|
Gyda’n cotiau cynnes a hetiau gwlanog, gadewch i ni geisio cofleidio’r misoedd oerach a gwneud y gorau o’r dyddiau byrrach. Darllenwch ymlaen am fwy o ysbrydoliaeth ar gyfer syniadau cerdded yn ystod cyfnod y Nadolig. 🎄
Hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd – edrychwn ymlaen at weld mwy o’ch lluniau o’r llwybr! 🌟
Gwisgwch amdanoch ac ewch allan mewn cotiau cynnes a chlyd a hetiau a menig newydd i’ch galluogi chi i barhau i gerdded ar y llwybr y gaeaf hwn.
Edrychwch yn ein siop am anrhegion Nadoligaidd ar gyfer y cerddwr Llwybr Arfordir Cymru arbennig yn eich bywyd (neu rhowch anrheg fach i chi’ch hun!) megis dillad allanol chwaethus ac ymarferol, tystysgrifau a bathodynnau cwblhau, teithlyfrau swyddogol, a llawer o bethau i’w rhoi yn eich hosan! Cludiant yn y DU ac yn rhyngwladol am ddim ar archebion dros £50.
 striped pom pom beanie hat
Rhybudd ymlaen llaw! Rydym yn llunio cylchlythyr sydd wedi’i neilltuo i helpu busnesau gydag adnoddau defnyddiol megis teithlyfrau swyddogol, taflenni a llawer mwy i’w cynnig i’ch cwsmeriaid.
Cliciwch Tanysgrifio isod ac atebwch ‘Ydw’ i'r cwestiwn "Ydych chi'n berchennog busnes?" i dderbyn ein diweddariadau busnes
|
Mae’r teithlyfr swyddogol ar gyfer rhan Sir Benfro o’r llwybr bellach ar gael yn y Gymraeg. Mae’r teithlyfr hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr Cymraeg a phobl sydd eisiau archwilio’r llwybr yn iaith frodorol Cymru.
Ar gael i’w brynu o bob siop lyfrau dda neu ar-lein gan Gyngor Llyfrau Cymru. Pris £15.99. Prynu’r llyfr heddiw
|
Dewch i gwrdd â ffrindiau a theulu ar ran hygyrch o’r llwybr.
Promenadau a llwybrau ag arwyneb wedi’i selio yw’r rhan rhwng Prestatyn a Llanfairfechan (41.5 milltir / 67.5 km) yn bennaf, gan ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer cyfarpar symudedd a chadeiriau gwthio. Dysgwch fwy am hygyrchedd y llwybr ar hyd arfordir gogledd Cymru, fel ble i barcio ac aros ac arwyneb y llwybr.
AWGRYM GWYCH: Gweler uchafbwyntiau Instagram o ymweliad Pippa Stacey â’r rhan hygyrch hon o lwybr yr arfordir. Yn gynharach eleni, mwynhaodd Pippa – awdur a siaradwr anabl – y llwybr gan ddefnyddio ei chyfarpar symudedd, yng nghwmni ei ffrind pedair coes ffyddlon.
 wheelchair user on promenade at the coast looking out to see
Syrthiwch mewn cariad â’n teithiau cerdded cylchol ar Ddydd Santes Dwynwen (26 Ionawr).
Mae ein teithiau cerdded cylchol yn ffordd wych o brofi arfordir Cymru ac o weld golygfeydd newydd nad ydych chi fel arfer yn eu profi ar y prif lwybr.
|
Chwilio am rywle newydd i gerdded yn 2026? Cymerwch olwg ar ein tudalen Cynllunio’ch Ymweliad am adnoddau defnyddiol megis:
- Map rhyngweithiol – gwiriwch a phlotiwch eich llwybr gan ddefnyddio’r map rhyngweithiol
- Ap Llwybr Arfordir Cymru – lawrlwythwch yr ap i gofnodi eich holl deithiau cerdded ac i’ch helpu i aros ar y llwybr
- Gwyriadau llwybr dros dro – gwiriwch am unrhyw wyriadau llwybr cyn i chi fynd allan
- Teithiau cerdded – cewch eich ysbrydoli gan y teithiau cerdded sydd ar gael, o deithiau cerdded cylchol a theithiau cerdded i’r teulu i deithiau cerdded sawl diwrnod (yn ddelfrydol ar gyfer penwythnosau hir)
AWGRYM GWYCH: Edrychwch sut olwg sydd ar y llwybr ar Google Street View – perffaith ar gyfer cynllunio ymlaen llaw a chwilio am leoedd i fwyta ac yfed ac aros.
 Pen Pyrod / Worms Head, Rhossili
Mae’r misoedd oerach yn dod â bywyd gwyllt gwahanol allan, megis miloedd o adar hirgoes ac adar dŵr mudol yn aber afon Dyfrdwy yn chwilota am fwyd gwerthfawr yn y fflatiau llaid a chenawon morloi yn cael eu geni ar y traethau. Ac rydym wedi bod wrth ein bodd yn gweld dawns y drudwy ar bier Aberystwyth yn ddiweddar – adloniant gaeaf ar ei orau!
Gweler sut y gall technoleg eich symud yn agosach at archwilio’r byd naturiol ar hyd y llwybr – o adnabod cân adar arfordirol i blanhigion glan môr, mae ap ar gyfer hynny!
AWGRYM GWYCH: Osgowch aflonyddu ar unrhyw fywyd gwyllt ar y llwybr trwy ei wylio o bell gyda phâr o finocwlars.
|
Yn cerdded yn ôl troed chwedl Gymreig
Yn 2025, dathlwyd canmlwyddiant yr actor enwog o Gymru, Richard Burton, y mae ei gariad at arfordir de Cymru wedi’i gofnodi yn ein teithlen gerdded arbennig er cof am yr actor adnabyddus hwn.
Llun: Richard Burton on set of Under Milk Wood (1971) © Trinity Mirror Mirrorpix Alamy Stock
|
Ysbrydoliaeth i Gerdded!
Os ydych chi yn Abersoch neu Marloes dros y Nadolig, mae Steffan @WestWalesWanderer (Crwydryn y Gorllewin) yn cynnig ysbrydoliaeth wrth gerdded ar y llwybr
(Mae’r dolenni’n agor yn Instagram)
|
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar y cylchlythyrau hyn, boed yn dda neu'n ddrwg. Dywedwch wrthym sut y gallwn eu gwella i chi! Cyslltwch â ni
Os felly, mae gennym gylchlythyr busnes gyda gwybodaeth ddefnyddiol ar sut y gallwch chi wneud y mwyaf o'r llwybr ar gyfer eich busnes. Byddwch yn derbyn gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i'ch helpu chi a'ch cwsmeriaid.
Cliciwch Tanysgrifio isod ac atebwch ‘Ydw’ i'r cwestiwn "Ydych chi'n berchennog busnes?" i dderbyn ein diweddariadau busnes.
|
 |
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
 |
|
Gyda dros 10,500 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|