|
 Mae’r gwanwyn wedi dod, a gydag ef daw egin newydd, ŵyn y gwanwyn, a lefelau dŵr uwch ar hyd ran uchaf afon Gwy. Yn y rhifyn hwn, rydym yn rhoi cipolwg i chi ar y gwaith sy’n digwydd ar draws y dalgylch: cynllunio ar gyfer misoedd sychach, rheoli rhywogaethau goresgynnol, plannu coed gydag Ymddiriedolaeth Coed Cadw, a chyflwyniad i’n Swyddog Amaeth newydd, Bridie.
Fel bob amser, mae’r erthyglau isod wedi’u hysgrifennu gan aelodau o dîm y prosiect, yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf o lannau’r afon, y ffermydd a’r coedwigoedd lle mae’r gwaith hwn yn digwydd bob dydd.
Mae’r gwanwyn yn amser allweddol ar gyfer rhoi mesurau ar waith sy’n helpu ffermydd ac afonydd i ymdopi â’r misoedd cynhesach a sychach sydd i ddod.
Ar hyd ran uchaf afon Gwy ger Llangurig, mae ein gwaith ar ffermydd, yn ddiweddar, wedi canolbwyntio ar ddal mwy o ddŵr yn y dirwedd a gwella’r gallu i wrthsefyll amodau newidiol. Mae hyn yn cynnwys plannu coed, gosod ffensys, creu cynefinoedd, ac amrywiaeth o fesurau a gynlluniwyd i arafu llif y dŵr.
Ar un fferm, mae dros 2,000 o goed brodorol wedi’u plannu o fewn llain glustogi wedi’i ffensio, gan helpu i sefydlogi glannau’r afon, darparu cysgod, a chreu cynefin. Ar fferm gyfagos, mae plannu coed pellach a thros gilometr o ffensys yn gwarchod ardaloedd y glannau wrth wella rheolaeth y fferm.
Mae technegau arloesol hefyd yn cael eu defnyddio i fynd i’r afael ag erydu. Mae rhannau o lan yr afon wedi cael eu hatgyfnerthu gan ddefnyddio stanciau helyg byw, a fydd yn gwreiddio ac yn darparu sefydlogrwydd hirdymor mewn ardaloedd lle nad yw gosod ffensys yn addas.
Ymhellach ar draws y dalgylch, mae mesurau ‘arafu’r llif’ yn cael eu cyflwyno i gadw dŵr ar y tir am hirach. Mae’r rhain yn cynnwys gosod pren mewn cyrsiau dŵr bach, creu pyllau a phantiau, a rhyng-gipio dŵr ffo trwy fyndiau a phlannu.
Ar fferm ar afon Ieithon, mae cyfres o ymyriadau—gan gynnwys argaeau sy’n gollwng dŵr, creu gwlyptiroedd a blocio draeniau—wedi’u gosod i leihau llifau brig a storio dŵr o fewn y dirwedd.
Mae’r mesurau hyn yn helpu priddoedd i gadw lleithder, gan gynnal twf glaswellt a chynnal llif mewn afonydd yn ystod cyfnodau sych. Ochr yn ochr â hyn, mae rheoli pridd a llystyfiant da yn parhau i fod yn allweddol i feithrin gwydnwch hirdymor ar ffermydd.
 Llun: Gosod argaeau pren sy’n gollwng i arafu llifau uchel a dal gwaddod
 Llun: Lleiniau clustogi newydd eu ffensio i helpu sefydlogi glannau’r afon, darparu cysgod, a chreu cynefin, gan gadw stoc allan o’r sianel
|
|
|
Wrth i arwyddion cyntaf y gwanwyn ymddangos, mae rhywogaethau estron goresgynnol hefyd yn dod i’r golwg—ac felly dechrau’r tymor prysur o waith rheoli.
Yn dilyn gwaith arolygu a thriniaeth helaeth dros y ddwy flynedd diwethaf, mae gennym bellach raglen waith glir a phwrpasol ar gyfer yr haf sydd i ddod. Mae ein dull ni yn canolbwyntio ar leoliadau lle y gall ymyrraeth sicrhau’r budd hirdymor mwyaf, yn enwedig wrth atal lledaeniad rhywogaethau risg uchel i brif afon Gwy.
Un ffocws pwysig o hyd yw rheoli’r Pidyn-y-gog Americanaidd, yn enwedig ym mlaenddyfroedd afon Marteg, lle y mae wedi hen ymsefydlu. Bydd gwaith hefyd yn parhau mewn safleoedd llai, ynysig ar draws y dalgylch i reoli a lleihau ei ledaeniad.
Mewn mannau eraill, mae triniaeth bwrpasol wedi’i chynllunio ar gyfer efwr enfawr ger Llanfair-ym-Muallt a chlymog Japan ar afon Camarch. Bydd jac y neidiwr yn flaenoriaeth allweddol unwaith eto, gyda chynlluniau i’w dynnu â llaw ar afon Camarch ac afon Aran.
Eleni, rydym hefyd yn edrych i feithrin mwy o gyfranogiad gan y gymuned gyda’r gwaith hwn. Mae mynd i’r afael â jac y neidiwr yn benodol yn dibynnu ar nerth bôn braich, ac rydym wrthi’n datblygu diwrnod gwirfoddolwyr ar gyfer yn ddiweddarach yn yr haf. Bydd mwy o fanylion yn cael eu rhannu cyn hir!
 Llun: Eginblanhigyn jac y neidiwr yn ymddangos yn gynnar yn y gwanwyn
 Llun: Pidyn-y-gog Americanaidd yn ymddangos yn gynnar yn y gwanwyn
|
|
|
Ar 14 Mawrth, bu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Gweithredu dros Afonydd—yn foment byd-eang i gydnabod pwysigrwydd afonydd iach a’r angen i’w gwarchod.
Ledled Cymru, mae afonydd dan bwysau cynyddol oherwydd newid yn yr hinsawdd, llygredd, colli cynefinoedd a rhwystrau i symudiad pysgod. Mewn ymateb, mae CNC yn cyflwyno rhaglen o brosiectau adfer sy’n gweithio gyda phrosesau naturiol i wella iechyd afonydd ar raddfa dalgylch.
Yma yn rhan uchaf afon Gwy, mae’r gwaith hwnnw’n cael ei gyflawni mewn partneriaeth â ffermwyr a thirfeddianwyr. Ers cychwyn y prosiect, mae ystod eang o welliannau wedi’u gwneud—o blannu coed a gwarchod glannau afonydd, i greu cynefinoedd a chymryd camau i arafu’r llif.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o ymdrech ehangach ledled Cymru, gan gynnwys prosiectau adfer ar afonydd fel afon Dyfrdwy, afon Teifi, afon Tywi ac afon Wysg. Er bod pob prosiect wedi’i wreiddio yn ei dirwedd leol, mae gan bob un nod cyffredin: adfer afonydd fel y gallant gynnal bywyd gwyllt a chymunedau, a wynebu heriau hinsawdd sy’n newid yn well.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Gweithredu dros Afonydd yn ein hatgoffa bod y gwaith hwn yn bwysig, a bod gweithredu hirdymor, ar y cyd, yn hanfodol i ddiogelu dyfodol ein hafonydd.
 Llun: Adfer afonydd gan CNC—o’r chwith i’r dde: LIFE Afon Dyfrdwy, Pedair Afon LIFE, a Phrosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf
|
|
|
Ymunodd Bridie â’r prosiect ym mis Ionawr fel ein Swyddog Amaethyddiaeth newydd, gan ddod â chefndir mewn ffermio a brwdfrydedd dros weithio gyda thirfeddianwyr i gynnal yr amgylchedd.
Wedi ei magu ar fferm laeth ar un o is-afonydd afon Gwy, mae gan Bridie ddealltwriaeth ddofn o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu busnesau fferm. Mae ei gyrfa wedi cynnwys rhedeg ei fferm wyau maes ei hun, gweithio gyda Chymdeithas y Pridd fel arolygydd fferm, ac yn fwy diweddar, cynghori ffermwyr ar draws dalgylch afon Gwy gyda Sefydliad Gwy ac Wysg.
Mae ei gwaith ar y prosiect yn canolbwyntio ar gynorthwyo ffermwyr i gyflawni gwelliannau ymarferol i reoli tir sy’n fuddiol i’r fferm a’r afon. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar iechyd pridd, rheoli maethynnau, a medru gwrthsefyll amodau tywydd sy’n newid.
Mae Prosiect Gwy Uchaf wedi ariannu’n llawn cyflenwi a gosod dwy orsaf dywydd ar ddalgylch afon Ieithon, ac mae Bridie wedi bod yn cynorthwyo Dŵr Cymru i leoli’r rhain ar ffermydd yn eu grwpiau stiwardiaeth dŵr. Bydd y gorsafoedd tywydd yn darparu data lleol cywir i helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, a lleihau’r risg o golli maethynnau i’r afon.
Fel y mae Bridie yn ei egluro, “Yr hyn sy’n rhoi llawenydd wrth weithio ar brosiectau fel hyn yw dod o hyd i’r pethau lle y mae pawb ar eu hennill—lle mae’r hyn sy’n dda i’r afon hefyd yn dda i’r fferm.”
 Llun: Cwrdd â Bridie: Ein Swyddog Amaeth newydd
|
|
|
Gydag etholiadau’r Senedd ym mis Mai yn prysur agosáu, mae’n gyfle da i fyfyrio ar sut y mae Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf yn helpu i droi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn gamau ymarferol ar lawr gwlad. Mae ein gwaith yn cyd-fynd yn agos â chynllun corfforaethol CNC hyd at 2030, sy’n anelu at “fyd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd.”
Mae’r blaenoriaethau cenedlaethol hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y ffordd rydym yn gweithio’n lleol—trwy bartneriaeth, cyd-ddylunio, a chanolbwyntio ar ganlyniadau hirdymor. Ar draws y dalgylch, mae hyn yn golygu cydweithio’n uniongyrchol â ffermwyr i gyflawni gwelliannau wedi’u teilwra, wedi’u hariannu’n llawn, sy’n fuddiol i’r afon a busnes y fferm.
Dyma sut rydym yn trosi blaenoriaethau yn gamau gweithredu lleol:
- Gwrthsefyll yr hinsawdd: Mae mesurau ‘arafu’r llif’, creu pyllau a phlannu coed glannau afon yn arafu llif y dŵr, yn lleihau brigiau llifogydd, ac yn byffro yn erbyn misoedd sychach.
- Adferiad byd natur: Mae adfer glannau afonydd, nodweddion gwlyptiroedd, a phlannu coed brodorol yn gwella cynefinoedd ar gyfer pysgod, amffibiaid, infertebratau ac adar.
- Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Mae ymweliadau cynghori ac ymyriadau ymarferol yn helpu ffermydd i leihau colli maethynnau, gwella iechyd y pridd, a gwella gwydnwch y dirwedd. Gall unrhyw newidiadau a weithredir gefnogi a chyfrannu at gamau gweithredu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Gyda’i gilydd, mae’r gwaith hwn yn dangos sut y gellir cyflawni polisi cenedlaethol mewn ffordd sy’n ymarferol, yn gydweithredol, ac wedi’i seilio ar realiti rheoli tir yn rhan uchaf afon Gwy.
Mae ein dull ar raddfa dalgylch yn sicrhau nad datganiadau polisi yn unig yw’r blaenoriaethau hyn, ond gwelliannau gweladwy a thiriaethol i’n hafonydd, bywyd gwyllt a chymunedau.
 Llun: Diolch i’n partneriaeth newydd gydag Ymddiriedolaeth Coed Cadw, cyrhaeddodd miloedd o goed ifanc y gwanwyn hwn—fe’u dangosir yma yn cael eu dadlwytho a’u storio’n barod i’w plannu ar ffermydd ar draws y dalgylch
|
|
|
Mae Prosiect Adfer Dalgylch Uchaf Afon Gwy #AdferUchafAfonGwy wedi’i ariannu gan Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, rhan o’r Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr, i adfer cyflwr rhan uchaf afon Gwy.
Nod cyffredinol y prosiect hwn yw gwarchod rhywogaethau a gwella cynefinoedd trwy fynd i’r afael ag amrywiaeth o bwysau sy’n effeithio ar yr afon.
Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio ar gyfer diweddariadau yn y dyfodol, rhowch wybod i ni drwy’r cyfeiriad e-bost isod.
Pe bai’n well gennych gopi papur o’r cylchlythyr, cysylltwch â ni.
E-bost: AdferGwyUchaf@cyfoethnaturiol.cymru
Gwe: Gwefan Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf
Y cyfryngau cymdeithasol: Facebook, Instagram, X
|
|
|
|
|