|
Rydym yn annog pobl i rannu eu barn ar greu Parc Cenedlaethol Glyndŵr yn ystod yr ymgynghoriad statudol 12 wythnos o hyd, sy'n para tan 8 Rhagfyr.
Mae'r ymgynghoriad yn dilyn dwy flynedd o werthuso manwl a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys casglu data, asesiadau technegol, ac ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid ledled y rhanbarth.
Helpodd ymgysylltu cyhoeddus blaenorol yn 2023 ac ymgynghoriad cyhoeddus yn 2024 i lunio'r cynnig presennol.
Mae adborth o'r camau hyn wedi llywio'r map ymgynghori terfynol a'r dystiolaeth ategol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau bod rhannau o Gymru yr effeithiwyd arnynt gan sychder yr haf hwn bellach wedi symud i statws adfer, yn dilyn glaw sylweddol ym mis Medi eleni.
Cyhoeddwyd statws sychder ar gyfer de-ddwyrain Cymru ar 14 Awst 2025, ac ar gyfer gogledd Cymru ar 29 Awst. Symudodd De-orllewin Cymru i statws 'cyfnod hir o dywydd sych' ar 22 Mai, ac mae bellach yn symud i statws 'adfer ar ôl cyfnod hir o dywydd sych’.
Ar 22 Medi, roedd y glawiad cyfartalog hirdymor ar gyfer Cymru yn amrywio o 102% ym Methesda, gogledd Gwynedd, i 212% yn Sarn yn nalgylch Hafren uchaf.
Mae llif y rhan fwyaf o afonydd bellach yn normal neu'n uwch na'r arfer ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn, ond mae rhai afonydd yn dangos arwyddion o adferiad arafach ac yn dal i fod yn isel ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn.
Mae timau o CNC yn parhau i fonitro llif afonydd yn agos, yn ogystal â dyfroedd daear sy'n ymateb i law yn arafach. Mae dyfroedd daear yn parhau i fod yn bryder parhaus, gyda rhai yn dal i fod yn eithriadol o isel am yr adeg o'r flwyddyn.
Mae Diwrnod Afonydd y Byd, a gynhaliwyd ddydd Sul, Medi 28, yn ddigwyddiad byd-eang sy'n dathlu afonydd ledled y byd a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth gynnal ecosystemau, bywyd gwyllt a chymunedau.
Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae ein prosiect LIFE Afon Dyfrdwy a’n prosiect Pedair Afon LIFE – y ddau werth miliynau o bunnoedd - wedi bod yn adfer afonydd yng ngogledd a de ein gwlad.
Mae afon Dyfrdwy yng ngogledd Cymru, ac afonydd Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg yn ne Cymru, mewn cyflwr gwael ar hyn o bryd o ganlyniad i amryw fathau o bwysau, er enghraifft newid hinsawdd, dirywiad cynefinoedd, rhwystrau i bysgod sy’n mudo, ansawdd dŵr gwael a rhywogaethau goresgynnol.
Mae’r ddau brosiect wedi bod yn gweithio’n galed i warchod a gwella cyflwr yr afonydd hyn, ac mae arwyddion cadarnhaol eu bod yn adfer i’w gweld eisoes. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddatrysiadau maen nhw’n gobeithio adfer yr ecosystemau bregus hyn ac felly gwella ansawdd y dŵr a bioamrywiaeth a chryfhau gwydnwch yn wyneb newid hinsawdd.
|
 Treuliodd grŵp o Geidwaid Ifanc o Dirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ddiwrnod o’u gwyliau haf yn rhoi help llaw yng Nghoed Nercwys, gan helpu i dorri a chribinio’r ddôl flodau gwyllt gan ddefnyddio technegau pladuro traddodiadol.
Mae Coed Nercwys, un o'n hardaloedd coedwigaeth sy'n cael ei rheoli mewn partneriaeth â'r tîm Tirwedd Genedlaethol, wedi derbyn gofal arbennig er budd blodau gwyllt ers sawl blwyddyn.
Mae'r canlyniadau wedi bod yn rhyfeddol, gyda chynnydd cyson yn lliwiau ac amrywiaeth y planhigion – golygfa werth chweil i ymwelwyr, ceidwaid a pheillwyr fel ei gilydd.
Mae dolydd fel hyn yn elwa o gael eu torri ar ddiwedd yr haf, gan ganiatáu lle i hadau newydd dyfu ac annog ystod ehangach o fywyd planhigion.
Phil Lewis o Smithy Farm a oedd yn arwain ar y diwrnod a bu wrthi’n dysgu'r Ceidwaid Ifanc sut i fesur a hogi eu pladuron yn ddiogel, a sut i'w defnyddio'n effeithiol.
Esboniodd hefyd pam y mae pladuro yn aml yn cael ei ffafrio dros beiriannau – mae'n dawelach, nid yw’n defnyddio tanwydd ffosil, ac mae’n rhoi cyfle i fywyd gwyllt ddianc.
|