 Mae cynefinoedd arfordirol naturiol – fel twyni tywod, graean bras a morfeydd heli – yn darparu miliynau o bunnoedd o fuddion i gymunedau yng Nghymru o ganlyniad i’w gallu i liniaru perygl llifogydd, yn ôl astudiaeth newydd.
Aethom ati i lunio’r adroddiad ar y cyd â’r ymgynghorwyr morol ABPmer a’r ymgynghorydd economaidd eftec. Mae’r astudiaeth, sy’n cwmpasu Cymru gyfan, wedi edrych ar fathau gwahanol o gynefin arfordirol ac wedi archwilio eu rôl wrth liniaru perygl llifogydd.
Edrychodd ar nodweddion y gwahanol gynefinoedd a pha mor effeithiol ydynt wrth glustogi ynni tonnau, lleihau uchder tonnau a lleihau llifogydd llanwol.
Mae'r astudiaeth yn amcangyfrif y gallai'r cynefinoedd hyn ddarparu £36 miliwn o fuddion bob blwyddyn o ran lliniaru perygl llifogydd. Cyfrifwyd y ffigur hwn gan ystyried y difrod a osgowyd i eiddo, tir amaethyddol a seilwaith megis ffyrdd a rheilffyrdd.
Mae rhai o'r ardaloedd allweddol lle mae cynefinoedd wedi'u nodi fel rhai sydd â'r potensial i ddarparu budd economaidd pwysig o ran lliniaru perygl llifogydd yn cynnwys Port Talbot, Casnewydd, Castell-nedd, Abertawe, Bae Caerfyrddin, ac ar hyd arfordir y Gogledd.
Fodd bynnag, er mwyn i gynefinoedd arfordirol gyrraedd eu potensial llawn o ran lleihau effeithiau llifogydd a chynnal ecosystem iach, mae angen iddynt fod mewn cyflwr da.
Mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi bod llawer o gynefinoedd yr arfordir mewn cyflwr gwael ac wedi'u heffeithio gan golli a darnio cynefinoedd - a bydd pwysau newid hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr yn achosi mwy o ddifrod.
Amcangyfrifir bod tua 30% o arwynebedd twyni tywod gwreiddiol Cymru wedi'i golli ers 1900, a gallai hyd at chwarter o forfeydd heli mewn ardaloedd morol gwarchodedig Cymru ddiflannu erbyn 2155.
Wrth i wyliau'r Pasg agosáu, a mwy ohonom yn mynd allan i'r awyr agored, mae'n amser gwych i atgoffa cerddwyr cŵn sut i fwynhau'r awyr agored yn gyfrifol trwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad.
Daeth cyfraith newydd i rym ar 18 Mawrth, gan gryfhau mesurau diogelu i dda byw rhag ymosodiadau gan gŵn. Mae Deddf Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio) 2025 yn cyflwyno dirwyon diderfyn am aflonyddu ar dda byw, yn rhoi pwerau cryfach i'r heddlu i gadw cŵn yn gaeth a chasglu tystiolaeth, ac yn ymestyn mesurau diogelu i ffyrdd a llwybrau.
Hefyd, mae'r diffiniad o dda byw wedi'i ddiweddaru i gynnwys camelidau fel alpacas a lamas.
Gall unrhyw gi aflonyddu ar dda byw, felly'r dull mwyaf diogel yw cadw cŵn ar dennyn o amgylch anifeiliaid fferm. Os ydych chi'n teimlo dan fygythiad gan dda byw neu geffylau, rhyddhewch eich ci fel y gall y ddau ohonoch gyrraedd man diogel yn haws.
Mae'r gwanwyn hefyd yn nodi dechrau tymor nythu adar sy'n nythu ar y ddaear, sydd o dan fygythiad arbennig gan aflonyddwch ar yr adeg hon o'r flwyddyn.
Gall hyd yn oed cŵn tawel, wedi'u hyfforddi'n dda, ddychryn adar o'u nythod neu niweidio wyau. Cadwch eich ci ar dennyn byr yn ystod y tymor nythu, a chofiwch ei bod yn ofyniad cyfreithiol i wneud hynny ar dir mynediad agored rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf.
Parchwch unrhyw arwyddion, dargyfeiriadau dros dro, a chyfyngiadau ar gŵn y dewch ar eu traws, a chadwch at lwybrau teithio poblogaidd i leihau'r risg o aflonyddu ar safleoedd nythu.
Gallwch ddarllen y Cod Cefn Gwlad llawn ar ein gwefan.
 Mae gwaith un o’n timau ar adfer rhywogaethau yng Nghymru wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Dewi Sant.
Mae Dr John Taylor, Oliver Brown, Richard Davies, a Haydn Probert yn rheoli Deorfa Cynrig, ger Aberhonddu, lle maen nhw'n magu ac yn adfer rhai o rywogaethau’r DU sydd dan y bygythiad mwyaf, gan gynnwys llygod pengrwn y dŵr, cimychiaid afon crafanc wen, misglod perlog, a thorgoch yr Arctig.
Fe wnaethon nhw ennill categori Pencampwr yr Amgylchedd, a ddyfernir i berson neu grŵp sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol at wella eu hamgylchedd, naill ai'n lleol, ledled Cymru neu'n rhyngwladol.
Rydym yn gosod systemau adnabod platiau rhif awtomatig (ANPR) heb rwystrau yng Nghoed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian a Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch.
Dechreuodd y gwaith o’u gosod ganol mis Mawrth a dylai'r system newydd fynd yn fyw ar 30 Mawrth.
Bydd hyn yn cael ei reoli mewn partneriaeth â First Parking a RingGo yn dilyn ymarfer caffael.
Gellir gwneud taliadau ar-lein, drwy ap neu gyda cherdyn mewn peiriannau parcio ar y safleoedd a gall ymwelwyr ymestyn eu hamser parcio ar-lein neu drwy ddefnyddio'r ap.
Mae gan ymwelwyr hyd at hanner nos ar y diwrnod y maen nhw’n cyrraedd i dalu am barcio ac mae ffenestr o 30 munud ar ôl cyrraedd lle na chodir tâl arnynt.
Ni chaniateir parcio dros nos ar unrhyw safle CNC a gallai’r rhai sy'n cael eu dal wynebu dirwy.
“Bydd yr incwm a gynhyrchir yn cael ei ailfuddsoddi yn ein hasedau hamdden ac amgylcheddol yn yr ardal i’n helpu i gefnogi cymunedau ac ymwelwyr i gysylltu â’r awyr agored a natur.”
O 6 Ebrill ymlaen, bydd angen i bob gweithle wahanu eu hoffer trydanol gwastraff bach ar gyfer ailgylchu. Bydd hyn yn arbed metelau gwerthfawr rhag cael eu colli i safleoedd tirlenwi, yn lleihau allyriadau carbon ac yn atal difrod amgylcheddol.
Mae’r rheol hon yn berthnasol i unrhyw eitem gyda phlyg, batri, neu gebl sy'n mesur 50cm neu lai ar bob ochr, fel gliniaduron, ffonau, tegelli, tostwyr, dyfeisiau meddygol, ac offer pŵer.
Mae rhai eitemau gwastraff trydanol bach yn beryglus a bydd angen eu rheoli'n wahanol. Os nad ydych chi'n siŵr, cymerwch ei fod yn beryglus a siaradwch â'ch casglwr gwastraff i gael cyngor i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei waredu'n ddiogel.
Am gyngor ar asesu eich gwastraff, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Sut i ddosbarthu ac asesu eich gwastraff.
Os oes gennych gwestiynau ynghylch sut i gydymffurfio â rheolau ailgylchu yn y gweithle, e-bostiwch WorkplaceRecycling@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
 Rydym wedi symud i gam nesaf ein rhaglen hirdymor i gynaeafu ac ailblannu ardaloedd o goedwigoedd ledled de-orllewin Cymru yr effeithiodd Storm Darragh arnynt ym mis Rhagfyr 2024.
Cafodd mwy na 650 hectar o goedwig, sy’n cyfateb i 900 o gaeau pêl-droed, eu difrodi gan wyntoedd 90 mya y storm, a disgwylir i’r adferiad gymryd tair i bum mlynedd. Ar draws Cymru, roedd y difrod yn cwmpasu 2,500 hectar.
Mae tua 200 hectar o goed sydd wedi syrthio eisoes wedi cael eu cynnwys yn ein rhaglen cynaeafu a gwerthu pren, fel y gellir defnyddio'r pren yn hytrach na'i wastraffu.
Mae cynlluniau bellach ar waith ar gyfer y 450 hectar sy'n weddill, ac mae'r gwaith yn cael ei gyflwyno'n ofalus fesul cam fel nad yw busnesau coed lleol yn cael eu llethu.
Mae pob safle cynaeafu yn cael ei asesu am fywyd gwyllt, nodweddion treftadaeth a pheryglon cyn i’r gwaith ddechrau. Gall tymhorau bridio, tywydd gwael neu argaeledd contractwyr ohirio gweithrediadau, ond diogelwch a chynaliadwyedd yw blaenoriaethau pennaf CNC o hyd.
Mae’r adferiad parhaus yn cael ei arwain gan dîm bach ond ymroddedig. Gyda’i gilydd, maen nhw’n rheoli 10,900 hectar o goedwig ar draws y de-orllewin.
|