|
|
Croeso i rifyn y gaeaf cylchlythyr LIFE Afon Dyfrdwy
Y cynnydd a wnaed gennym hyd yn hyn…
- 20,000 o goed wedi’u plannu
- 8,430 tunnell o raean, clogfeini a deunydd pren wedi’u cyflwyno i’r afon
- Wedi sefydlogi 840 metr o lannau afonydd gan ddefnyddio dulliau naturiol
- 46.5km o ffensys ar hyd glannau afonydd wedi’u cwblhau
- 14 o gwlfertau draenio coedwig wedi’u gwella
- 13 rhwystr wedi’u tynnu neu wedi’u haddasu
- 1 groesfan afon newydd wedi’i gosod mewn coedwig
Un o brif amcanion y prosiect yw galluogi pysgod mudol, megis eogiaid a brithyllod môr, i symud ar hyd yr afon i’w mannau silio ac oddi yno yn haws drwy waredu neu addasu rhwystrau fel coredau ar hyd afon Dyfrdwy a’i hisafonydd allweddol.
Nododd ein Swyddog Adfer Afonydd un rhwystr o’r fath, sef cored ar afon Teirw, sy’n llifo i afon Ceiriog, ac ail gored gysylltiedig yn llai o faint ar is-nant gyfagos. Mae’r coredau hyn wedi bod yn ddiangen ers dros 30 mlynedd, pan oeddent yn rhan o gynllun cludo dŵr yn pibellu dŵr glân i lawr i bentrefi Pandy a Glyn Ceiriog.
Mae’r ddwy gored yn effeithio ar symudiadau pysgod a bioamrywiaeth ddyfrol arall, ac yn atal symudiad graean afonydd a gwaddod. Y nod, felly, oedd adfer prosesau afonydd naturiol ar hyd y darn hwn o afon Teirw. Yn ystod ymweliad â’r contractwr cyn y gwaith, gwelwyd dau bysgodyn yn ceisio neidio’r brif gored ond yn methu, a oedd yn brawf bod anhawster i bysgod fynd heibio yma.
Tynnwyd y ddwy gored i lefel y gwely gan ddefnyddio peiriant gyda phigwr a bwced cloddio. Mae’r lleoliad yn bell o unrhyw anheddau neu ffyrdd. Felly, ni fydd unrhyw effaith wrth i wely’r sianel addasu i’w lefel newydd ar ôl tynnu pob cored. Gosodwyd darn o ffens a giât siglo dros yr afon hefyd i atal defaid rhag mynd i’r cwrs dŵr.
Gwnaed y gwaith o dan rybudd, trwy gydsyniad cwrs dŵr cyffredin gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cydnabyddir yn ddiolchgar gydweithrediad y cyngor a pherchnogion tir lleol, yn ogystal â gwaith effeithlon a thaclus y contractwr.
Roedd y rhain yn goredau ychwanegol at amcanion cychwynnol y prosiect - mae eu tynnu’n dangos effeithiolrwydd tîm ymroddedig a chontractwyr medrus sy’n gallu cyflawni gwaith yn yr afon.
|
|
Mae misglod perlog yn greaduriaid rhyfeddol a all fyw am dros gan mlynedd. Maen nhw’n helpu i gadw afonydd yn lân trwy hidlo hyd at 50 litr o ddŵr bob dydd, ond, yn anffodus, maen nhw bellach mewn perygl difrifol yn Ewrop. Yn nalgylch afon Dyfrdwy, dim ond poblogaeth fach iawn sydd ar ôl. Ni welwyd unrhyw fisglod ifanc ers blynyddoedd, oherwydd ansawdd dŵr gwael a cholli cynefin.
Mae’r boblogaeth fregus hon, un o’r olaf sy’n weddill yng Nghymru, yn rhy fach i adfer ar ei phen ei hun ac mae angen magu misglod mewn caethiwed a’u rhyddhau i’w helpu i oroesi yn y dyfodol. Rydyn ni wedi mynd â misglod llawndwf i ddeorfa arbennig lle gallant fridio’n ddiogel, nes eu bod nhw’n barod i gael eu rhyddhau yn ôl i’r afon.
I baratoi ar gyfer dychweliad y misglod ifanc, rydym wedi adfer rhan 300 metr o afon Alwen yn Llanfihangel Glyn Myfyr trwy greu cynefin sy’n llawn graean, clogfeini a deunydd pren i’w helpu i dyfu ac i ffynnu. Mae angen dŵr glân, cyflym arnyn nhw gyda gwely afon sefydlog a digon o adeileddau fel cerrig a boncyffion, a fydd yn darparu pocedi o gynefin gwarchodedig i gysgodi rhag llifau uchel.
Gan weithio’n agos gyda pherchennog y tir, gosodwyd deunydd pren mawr yn y sianel a gosodwyd 60 tunnell o raean ym mhen uchaf y safle yn barod i lif y gaeaf ei ddosbarthu’n naturiol i lawr yr afon. Yn ogystal â’r deunydd a osodwyd yn y sianel, cafodd y rhan gyfan ei ffensio â ffensys panel trwm i atal mynediad at yr afon gan ei bod wrth ymyl man picnic a chwarae. Mae’r safle bellach yn barod ar gyfer ailgyflwyno’r misglod perlog ar ddiwedd y gwanwyn neu ar ddechrau’r haf eleni.
Drwy adfer y nodweddion naturiol hyn, rydym yn rhoi cyfle i’r misglod perlog oroesi. Nid yw’r gwaith hwn yn helpu un rhywogaeth yn unig - mae’n fuddiol i ecosystem yr afon gyfan, gan ei gwneud yn iachach ac yn fwy gwydn am genedlaethau i ddod. Gallwch wrando ar ein swyddogion prosiect yn esbonio cylch bywyd diddorol y fisglen berlog yma.
Gyda diolch yn fawr i Gyngor Cymuned Llanfihangel Glyn Myfyr am eu cydweithrediad wrth gyflawni’r prosiect hwn.
|
|
|
Mae gennym newyddion cyffrous o afon Tryweryn! Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae eogiaid wedi cael eu gweld yn silio ar y graean rydyn ni wedi bod yn ei gyflwyno’n rheolaidd yn y rhan hon o’r afon fel rhan o’r prosiect. Efallai eich bod chi’n ein cofio ni’n sôn yn ein cylchlythyr diwethaf ein bod ni yn yr hydref yn cyflwyno cannoedd o dunelli o raean yma, sy’n hanfodol ar gyfer silio pysgod gan ei fod yn darparu amgylchedd glân, llawn ocsigen i gladdu wyau ac yn creu cynefin cysgodol lle gall silod mân ddatblygu’n ddiogel. Rydym wrth ein bodd yn gweld bod yr ymdrechion hyn yn gwneud gwahaniaeth, a bod eogiaid yn wir yn silio yn yr ardaloedd hyn.
Y gaeaf hwn yw’r tro cyntaf i ni lwyddo i gipio ffilm drôn o bysgod yn silio yma, ond doedden ni ddim eisiau mynd yn rhy agos rhag ofn y bydden ni’n aflonyddu arnynt felly gallai fod yn anodd eu gweld yn glir yn y fideo. Y darnau o raean o liw golau ar wely’r afon yw’r claddau silio – yr ardaloedd sydd wedi cael eu haflonyddu gan eog benyw wrth iddi greu pant yng ngwely’r afon lle bydd hi’n dodwy miloedd o wyau o bosibl.
Mae hyn yn newyddion gwych i’r prosiect, ac yn dangos pa mor bwysig yw cyflwyno graean yn barhaus o dan gronfa ddŵr er mwyn sicrhau cynefin silio o ansawdd da.
|
|
|
Mae coridorau glan afon yn effeithiol iawn wrth atal da byw rhag potsio’r glannau a lleihau gwaddod a maethynnau rhag mynd i mewn i afon Dyfrdwy. Mae’r coridorau’n gweithredu fel stribedi clustogi sy’n amddiffyn yr afon yn ogystal ag annog ecosystemau ar lannau afonydd i ffynnu.
Y gaeaf hwn, mae cyfanswm o 2.6 cilometr o goridor glan afon wedi’i greu yn rhan uchaf y dalgylch. Mae hyn yn cynnwys ffensys 1,000 metr o hyd sy’n ymestyn o’n gwaith blaenorol ar afon Mynach, a gosod system ddŵr pwmp solar a fydd yn gwahardd yr holl dda byw o’r rhan hon o’r afon.
Yn ogystal â’r gwaith ar afon Mynach, mae is-afon fach ddienw sy’n mynd i mewn i afon Tryweryn tua 100 metr islaw ei chydlifiad ag afon Mynach wedi’i ffensio’n llwyr. Bydd perchennog y tir yma yn darparu cyflenwad dŵr amgen i dda byw yn y caeau cyfagos. Mae’r math hwn o lednant fach yn bwysig iawn i’r dalgylch gan fod brithyllod a brithyllod môr yn defnyddio’r ardaloedd hyn i silio. Yn y gorffennol, mae pysgod hyd at dri phwys wedi cael eu gweld yn silio yn y nant hon!
Y darn olaf o ffensio yn rhan uchaf afon Dyfrdwy y gaeaf hwn yw darn 500 metr o hyd ar y brif afon yn Nhŷ Isaf. Mae’r coridor glan afon hwn yn barhad o ffensio blaenorol rydyn ni wedi’i gwblhau yma gyda thirfeddianwyr eraill, ac rydyn ni’n falch o ddweud bod hyn bellach yn golygu bod yr ardal gyfan i fyny’r afon o Fodwenni wedi’i ffensio’r holl ffordd i’r Bala. Mae’r cynllun diweddar hwn hefyd yn cynnwys system ddyfrio sy’n cael ei phweru gan yr haul, a bydd yn atal gwartheg godro rhag mynd i mewn i’r cwrs dŵr.
Gyda diolch i’r holl dirfeddianwyr rydyn ni wedi gweithio gyda nhw yn yr ardal hon i gyflawni hyd mor hir o ffens barhaus yn rhan uchaf y dalgylch.
|
|
|
Ar ôl gweithio ar brosiect LIFE Afon Dyfrdwy fel swyddogion rheoli tir am bedair blynedd, gofynnwyd i Tom ac Ifor grynhoi rhai o’u huchafbwyntiau yn ystod y prosiect a rhannu cipolwg ar eu rolau o ddydd i ddydd, o welliannau i fuarthau ffermydd i uwchraddio cwlfertau, a gosod croesfannau mewn coedwigoedd i greu glannau sydd wedi’u sefydlogi’n naturiol.
“Rhoddodd gweithio fel swyddog rheoli tir ar brosiect LIFE Afon Dyfrdwy gyfle i mi dreulio llawer o amser allan ar lawr gwlad, yn gweithio’n uniongyrchol gyda ffermwyr, coedwigwyr a sefydliadau partner ar draws dalgylch afon Dyfrdwy. Roedd y rôl yn amrywiol ac yn ymarferol, gan gyfuno ymweliadau â safleoedd, datrys problemau a threfnu cyflawni, i gyd â’r nod cyffredin o wella ansawdd dŵr a chefnogi rheolaeth tir fwy cynaliadwy.
“Treuliais lawer o fy amser yn nodi lle gallai newidiadau bach, wedi’u targedu wneud gwahaniaeth gwirioneddol - boed hynny’n gwella seilwaith ffermydd, lleihau dŵr ffo i afonydd, neu uwchraddio llwybrau coedwigaeth i reoli dŵr yn well yn ystod glaw trwm. Roedd yn rôl a oedd angen hyblygrwydd, cyfathrebu da, a dealltwriaeth o sut mae nodau amgylcheddol yn ffitio i mewn i reoli tir o ddydd i ddydd …”.
|
|
|
 Cynhadledd Dyfrdwy
Ym mis Hydref, cynhaliwyd digwyddiad ar y cyd â sefydliadau partner trawsffiniol yn Storyhouse yng Nghaer - ‘Gweithio Gyda’n Gilydd dros Afon Dyfrdwy: Cynhadledd Amgylcheddol Ledled yr Afon’. Nod y gynhadledd oedd gyrru adferiad afon Dyfrdwy ymlaen trwy gydweithio ar draws y dalgylch cyfan, gan rannu gwybodaeth a nodi cyfleoedd newydd i gydweithio. Darllenwch fwy am y gynhadledd yma.
Cynhadledd Ecolegwyr y Parciau Cenedlaethol
Cynhaliodd un o’n partneriaid prosiect, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Gynhadledd Ecolegwyr y Parciau Cenedlaethol yn y Bala ym mis Hydref diwethaf, ac roeddem wrth ein bodd eu bod wedi dewis canolbwyntio eu hymweliad maes ar waith prosiect LIFE Afon Dyfrdwy.
Cawson ni ddiwrnod gwych yn croesawu dros 20 o ecolegwyr o bob cwr o’r DU i archwilio ein safleoedd a gweld â’n llygaid ein hunain sut rydym yn adfer cynefinoedd, yn gwella cysylltedd afonydd, ac yn cefnogi bioamrywiaeth ar hyd afon Dyfrdwy. Cymerwch olwg ar y fideo uchafbwyntiau trwy'r botwm isod.
Astudiaeth achos Dam Removal Europe
Diolch i Dam Removal Europe am gynnwys ein gwaith tynnu coredau yn Erbistog fel astudiaeth achos fanwl ar eu gwefan. Gallwch ddarllen yr astudiaeth achos lawn yma.
Cynllun Llysgenhadon Eryri
Mae Cynllun Llysgenhadon Eryri yn gyfle hyfforddi unigryw i ddysgu am yr hyn sy’n gwneud Eryri yn eithriadol a chwarae rhan wrth ddiogelu’r Parc Cenedlaethol am genedlaethau i ddod. Rydym yn falch bod gwaith prosiect LIFE Afon Dyfrdwy wedi’i gynnwys yn y modiwl Tirweddau Amrywiol yn y cwrs hyfforddi, y gellir ei gyrchu yma.
|
|
 Mae 2026 yn addo bod yn flwyddyn gyffrous iawn wrth i ni ddechrau gweithio ar dri chynllun allweddol i wella gallu pysgod i symud ar hyd afonydd, ac mae pob un ohonynt wedi bod yn eu cyfnod cynllunio ers sawl blwyddyn.
- Y cyntaf o’r rhain yw creu sianel osgoi yn Rhaeadr y Bedol, yn dilyn cymeradwyo caniatâd cynllunio ar ddiwedd 2025. Rydym yn edrych ymlaen at weld gwelliannau i alluogi pysgod i symud heibio’r safle hwn yn haws am y tro cyntaf ers dros 200 mlynedd. Rydym yn disgwyl i’r gwaith gymryd sawl mis ar y safle ac rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r tirfeddianwyr a’r clwb pysgota i leihau aflonyddwch.
- Yr ail gynllun i’w gyflawni eleni yw cored y Waun. Byddwn yn gosod ysgol bysgod Larinier, a sgrinio gwell ar y safle, i wneud y gored yn haws i eogiaid a brithyllod môr fynd heibio iddi.
- Yn olaf, byddwn yn helpu llysywod i symud heibio i gored fedryddu Manley Hall. Yn dilyn arolygon y llynedd, roedd yn amlwg mai dyma bellach y rhwystr i fyny’r afon i lysywod pendoll yr afon a’r môr, felly mae gwella eu gallu i symud heibio’r pwynt hwn yn hanfodol i oroesiad y rhywogaethau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig hyn yn y dyfodol.
|
|
|
|
|