|
|
Rydym yn gyffrous i rannu'r cynnydd sy'n cael ei wneud ledled Cymru i adfer cynefinoedd afonydd, gwella mudo pysgod, ac ysbrydoli cymunedau i gysylltu â'u hafonydd lleol.
O gael gwared ar rwystrau, datgloi milltiroedd o safleoedd silio, i ysgolion yn darganfod rhyfeddodau Afon Wysg, a hyd yn oed sylw ar ein gwaith a nodwyd gan BBC Countryfile—mae digon i'w ddathlu.
Dewch i weld sut mae ein prosiectau a'n partneriaethau'n helpu afonydd i ffynnu a llunio dyfodol iachach i fywyd gwyllt a phobl fel ei gilydd.
Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd oddi wrth
Dîm Pedair Afon LIFE!
|
|
|
Ym mis Tachwedd, fe wnaethon ni gwblhau gwaith i wella llwybr pysgod ar afon Siedi (ger Llandysul), is-afon silio bwysig yn ACA Afon Teifi.
Roedd cored ar rannau isaf afon Siedi yn cynnwys neidiau fertigol uchel a oedd yn gwneud yr adeiledd yn rhwystr sylweddol i eogiaid a brithyllod, ac yn rhwystr llwyr i bysgod sy’n nofwyr gwannach, megis llysywod pendoll a llyswennod.
Bydd y gwelliannau’n caniatáu i bysgod gael mynediad at raean silio o ansawdd da ledled dalgylch afon Siedi.
I ddarllen mwy am y cynllun hwn, cliciwch ar y ddolen yma
Delwedd isod, o’r chwith i’r dde: Cyn ac ar ôl y gwaith gwella.
|
|
 Rydym wedi newid pibell gwlfert (delwedd chwith) am bont rhychwant clir (delwedd dde) i adfer mynediad i bob rhywogaeth o bysgod ac adfer dynameg naturiol yr afon, megis symudiad graean ar afon Lwynor (ger Cynghordy), un o is-afonydd afon Brân yn Llanymddyfri (dalgylch afon Tywi).
Roedd y bibell 12 metr o hyd yn cyfyngu ar yr afon, gan atal pysgod rhag cael mynediad at gynefin gwerthfawr i fyny’r afon a tharfu ar brosesau naturiol.
Mae’r gwaith wedi datgloi tua 4.5 km o gynefin, gan fod o fudd i eogiaid, brithyllod, pennau lletwad, llysywod pendoll yr afon a llysywod pendoll y nant.
Darllenwch fwy am y cynllun hwn yma
|
|
Dyma un o'r prosiectau mudo pysgod mwyaf rydyn ni wedi'i greu hyd yn hyn ac rydym yn hapus i ddweud bod y llwybr gleisiaid (eogiaid ifanc) yng Nghored Aberhonddu wedi'i gwblhau!
Bydd y gwaith hwn yn gwella amodau'n sylweddol ar gyfer poblogaethau pysgod sy'n lleihau, gan gynnwys yr eog Iwerydd sydd mewn perygl, a gobeithio y bydd yn gam tuag at adferiad y rhywogaeth yn Afon Wysg.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau â'i brosiect olrhain gleisiaid pwysig i fonitro llwyddiant y cynllun hwn.
Hoffwn ddiolch i MidWest Pant Ltd am eich gwaith caled.
Darllenwch y datganiad yn llawn ar y linc yma.
|
|
|
Diolch i BBC Countryfile a Matt Baker am ymweld â ni ychydig wythnosau yn ôl i ffilmio yn fferm Tŷ Mawr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ym Mannau Brycheiniog.
Darlledwyd y rhaglen ar ddydd Sul, 7 Rhagfyr ac, os na wnaethoch chi lwyddo i’w gwylio, gallwch chi ei gwylio ar BBC iPlayer.
Canolbwyntiodd y rhaglen ar drafferthion eogiaid ac amlygodd y gwaith rydyn ni wedi’i wneud i ychwanegu pren ar afon Tarell a’r rôl y mae coed yn ei chwarae o ran dynameg yr afon.
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ganiatáu inni wneud y gwaith hwn ac i’r Ganolfan Adfer Afonydd am ei chymorth wrth gynllunio’r cynllun.
|
|
|
Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ar ACA Afon Tywi dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Mae saith rhwystr i bysgod wrth iddynt fudo bellach wedi’u haddasu neu eu dileu. Rydym wedi gweithio gyda sawl fferm, yn benodol ar hyd afon Dulais ac afon Cothi, i greu lleiniau clustogi torlannol. Rydym hefyd wedi gweithio gyda thirfeddianwyr lleol, gan roi cyngor ynghylch arferion ffermio mwy cynaliadwy.
Darllenwch ein blog diweddaraf i ddysgu mwy am yr holl waith y mae ein swyddogion prosiect wedi’i gwblhau fel rhan o ymdrechion i adfer adeiladwaith naturiol yr afon a gwella mynediad i bysgod mudol.
|
|
|
|
Fel y soniwyd yn rhifyn blaenorol y cylchlythyr, mae Tîm Addysg Bannau Brycheiniog wedi bod yn cynnal Diwrnodau Ymchwilio i Afonydd mewn ysgolion lleol o amgylch Aberhonddu ac afon Wysg eleni.
Cynhelir y Diwrnodau Ymchwilio i Afonydd ar ran prosiect Pedair Afon LIFE gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth am afon Wysg a rhai o’r heriau y mae’n eu hwynebu. Rhoddir cyfle hefyd i’r plant ddefnyddio’r tabl afonydd 3D rhyngweithiol i ddysgu sut mae afonydd yn gweithio.
Dysgwch fwy am y gwaith drwy ddarllen y blog hwn gan Dîm Addysg Bannau Brycheiniog.
|
|
Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer cynhadledd y Ganolfan Adfer Afonydd, a gynhelir fis Ebrill nesaf yng Nghasnewydd yn Ne Cymru.
Mae digwyddiad eleni yn cynnwys ei rhaglen fwyaf uchelgeisiol hyd yma, gyda 90 o sgyrsiau yn ystod 20 sesiwn â thema – yn cwmpasu prosesau naturiol, ailgyflwyno rhywogaethau, buddion cymdeithasol, Rheoli Llifogydd yn Naturiol, cael gwared ar rwystrau, a llawer mwy.
Mae’r gynhadledd yn partneru â Phedair Afon LIFE, a bydd y prosiect yn cynnal ymweliadau unigryw â safleoedd i arddangos ei brosiectau adfer.
Dysgwch fwy drwy glicio yma
|
Yn dod yn y cylchlythyr nesaf:
Cynhadledd y Ganolfan Adfer Afonydd – o afancod i ddeallusrwydd artiffisial, darganfyddwch sut mae gwaith adfer afonydd yn elwa o’r dylanwadwyr hyn!
Gweithio gyda ffermwyr – sut mae’r gorsafoedd tywydd yn cefnogi ffermwyr i ffermio’n gynaliadwy.
Adfer poblogaethau misglod perlog i afonydd De Cymru – dysgwch fwy am y gwaith arolygu, monitro a bridio sy’n digwydd gyda’r tîm.
|
Cofiwch y gallwch chi ein dilyn ar Facebook, X ac Instagram am y newyddion diweddaraf am brosiectau.
|
|
|
|