Un o'r eitemau sy'n gwerthu orau yw'r tystysgrifau cwblhau a'r crysau-T organig, chwaethus. Beth am ddechrau eich taith ar Lwybr Arfordir Cymru gyda dyluniadau ysbrydoledig, sydd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Perffaith i'r rhai sy'n cymryd y cam cyntaf ar eu taith ar Lwybr Arfordir Cymru neu beth am roi anrheg bach i chi'ch hun! Pori yn y siop
|
|
 |
 1,000+ milltir. Miloedd o gerddwyr. A ydyn nhw’n mynd heibio eich busnes chi?
Os ydych chi’n agos at Lwybr Arfordir Cymru neu Lwybr Cenedlaethol, gofalwch bod cerddwyr yn gallu dod o hyd i chi. Ymunwch â'n cronfa ddata fusnes am ddim heddiw er mwyn cael awgrymiadau a chynghorion hawdd eu gweithredu i wneud eich busnes yn fwy gweladwy i ymwelwyr ar y llwybr.
 |
|
Cysylltwch â cherddwyr eraill
Ymunwch â Chymuned swyddogol Llwybr Arfordir Cymru ar Facebook a chysylltwch â cherddwyr eraill y llwybr.
Byddwch yn barod i gael eich ysbrydoli gan brofiadau pobl eraill, dysgwch am y llwybr a logisteg teithio o gwmpas, gofynnwch am argymhellion ar leoedd i aros ar hyd y ffordd a’u rhannu!
|
Darganfyddwch fodelau o longddrylliadau 3D ar eich ffôn!
Os ydych chi wedi cerdded o gwmpas Rhosili, efallai eich bod chi wedi gweld olion llongddrylliadau'r Helvita a'r Vennerne yn y tywod.
Nawr, mae codau QR newydd gan History Points yn ei gwneud yn bosibl i ymwelwyr archwilio'r llongddrylliadau Fictoraidd hyn o dan y tywod gan ddefnyddio modelau digidol manwl. Mae cofnodion 3D o lawer o asedau hanesyddol fel llongddrylliadau yn ein helpu i ddarganfod eu straeon cyn iddynt gwrdd â'u tynged yn yr heli.
|
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar y cylchlythyrau hyn, boed yn dda neu'n ddrwg. Dywedwch wrthym sut y gallwn eu gwella i chi! Cyslltwch â ni
 |
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
 |
|
Gyda dros 11,000 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|