|
|
Os oes rhywbeth sydd ddim yn edrych yn iawn ar safle Kronospan, y ffordd orau o roi gwybod i ni yw drwy ei adrodd drwy ein sianeli swyddogol. Gellir gwneud hyn drwy ein ffonio’n uniongyrchol neu drwy gyflwyno adroddiad gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Peidiwch â chysylltu â swyddogion unigol, gan fod angen i adroddiadau ddod drwy’r llwybrau hyn er mwyn eu cofnodi, eu holrhain a’u hasesu’n gywir. Efallai na fydd adroddiadau sy’n cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol neu sy’n cael eu hanfon yn uniongyrchol at staff yn cynnwys digon o fanylion i ni weithredu.
|
|
|
Ar ôl i adroddiad ddod i law, caiff ei asesu gan ddefnyddio tystiolaeth, barn arbenigol a’r data sydd ar gael. Nid yw pob adroddiad yn gofyn ymweliad â’r safle. Mewn rhai achosion, gellir asesu’r wybodaeth o bell neu ochr yn ochr â’r data monitro presennol. Os bydd angen mwy o fanylion arnom, efallai y byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.
Mae’r dull hwn yn ein helpu i benderfynu ar yr ymateb mwyaf effeithiol a defnyddio ein hadnoddau ble cânt yr effaith fwyaf. Gallwch ddysgu mwy am sut rydym yn rheoleiddio Kronospan, gan gynnwys ein rôl a’n blaenoriaethau, ar ein tudalen Citizen Space sydd wedi’i diweddaru:
|
|
|
Mae pob adroddiad am ddigwyddiad a dderbyniwn yn ein helpu i lunio darlun cliriach o’r hyn sy’n digwydd ar y safle. Rydyn ni’n atal ac yn lleihau llygredd drwy flaenoriaethu’r digwyddiadau mwyaf difrifol, ar sail y risg i’r amgylchedd, i bobl ac i fywyd gwyllt.
Er ein bod yn deall bod ar bobl eisiau diweddariadau, nid ydym yn darparu adborth unigol ar bob adroddiad. Mae hyn yn caniatáu i’n timau ganolbwyntio ar asesu gwybodaeth a chymryd camau gweithredu lle bo’u hangen fwyaf. Caiff pob adroddiad ei adolygu’n arbenigol, hyd yn oed os na fyddwch yn clywed yn ôl gennym yn uniongyrchol.
|
|
|
Rydym yn ymwybodol y bu ddigwyddiad yn Ffatri Kronospan yn y Waun ddydd Sul 26 Ebrill. Fe wnaethon ni gysylltu â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a gweithredwr y safle. Aeth ein swyddogion i’r safle y noson honno ac eto’r bore canlynol. Mae ymchwiliad ar y gweill.
|
|
|
|