|
 Mae’r rhifyn hwn o’r cylchlythyr yn rhoi cipolwg i chi ar yr hyn sy’n digwydd ar draws y blaenddyfroedd, o’r gaeaf i’r gwanwyn: partneriaethau newydd, mewnwelediadau gwaith maes, lleisiau o’r gymuned ffermio, a gwahoddiad i fwy o dirfeddianwyr gymryd rhan. Mae eogiaid yn mudo i fyny’r afon i silio, mae plannu coed yn dechrau o ddifrif, ac mae ein tîm yn gweithio’n agos gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i gynllunio cam nesaf y gwaith adfer.
Fel bob amser, mae pob erthygl wedi’i hysgrifennu gan aelodau o dîm y prosiect neu gan bobl sy’n gweithio ochr yn ochr â ni – gan rannu straeon yn syth o lannau afon, buarthau a choedwigoedd rhan uchaf afon Gwy.
 Digwyddiad rhanddeiliaid 2024 yn Llandrindod, gyda’r ffermwr lleol Geraint yn rhannu ei fewnwelediadau
Dim ond trwy gydweithio cryf â’r bobl sy’n adnabod y tir orau y mae adfer iechyd afonydd yn nalgylch uchaf afon Gwy yn bosibl. Mae ffermwyr a rheolwyr tir yn llunio’r dirwedd, gan ddylanwadu ar y dŵr sy’n llifo drwyddi, ac mae eu cyfranogiad yn hanfodol ar gyfer adfer iechyd afonydd.
Mae ein dull wedi’i seilio ar gydlunio, ymddiriedaeth, a chymorth wedi’i ariannu’n llawn. Mae pob fferm yn wahanol, felly rydym yn teilwra datrysiadau i ddiwallu anghenion y busnes a’r afon. Gallai hyn gynnwys ffensys atal stoc i amddiffyn glannau afonydd, mannau yfed amgen, lleiniau clustogi, plannu coed, neu waith adfer wedi’i dargedu yn y sianel.
Daw newid parhaol o weithredu gwirfoddol a chyfrifoldeb a rennir. Drwy ddeall cymhellion, heriau a blaenoriaethau ffermwyr, rydym yn gallu cyflwyno mesurau ymarferol sy’n gweithio ar lawr gwlad – ac y mae tirfeddianwyr yn teimlo’n hyderus yn eu mabwysiadu.
Nid yw afonydd yn adnabod ffiniau, felly mae’n rhaid i ni weithio ar raddfa dalgylch. Pan fydd nifer o ffermydd yn mabwysiadu arferion tebyg sy’n gyfeillgar i afonydd, mae’r manteision yn lluosi: llai o golli pridd, llai o faethynnau yn mynd i’r dŵr, cynefinoedd iachach, a ffermydd mwy cydnerth.
Gan edrych ymlaen at 2026, rydym yn arbennig o awyddus i siarad â ffermwyr ym mhen uchaf afon Ieithon a’i his-afonydd, gan gynnwys afon Aran ac afon Gwenlas – er ein bod yn croesawu sgyrsiau â thirfeddianwyr unrhyw le i fyny’r afon o’r Clas-ar-Wy.
Os hoffech chi gael ymweliad cynghori neu os hoffech chi archwilio’r mathau o welliannau a allai fod o fudd i’ch fferm ar lan yr afon, cysylltwch â ni. Gyda’n gilydd, gallwn lunio system afonydd iachach a chefnogi busnesau fferm cynhyrchiol a chynaliadwy.
|
|
|
Mae’r gaeaf yn un o’r cyfnodau pwysicaf a mwyaf dramatig o’r flwyddyn ar afon Gwy uchaf. Tra bod coed yn sefyll yn noeth a chaeau’n gorwedd yn dawel, mae’r afon ei hun yn fwrlwm o symudiadau – oherwydd dyma’r adeg y mae ein heogiaid a’n brithyllod brodorol yn dechrau eu tymor silio blynyddol.
Mae brithyllod yn treulio eu bywydau cyfan yn ein hafonydd a dim ond pan fydd y dŵr yn oer a’r gwelyau graean yn lân y byddant yn bridio. Mae eogiaid yn gwneud taith llawer hirach: yn mynd i mewn i’r afon mor gynnar â’r gwanwyn, yn symud yn gyson i fyny’r afon dros fisoedd lawer, ac yn olaf yn silio yn y gaeaf yn yr un dalgylchoedd lle cawsant eu geni. Mae eog yr Iwerydd yn rhywogaeth ddynodedig yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Gwy.
Er mwyn silio’n llwyddiannus, rhaid i’r graean fod yn rhydd o silt; fel arall, ni all ocsigen gyrraedd yr wyau sydd wedi’u claddu. Mae benywod yn cloddio ceudodau o’r enw claddau silio, yn dodwy eu hwyau ac yn eu gorchuddio – proses hynafol sydd wedi digwydd yn y blaenddyfroedd hyn ers miloedd o flynyddoedd. Unwaith y bydd silio wedi’i gwblhau, mae eogiaid sy’n oedolion yn dychwelyd i’r môr i fwydo, tra bod y rhai ifanc yn aros yn yr afon am hyd at ddwy flynedd cyn mudo oddi yno fel gleisiaid.
 Llun: Rhan uchaf afon Gwy ar fore braf ym mis Tachwedd. Er gwaethaf amodau delfrydol, ni chanfuwyd unrhyw claddau silio eogiaid yma yn ystod yr ymweliad safle penodol hwn – gyda gwaith yn cael ei wneud ar y cynefin afon hwn, rydym yn gobeithio y bydd ein monitro yn dangos gwelliannau dros amser
Mae ein tîm yn helpu i amddiffyn y mannau silio hanfodol hyn trwy ffensio glannau afonydd, lleihau erydiad, a gwella cynefinoedd glan yr afon. Mae’r mesurau hyn yn atal da byw rhag sathru claddau silio, yn lleihau gwaddod sy’n mynd i mewn i’r afon ac yn mygu graean, ac yn cynnal yr infertebratau y mae pysgod ifanc yn dibynnu arnynt.
Ni fyddai dim o’r gwaith hwn yn bosibl heb y ffermwyr sy’n byw ac yn gweithio ar hyd coridor yr afon. Mae eu cydweithrediad yn hanfodol – ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth i ddiogelu dyfodol eogiaid yn rhan uchaf afon Gwy.
 Llun: Eogiaid brodorol yn mudo yn rhan uchaf afon Gwy mewn blynyddoedd blaenorol. Cydnabyddiaeth: Peter Lewis
|
|
|
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi partneriaeth newydd rhwng Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf a Choed Cadw. O dan y cytundeb hwn, bydd Coed Cadw yn cyflenwi hyd at 40,000 o lasbrennau brodorol dros y tair blynedd nesaf, gan gefnogi’r gwaith ehangu sylweddol o blannu gwasgaredig ar hyd glannau afonydd a gwrychoedd ar draws y dalgylch uchaf.
Mae’r coed hyn – gan gynnwys helyg, gwern, cyll, drain gwynion, drain duon, celyn a derw – wedi’u dewis yn ofalus am eu haddasrwydd ger cyrsiau dŵr a’u gwerth i fywyd gwyllt. Gyda’i gilydd, byddant yn helpu i sefydlogi glannau afonydd, darparu cysgod i oeri dyfroedd sy’n cynhesu, rhyng-gipio dŵr ffo, a chryfhau coridorau cynefinoedd ar gyfer ystod eang o rywogaethau.
Mae’r plannu’n dechrau’n gynnar eleni, gyda 10,000 o goed wedi’u trefnu ar draws sawl fferm. Mae pob safle wedi’i ddewis i ddarparu nifer o fanteision: cynyddu cysgod, lleihau erydiad, amddiffyn cynefin silio, a helpu’r afon i addasu i bwysau newid hinsawdd.
Hoffem ddiolch i Coed Cadw am y cyfle gwych hwn i gydweithio. Edrychwn ymlaen at rannu diweddariadau drwy gydol y tymor plannu wrth i’r coed newydd hyn wreiddio yn nhirwedd rhan uchaf afon Gwy.
 Llun: Tîm y prosiect yn plannu coed ar afon Gwy uchaf ddechrau 2025
|
|
|
Y gaeaf hwn, rydym yn tynnu sylw at sut y gall gwaith adfer afonydd fod o fudd i ffermydd trwy ein cyfres Lleisiau o’r Dalgylch. Yng ngwanwyn 2025, cyflawnodd y prosiect waith ar fferm Tŷ Mawr yn Nyffryn Gwy uchaf. Gofynnwyd i’r ffermwr rannu ei brofiad o weithio gyda Phrosiect Adfer Dalgylch Uchaf Gwy.
 Llun: Lleiniau clustogi newydd wedi’u gosod gan y prosiect ar fferm Tŷ Mawr yn rhan uchaf Dyffryn Gwy
Allwch chi ddweud ychydig am eich fferm wrthym?
Fferm eidion a defaid ydym ni yn Nyffryn Gwy uchaf.
Beth wnaeth i chi gymryd rhan yn y prosiect?
Mae’r afon yn rhan fawr o’r fferm, ac mae’n dda gweld ei bod yn cael gofal. Cysylltodd Cyfoeth Naturiol Cymru â mi ynglŷn â gwaith gwella posibl i’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (afon Gwy, Gwy Uchaf) ac arweiniodd hyn at fod yn rhan o’r prosiect newydd hwn.
Pa waith sydd wedi digwydd hyd yn hyn?
Rydym wedi cael lleiniau clustogi wedi’u ffensio, a chafnau dŵr wedi’u gosod ar gyfer gwartheg a fyddai fel arall yn mynd i’r afon i yfed. Rydyn ni hefyd wedi plannu coed i helpu gydag erydiad.
Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw fanteision i’r fferm neu’r afon?
Mae buddion inni o ran atal anifeiliaid rhag mynd i’r afon – heb wella hynny, fe allen ni fod wedi colli defaid i’r afon. Mae hefyd wedi ein harbed rhag gorfod casglu defaid oddi ar lan yr afon pan fydd risg o lifogydd.
Unrhyw bethau annisgwyl ar hyd y ffordd?
Dim byd – mae popeth wedi cael ei drin yn broffesiynol.
Pam mae gweithio gyda’n gilydd yn bwysig?
I ni, mae gweithio gyda’n gilydd wedi golygu y gallwn ni wneud y gwaith – fel ffermwyr rydym ni eisiau i’r afon fod mor iach â phosibl, ond mae’r costau cyfalaf yn fwy nag y gallwn ni ei ennill o’r gwelliannau ar yr ochr rheoli anifeiliaid.
Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth ffermwyr eraill sy’n ystyried cymryd rhan?
Mae’n werth cael y cyfarfod oherwydd efallai y byddwch chi’n cael buddion nad oeddech chi’n eu disgwyl, ac roedd hi’n hawdd trafod pethau gydag CNC a’r contractwyr.
Rydyn ni’n falch ein bod ni wedi cael y cyfarfod, yn hytrach na dweud na, dim diolch.
 Llun: Gosodwyd cafnau newydd hefyd
|
|
|
Mae Rhaglen Gwy Uchaf yn mabwysiadu dull cydgysylltiedig o adfer afonydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Drwy weithio ar draws sawl tirddaliadau mewn un ardal, ein nod yw creu darnau parhaus o afon a chynefin iachach. Mae ein penderfyniadau’n cael eu llywio gan ddata, gan sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar leoedd lle bydd gweithredu’n cael yr effaith fwyaf.
Hyd yn hyn, mae’r dull hwn wedi cael ei dreialu ar afon Gwy uchaf ger Llangurig, gyda chefnogaeth gref gan dirfeddianwyr lleol. Mae hyn wedi galluogi rhaglen fonitro uchelgeisiol sy’n llunio ein gwaith yn y dyfodol.
Canfyddiadau monitro allweddol (2025)
- Electrobysgota:
- Datgelodd 18 o arolygon ar draws wyth cilometr niferoedd da o silod mân (o dan flwydd oed) ond ychydig iawn o leisiaid (un i bedair oed).
- Safleoedd â lleiniau clustogi llydan a meini mawr naturiol oedd â’r poblogaethau pysgod iachaf.
- Anifeiliaid di-asgwrn-cefn:
- Dangosodd data’r gwanwyn a’r hydref amrywiaeth a helaethrwydd isel, sydd â goblygiadau difrifol i’r gadwyn fwyd.
- Ansawdd dŵr:
- Cofnododd pedwar sond dymheredd haf hyd at 25.3°C – yn beryglus o uchel i salmonidau (mae sond yn offeryn monitro dŵr sy’n mesur tymheredd, pH, ocsigen toddedig, a dargludedd).
Beth nesaf?
Yn 2026, rydym yn bwriadu cynnal arolygon drôn i asesu presenoldeb Ranunculus / crafanc y dŵr, rhywogaeth allweddol yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Gwy. Rydym hefyd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am arolygon sy’n cael eu cynnal gan Gyfeillion Afon Gwy.
Ar lawr gwlad, rydym eisoes wedi cwblhau gwaith ar ddwy fferm a dwy goedwig, gyda phedwar cynllun fferm arall yn cael eu datblygu a chynlluniau i ymgysylltu â phedwar tirddaliad ychwanegol yn fuan. Erbyn diwedd 2026, ein nod yw ymweld â phob fferm ar lan yr afon rhwng tarddiad afon Gwy a Llangurig i ddysgu mwy am arferion rheoli tir a rhannu cyngor ar gamau gweithredu a all wella iechyd yr afon.
Mae data wrth wraidd y gwaith hwn. Mae mapio yn ein helpu i nodi pwysau ar yr afon, ac mae offer monitro yn mesur y canlyniadau ar ôl adfer. Mae’r dystiolaeth hon yn meithrin ymddiriedaeth gyda thirfeddianwyr, gan ddangos yn glir sut mae gwaith adfer o fudd i’r afon a’r fferm.
Mae monitro yn awgrymu y gallai ailgyflwyno clogfeini lle cawsant eu tynnu o fudd mawr i eogiaid ifanc. Mae cynigion cynnar yn cynnwys ailgyflwyno clogfeini mewn 12 lleoliad ar hyd naw cilometr o afon ger Llangurig. Gallai hyn ddod yn un o brosiectau ailosod clogfeini mwyaf uchelgeisiol Cyfoeth Naturiol Cymru, gan osod esiampl ar gyfer cynlluniau tebyg ledled Cymru a’r DU.
Ynghyd â mesurau arafu’r llif, gwelliannau i goridorau’r afon, a thua 2,000 o goed newydd wedi’u plannu hyd yn hyn, mae’r ymdrechion hyn yn ffurfio asgwrn cefn rhaglen adfer ar raddfa tirwedd.
 Llun: Mae arolygon electrobysgota o amgylch clogfeini naturiol yn ein helpu i asesu poblogaethau salmonidau ifanc
 Llun: Silod mân eogiaid a phennau lletwad llawn twf a ddarganfuwyd yn ystod arolwg electrobysgota – dwy rywogaeth sydd wedi’u rhestru ar restr yr Ardal Cadwraeth Arbennig
Yn ôl ym mis Tachwedd, creodd ein tîm gyfres o byllau a phyllau dŵr tymhorol newydd mewn safle hardd ar un o lednentydd afon Gwy uchaf. Wedi’u cynllunio i ddarparu cynefin gwerthfawr ac arafu llif dŵr o dir uwch, mae’r pyllau eisoes yn profi eu gwerth.
Ychydig ddyddiau ar ôl iddyn nhw gael eu cwblhau, tynnwyd llun o ddyfrgi chwilfrydig yn archwilio’r pyllau newydd – arwydd cynnar gwych bod bywyd gwyllt yn ymateb!
Mae pyllau dŵr croyw ymhlith y cynefinoedd mwyaf bioamrywiol yn y DU. Gall hyd yn oed pyllau bach gynnal planhigion, infertebratau, amffibiaid, pysgod bach, adar, a mamaliaid fel dyfrgwn. Ac eto mae Cymru wedi colli tua dwy ran o dair o’i phyllau ers diwedd y 19eg ganrif.
Fel rhan o’n gwaith adfer yn y dalgylch, rydym wedi ymrwymo i greu ac adfer pyllau lle bynnag y bydd cyfleoedd addas yn codi. Gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd ar ddod hefyd yn cefnogi creu pyllau, rydym yn gobeithio gweld llawer mwy o’r nodweddion pwysig hyn yn dychwelyd i’r dirwedd.
Diolch yn fawr iawn i berchennog y tir am helpu i wneud y prosiect hwn yn bosibl – edrychwn ymlaen at weld y pyllau’n datblygu dros y misoedd nesaf.
|
|
 Lluniau: Rhai o’r pyllau sydd newydd eu creu yn dechrau llenwi’n naturiol ar ôl y gwaith adeiladu
 Llun: Dyfrgi yn archwilio un o’r pyllau newydd ychydig ddyddiau ar ôl ei gwblhau. Cydnabyddiaeth: Sarenta King, Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed
Mae Prosiect Adfer Dalgylch Uchaf Afon Gwy #AdferUchafAfonGwy wedi’i ariannu gan Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, rhan o’r Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr, i adfer cyflwr rhan uchaf afon Gwy.
Nod cyffredinol y prosiect hwn yw gwarchod rhywogaethau a gwella cynefinoedd trwy fynd i’r afael ag amrywiaeth o bwysau sy’n effeithio ar yr afon.
Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio ar gyfer diweddariadau yn y dyfodol, rhowch wybod i ni drwy’r cyfeiriad e-bost isod.
Pe bai’n well gennych gopi papur o’r cylchlythyr, cysylltwch â ni.
E-bost: AdferGwyUchaf@cyfoethnaturiol.cymru
Gwe: Gwefan Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf
Y cyfryngau cymdeithasol: Facebook, Instagram, X
|
|
|
|
|