|
Gobeithio eich bod wedi cael digon o gyfle i fwynhau'r llwybr yn ystod yr haf - rydym wedi mwynhau gweld lluniau o'ch teithiau cerdded arfordirol ar ein sianeli cymdeithasol. Daliwch ati i rannu eich teithiau cerdded gyda ni! Rydyn ni wedi mwynhau goleuadau brith yr hydref a'r newid lliw yn y dirwedd drwy gydol mis Medi. Er bod y tymheredd yn gostwng gydag ambell ddiwrnod heulog, edrychwn ymlaen at gael gwisgo ein dillad cynnes wrth grwydro'r arfordir yn ystod y teithiau cerdded gaeafol adfywiol hyn.
Cymerwch eich amser ar y llwybr. Trochwch eich hun yn y mannau rydych chi'n mynd iddyn nhw ac arafwch eich camau. Ewch ar y trên, arhoswch am ychydig mwy ar ran o'r llwybr i wneud penwythnos ohoni - cerdded y llwybr, cefnogi mannau bwyta ac yfed lleol ac oedi ychydig mwy gan fwynhau’r trac sain arfordirol wrth grwydro. Darllenwch fwy am dwristiaeth adfywiol ar y llwybr
|
Chwilio am rywbeth gwahanol i'w wneud pan fydd hi'n oer, yn wlyb ac yn wyntog? Beth am ddod yn Llysgennad Cymru drwy ehangu eich gwybodaeth am eich ardal leol a thu hwnt. Byddwch yn dysgu mwy am y llwybr yn ogystal â Llwybrau Cenedlaethol Cymru: Llwybr Clawdd Offa, Llwybr Glyndŵr a Llwybr Arfordir Sir Benfro (rhan hynod boblogaidd o'r llwybr).
Mae cyrsiau ar-lein am ddim yn eich cyflwyno i wahanol ardaloedd ac atyniadau Cymru ac yn helpu eraill i fanteisio’n llawn ar eu hymweliad. Cofrestrwch am ddim
|
Camwch o’r tŷ mewn steil gyda'n hwdis a’n hetiau yn ystod y misoedd oer. Mae gennym ddewis o gapiau gwau trwchus i hwdis pastel i gadw'n gynnes ac yn ffasiynol ar y llwybr! Mae dyluniadau dwyieithog ar gael.
 Hwdi "Explore Discover Enjoy"
Manteisiwch ar bob eiliad o olau dydd yn ystod misoedd y gaeaf. Mae digon o rannau hygyrch o'r llwybr sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a theuluoedd â phramiau. Dewch o hyd i daith gerdded hygyrch
 Gwbert, Ceredigion
Gadewch i Iolo Williams, y naturiaethwr a’r cyflwynydd teledu o Gymro, ddangos y bywyd gwyllt rhyfeddol o amgylch Bae Abertawe i chi yn ystod yr hydref. O wylio adar i ddarganfyddiadau twyni tywod, byddwch yn gweld ochr wahanol i'r rhan hon o'r arfordir yn ystod y misoedd tawelach - adeg berffaith i ganfod mulfran neu felyn yr hwyr llachar. Gwyliwch Saffari hydrefol Iolo Williams ym Mae Abertawe
|
Mae arfordir Cymru yn frith o straeon arswydus am smyglwyr, ysbrydion a llong rithiol. Pa un a oes gennych chi ddiddordeb mewn straeon arswydus ai peidio, fe welwch chi'r llwybr mewn goleuni newydd. Archwiliwch elfennau tywyll y llwybr
|
Mae’n dymor geni morloi bach ac mae siawns dda y byddwch chi'n eu gweld o'r llwybr. Mae morloi bach yn anifeiliaid gwyllt ac mae’n ddigon hawdd tarfu arnynt - cadwch yn ddigon pell oddi wrthynt os gwelwch yn dda. Os yw morlo bach yn edrych fel petai wedi cael ei adael, peidiwch â phoeni, ni fydd y fam ymhell i ffwrdd. Dilynwch y cyngor isod i roi'r dechrau gorau iddyn nhw mewn bywyd.
Weithiau mae mynd o gwmpas mewn cylch yn beth da - yn enwedig os ydych ar un o’n llwybrau cerdded cylchol. Maent wedi'u cynllunio er mwyn rhoi profiad o drefi a phentrefi glan môr, a lleoedd o ddiddordeb na fyddech efallai'n cael eu harchwilio wrth gerdded y prif lwybr. Mae gan bob un o'n teithiau cylchol ddisgrifiad manwl o'r llwybr gyda map a dolen GPX a gellir gweld y rhain ar ap y Map Arolwg Ordnans am ddim. Dewch o hyd i daith gerdded gylchol yn agos atoch chi
 Amgueddfa Cyflymder, Pentowyn
10 Traeth Syfrdanol o Hardd yng Nghymru
Mae'r Arolwg Ordnans wedi llunio rhestr o’r 10 traeth gorau yng Nghymru - Dywedwch wrthym beth yw eich barn chi! Gyda llaw, dyma Mwnt yng Ngheredigion.
|
Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth (2 Hydref)
Mae arfordir Cymru yn lle perffaith i danio creadigrwydd ac i gael eich ysbrydoli gan y dirwedd sy'n newid yn barhaus. Mae barddoniaeth a gomisiynwyd yn arbennig gan rai o feirdd enwog Cymru yn crisialu ysbryd y llwybr yn eu ffordd ddihafal eu hunain. Gwyliwch gasgliad Barddoniaeth 10 Celf Coast Cymru
|
Ydych chi'n hiraethu am fwy o anturiaethau cerdded?
Beth am roi cynnig ar y Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru: Llwybr Glyndŵr a Llwybr Clawdd Offa i gwblhau eich taith o amgylch Cymru. Dilynwch arwydd y fesen i ddechrau eich antur ar Lwybr Clawdd Offa lle mae'n cwrdd â Llwybr Arfordir Cymru yn nhref glan môr Prestatyn yn y gogledd neu'r dref sy’n cyfateb yn y de - Cas-gwent. Machynlleth yw'r man cyfarfod rhwng Llwybr Glyndŵr a Llwybr Arfordir Cymru. Dysgwch fwy am Lwybrau Cenedlaethol yng Nghymru
|
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar y cylchlythyrau hyn, boed yn dda neu'n ddrwg. Dywedwch wrthym sut y gallwn eu gwella i chi! Cyslltwch â ni
Os felly, mae gennym gylchlythyr busnes gyda gwybodaeth ddefnyddiol ar sut y gallwch chi wneud y mwyaf o'r llwybr ar gyfer eich busnes. Byddwch yn derbyn gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i'ch helpu chi a'ch cwsmeriaid.
Cliciwch Tanysgrifio isod ac atebwch ‘Ydw’ i'r cwestiwn "Ydych chi'n berchennog busnes?" i dderbyn ein diweddariadau busnes.
|
 |
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
 |
|
Gyda dros 10,000 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|