|
|
Croeso i rifyn yr hydref o gylchlythyr LIFE Afon Dyfrdwy
Y cynnydd a wnaed gennym hyd yn hyn...
- 20,000 o goed wedi’u plannu
- 8,420 tunnell o raean, cerrig a deunydd pren wedi’u cyflwyno i’r afon
- Wedi sefydlogi 840 metr o lan yr afon gan ddefnyddio dulliau naturiol
- Wedi cwblhau’r gwaith o osod 42 cilometr o ffensys ar lan yr afon
- 11 o gwlfertau draenio yn y goedwig wedi’u gwella
- 10 rhwystr wedi’u tynnu neu wedi’u haddasu
- 1 groesfan afon newydd wedi’i gosod yn y goedwigaeth
Rydym wrth ein bodd yn rhannu’r newyddion gwych bod y tîm wedi darganfod 25 o gladdau silio (nythod) llysywod pendoll y môr i fyny’r afon o’r hen rwystr yn dilyn y gwaith a wnaed i dynnu cored Erbistog yr haf diwethaf! Mae fideo drôn a gafodd eu recordio yn ystod yr arolygon yn dangos un o’r claddau silio hyn dim ond 40 metr i lawr yr afon o gored fedryddu Manley Hall. Mae hyn yn cadarnhau bod pedwar cilomedr ychwanegol o gynefin hanfodol wedi’u hagor i fyny ar ôl cael gwared ar gored Erbistog, gan alluogi’r pysgod cynhanesyddol, anhygoel hyn i ddychwelyd i’r silfeydd a oedd wedi’u cyfyngu ers amser maith gan rwystrau o waith dyn.
Datgelodd gwaith olrhain gan y tîm na allai’r mwyaf o’r llysywod basio trwy’r adeiledd tair metr o uchder a 70 metr o led yn flaenorol. Oherwydd hyn nid oedd y llysywod yn gallu cyrraedd eu silfeydd i fyny’r afon gan beryglu goroesiad hirdymor y rhywogaeth hon a warchodir. Yn yr un modd, cafodd llawer o eogiaid eu rhwystro neu eu hatal rhag pasio trwy gored Erbistog, gan fygwth eu goroesiad hefyd. Yn sgil cael gwared ar y gored mae llwybr i bob rhywogaeth o bysgod, nid dim ond y llysywen bendoll y môr, sydd bellach yn gallu symud yn ddirwystr am y tro cyntaf ers bron i 200 mlynedd.
Er ein bod ni wrth ein bodd gyda’r hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn, mae’r nifer fawr o gladdau silio llysywod pendoll y môr yn union o dan gored fedryddu Manley Hall yn dangos bod yr adeiledd hwn yn parhau i fod yn dagfa sylweddol i fudo pellach i fyny’r afon. Mae llawer o bysgod yn dal i gael eu gorfodi i silio ychydig i lawr yr afon o’r adeiledd hwn, gan gyfyngu ar eu greddf naturiol i fudo ymhellach i fyny’r afon i silfeydd hollbwysig. Dyna pam ein bod ni eisoes yn cynllunio gwaith wedi’i dargedu yma ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda’r nod o wella llwybr y pysgod a sicrhau bod buddion afon Dyfrdwy sy’n llifo’n rhydd yn cael eu gwireddu’n llawn.
Os hoffech chi ddysgu rhagor am ein gwaith yng nghored Erbistog, gallwch chi wylio’r cyfweliad 30 munud o hyd hwn â’n Rheolwr Prosiect, Joel, fel rhan o gyfres ffrydio byw Dam Removal Europe. Cafodd y gwaith o gael gwared ar y gored ei gynnwys hefyd fel astudiaeth achos yng nghylchlythyr technegol y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Adfer Afonydd.
|
|
Mae gan arolygon electrobysgota eleni ganlyniadau diddorol i Dîm Adfer Afon Dyfrdwy LIFE. Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, llwyddwyd i gofnodi presenoldeb silod mân a phariaid eogiaid i fyny’r afon o hen safle cored Morlas, sy’n dystiolaeth glir bod ein hymdrechion adfer yn parhau i ddwyn ffrwyth.
Trwy gael gwared ar gored Morlas fe agorwyd cynefin silio a meithrin hanfodol i bysgod mudol o deulu’r eog. Mae presenoldeb silod mân a phariaid eogiaid yn cadarnhau bod eogiaid llawndwf nid yn unig yn mynd i mewn i’r ardaloedd hyn, ond bod eu hepil yn ffynnu yn yr ardal. Mae’r canfyddiadau hyn yn ddangosydd cryf o well cysylltedd afonydd ac ansawdd cynefinoedd, sy’n cyd-fynd â’n nodau hirdymor ar gyfer adfer eogiaid yn nalgylch afon Dyfrdwy.
I’r gwrthwyneb, mae rhai safleoedd wedi dangos niferoedd is na’r disgwyl, yn fwyaf nodedig yn afon Brenig ac afon Tryweryn. Bydd y safleoedd hyn yn parhau i gael eu monitro yn y dyfodol i asesu’r niferoedd. Bydd gwaith pellach hefyd yn cael ei wneud yn yr ardaloedd hyn i barhau i wella’r cynefin.
Mae rhaglen asesu stoc afon Dyfrdwy hefyd yn cynnal arolygon electrobysgota ar draws y dalgylch, ac rydym yn gweithio’n agos gyda nhw i rannu canlyniadau. Fe wnaethon nhw adrodd am niferoedd da iawn o silod mân eog a brithyll ychydig i lawr yr afon o’n safleoedd ymyrryd ar afon Ceiriog ger Llanarmon Dyffryn Ceiriog, sy’n galonogol iawn. Mae safleoedd eraill ar afon Ceiriog wedi cael canlyniadau is nag yr oeddem wedi gobeithio amdanynt, a hynny oherwydd gostyngiad yn nifer y gleisiaid sy’n mudo yn ôl pob tebyg. Unwaith eto, bydd y safleoedd hyn yn parhau i gael eu monitro yn y dyfodol.
Roeddem yn falch o groesawu staff o Sw Caer a Buglife wrth gynnal yr arolygon eleni - mae rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau yn hanfodol i ddyfodol afon Dyfrdwy.
Newyddion da am afon Alwen – Wrth gynnal arolygon electrobysgota ar afon Alwen, fe gawsom olwg gyflym ar y safle lle y gosodwyd bafflau derw i helpu pysgod i basio trwy gwlfert 35 metr o hyd. Roeddem wrth ein bodd i ddod o hyd i dri eog ifanc a thri brithyll yn byw yn y cwlfert! Cyn ymgymryd â’r gwaith i wella llwybr y pysgod, ni fyddai unrhyw bysgod wedi bod yn byw yno o gwbl gan nad oedd unrhyw adeiledd na dŵr digon dwfn iddynt fyw ynddo. Fodd bynnag, yn dilyn ein gwaith ym mis Rhagfyr 2023, nid yn unig y mae’r bafflau wedi gwella llwybr y pysgod ac wedi ailgysylltu cynefinoedd hanfodol, maent hefyd wedi darparu lloches a chreu ardaloedd newydd gwerthfawr i bysgod fyw ynddynt.
|
|
|
Yn dilyn y gwaith o gyflwyno dros 2,000 tunnell o raean i ran uchaf afon Tryweryn yn 2021 a 2022, fis diwethaf fe wnaethom ychwanegu sawl tunnell o raean ymhellach i lawr yr afon. Mae graean yn hanfodol ar gyfer silio pysgod gan ei fod yn darparu amgylchedd glân, llawn ocsigen i gladdu wyau ac yn creu cynefin wedi’i gysgodi lle gall silod mân ddatblygu’n ddiogel. Rydym yn monitro’r safleoedd hyn yn gyson, ac yn dilyn ein rhaglen cyflwyno graean dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym yn falch o weld bod eogiaid yn silio yn yr ardaloedd hyn, gyda chynifer â 18 o gladdau silio wedi’u cofnodi yn 2024. Bydd y cyflwyniad diweddaraf hwn yn cyflymu’r broses o ledaenu graean trwy ran uchaf afon Tryweryn, gan ymestyn yr ardal silio sydd ar gael o waelod yr argae yn Llyn Celyn yr holl ffordd i lawr i afon Mynach, sef yr is-afon fawr gyntaf sy’n darparu graean yn naturiol i afon Tryweryn.
Ym mis Hydref, byddwn yn cyflwyno rhagor o raean i afon Tryweryn eto, y tro hwn yn uniongyrchol islaw’r argae yn Llyn Celyn er mwyn darparu cyflenwad parhaus a fydd yn cael ei gludo i lawr yr afon yn raddol. Mae adeiledd yr argae ei hun yn Llyn Celyn yn parhau i fod yn rhwystr mawr i’r cyflenwad rheolaidd o raean a gwaddod naturiol y byddech chi fel arfer yn ei ddisgwyl mewn afon. Mae’r tîm wrthi’n cynnal trafodaethau â pherchnogion asedau’r argae, Dŵr Cymru, a fydd, gobeithio, yn parhau â’r gwaith pwysig hwn ar ôl cwblhau prosiect LIFE Afon Dyfrdwy.
|
|
|
Gwyddys bod da byw, yn enwedig gwartheg, sy’n defnyddio afonydd i gael dŵr yfed yn niweidio’r amgylchedd. Mae hyn yn erydu glannau a llystyfiant gan effeithio ar ansawdd y dŵr trwy ychwanegu maethynnau a chodi gwaddodion.
Rydym yn gweithio gyda ffermwyr i nodi ymylon caeau afonydd a fyddai’n elwa ar eithrio da byw trwy ffensio stoc. Fodd bynnag, lle nad oes cysylltiad prif gyflenwad dŵr i ddarparu dŵr yfed mewn cafn, yn aml mae angen chwilio am ddatrysiadau eraill – fel arfer trwy ddarparu pympiau dŵr sydd wedi’u pweru gan ynni solar. Mae eu dyluniad a’u gwytnwch wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf er bod dal angen gwneud gwaith cynnal a chadw, sy’n dwyn goblygiadau o ran amser a chost.
Mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy wedi bod yn treialu pympiau trwyn ar gyfer gwartheg Aquamatt II, a hyd yn hyn, cafwyd canlyniadau da iawn, ac am gost is na’r pympiau solar. Mae’n bwmp trwyn sy’n cael ei weithredu gan y da byw. Wrth i’r anifail yfed o fowlen y pwmp, maent yn gwthio yn erbyn lifer, sydd yn ei dro yn gweithredu piston a diaffram sy’n pwmpio rhagor o ddŵr o’r cwrs dŵr. Mae’r pwmp yn hawdd i wartheg ei gweithredu, ac maent yn dysgu ar unwaith sut i’w ddefnyddio. Gall y pwmp trwyn gyflenwi dŵr i 15 i 20 o wartheg heb fod angen pŵer i’w weithredu, ac yn gallu codi dŵr saith metr yn fertigol i fyny glan afon, neu ei godi 70 metr yn llorweddol. Mae’n dosbarthu 0.5 litr gyda phob gweithred o lifer y pwmp, ac mae gan y cafn gynhwysedd o un litr.
Gosodwyd y pympiau trwyn yr haf diwethaf, ac maent yn dal i weithio’n effeithlon dros y gaeaf. Mae’r stand a’r ffrâm bren a osodwyd gan ein contractwr yn helpu i gadw gwartheg ar wahân ym mhob uned yfed. Yr unig waith cynnal a chadw y mae angen ei wneud yw gwirio’r bibell fewnlif pan fo lefel yr afon yn isel (gan ymestyn y bibell fewnlif ymhellach i’r afon os bydd angen). Yn ddelfrydol, bydd angen datgysylltu’r bibell fewnlif ar y pwmp dros y gaeaf hefyd i’w chaniatáu i ddraenio.
Dywedodd Will Evans, sydd wedi caniatáu inni roi cynnig ar y pympiau ar ei fferm: “Mae’r pympiau trwyn wedi darparu datrysiad ar gyfer yr ardaloedd hynny lle rydym wedi codi ffensys i atal mynediad i’r afon. Dysgodd y gwartheg yn gyflym sut i’w ddefnyddio, a oedd yn syndod i ni! Mae’n ddatrysiad da ar gyfer ardaloedd lle nad oes dŵr ar gael o’r prif gyflenwad. Maent yn addas iawn ar gyfer ardaloedd pori yn yr haf ar gyfer stoc ifanc neu niferoedd isel i ganolig. Y cafnau dŵr sy’n cael eu pweru gan ynni solar fu’r opsiwn a ffafriwyd ar gyfer porfeydd y buchesi godro.”
Gwyliwch fideo o’r gwartheg yn defnyddio’r pympiau trwyn newydd yma.
|
|
|
Mae prosiectau LIFE yr Undeb Ewropeaidd wedi’u seilio yn y bôn ar weithio mewn partneriaeth gydweithredol – rhannu gwybodaeth, adnoddau a phrofiad – sy’n caniatáu i brosiectau gael mwy o effaith a datblygu arferion gorau yn eu maes gwaith.
Mae un o’n partneriaid prosiect, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, wedi cael grant yn ddiweddar drwy’r cynllun ariannu ‘Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy‘ i gynnal gwaith yn ymwneud â rheoli’r perygl o lifogydd yn naturiol ar ddalgylch afon Mynach yn rhan uchaf afon Dyfrdwy. Ar ôl cynnal gwaith tebyg yn y rhan hon o’r dalgylch hefyd, roedd swyddogion LIFE Afon Dyfrdwy yn falch o allu cefnogi staff yr awdurdod trwy ymweld â’r safle, rhannu gwybodaeth am yr ardal a rhannu’r gwersi a ddysgwyd o’u profiadau blaenorol o gyflawni gwaith yma.
Drwy’r bartneriaeth hon, mae gwaith wedi’i gwblhau ar sawl safle ar draws y dalgylch uchaf, gan gynnwys gosod dau danc casglu dŵr glaw 10,000 litr sydd wedi’u cysylltu â chafnau yfed yn y cae isod. Mae hyn wedi caniatáu i ffensys gael eu gosod ar rannau o’r cwrs dŵr i atal gwartheg rhag sathru gwely’r afon. Nid yn unig y bydd y gwaith hwn yn gwella ymdrechion i reoli’r perygl o lifogydd yn naturiol, ond bydd hefyd yn cynnig buddion sylweddol i’r rhywogaethau ACA a geir yn afon Mynach ac ymhellach i lawr yr afon.
Dywedodd Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coetiroedd ac Amaethyddiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Mae’n wych gweld dau sefydliad yn gallu rhannu adnoddau’n lleol i gyflawni mesurau cadwraeth effeithiol ar lawr gwlad gyda’r gymuned ffermio ar afon Mynach, ac mae’n dangos sut y gall mesurau syml ddwyn canlyniadau gwych.”
Mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn fuddiolwr cysylltiedig ym mhrosiect LIFE Afon Dyfrdwy, ac yn bartner allweddol yn y gwaith a wneir yn rhan uchaf afon Dyfrdwy, gan eistedd hefyd ar grŵp llywio rhan uchaf afon Dyfrdwy sy’n ymchwilio i fudo gleisiaid yn afon Dyfrdwy.
|
|
|
|
Afon Teirw
Yn ddiweddar, rydym wedi cael caniatâd i gael gwared ar ddau gored ychwanegol ar un o is-afonydd afon Ceiriog. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud cyn 17 Hydref, sef y dyddiad cau ar gyfer gwaith yn yr afon, a bydd yn agor 4 cilometr ychwanegol o gynefin silio i eogiaid a brithyllod môr mudol. Mae’r gwaith hwn yn ychwanegol i dargedau gwreiddiol y prosiect yn y ddogfen gynnig.
Misglod perlog yr afon
Bydd gwaith yn cael ei wneud i wella’r cynefin ar gyfer y misglod perlog yr afon mewn safle rhyddhau sydd wedi’i ddewis gan dîm o arbenigwyr. Bydd hyn yn cael ei gwblhau cyn 17 Hydref a bydd yn cynnwys cyflwyno graean ac angori deunydd pren mawr i’r afon. Yna bydd misglod ifanc yn cael eu rhyddhau ar y safle yng ngwanwyn 2026.
Estyniad i’r prosiect
Ar hyn o bryd mae’r tîm yn brysur yn gweithio ar estyniad i’r prosiect, a’r gobaith yw y bydd y prosiect yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2027. Bydd hyn yn sicrhau y gall y tîm gyflawni’r holl waith sy’n rhan o’r cytundeb grant, a sicrhau bod y buddion o gael afon Dyfrdwy yn llifo’n rhydd yn cael eu gwireddu’n llawn.
|
|
|
|
|