|
|
Rydym yn cydnabod yn llawn y pryderon sylweddol yn y gymuned leol ynghylch safle tirlenwi yr Hafod, ac rydym yn cymryd y mater hwn o ddifrif iawn.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae swm sylweddol o adnoddau wedi cael eu defnyddio i reoleiddio’r safle tirlenwi a lleihau unrhyw effeithiau oddi ar y safle.
Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned wrth i’n gweithgareddau rheoleiddio fynd rhagddynt.
|
|
Rydym wedi parhau i fonitro’n agos gynnydd gweithredwr y safle wrth fynd i’r afael ag allyriadau yn safle tirlenwi yr Hafod, sydd wedi cynnwys sawl archwiliad safle heb rybudd.
Mae nifer y digwyddiadau arogl wedi dangos tuedd sy’n gostwng yn gyson wrth i waith gwella gael ei gwblhau. Ym mis Mawrth 2025, fe wnaethon ni gyfarfod â’r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies i drafod ein gwaith rheoleiddio, a mynychu grŵp rhanddeiliaid cyntaf safle tirlenwi yr Hafod.
Ym mis Ebrill 2025, mynychwyd cyfarfod Pwyllgor Craffu Cartrefi a’r Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i drafod y cwynion am arogleuon.
Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod y gweithredwr yn cymryd y camau angenrheidiol i leihau arogleuon ac amddiffyn pobl leol a’r amgylchedd.
|
|
|
Mae’r gweithredwr wedi darparu cynllun gweithredu i ni sy’n nodi sut y bydd yn mynd i’r afael â phob argymhelliad yn ein hadroddiad archwilio, gyda therfynau amser ar gyfer eu cwblhau. Mae rhai o’r camau gweithredu diweddar yn cynnwys:
- Gosod 6,000 metr sgwâr o gapio dros dro ar ochr Cell 4 a 1,000 metr sgwâr ychwanegol ar ben Cell 5a.
- Symud prif bibell nwy 180mm ar Gell 4 i ganiatáu diogelu casglu nwy at y dyfodol.
- Gosod echdynnu nwy wedi’i dargedu ymhellach, gan gynnwys ffynhonnau pin a systemau llorweddol.
- Injan newydd i’w hailosod yn dilyn gwaith ailadeiladu mawr.
Rydym yn cydweithio’n agos ag Enovert i sicrhau bod y camau hyn yn cael eu cyflawni’n effeithiol ac o fewn yr amserlenni byrraf posibl.
|
|
|
Mae data monitro ansawdd aer rhagarweiniol, a gasglwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn cael ei adolygu. Mae canlyniadau cychwynnol yn awgrymu, ar adegau, bod trothwy arogl niwsans cydnabyddedig wedi’i ragori yng Nghanolfan Gymunedol Johnstown; fodd bynnag, mae angen asesiad pellach i ystyried cyfeiriad y gwynt a ffactorau eraill a allai fod yn effeithio ar yr unedau monitro.
|
|
|
|
Mae safle tirlenwi yr Hafod yn gweithredu o dan drwydded amgylcheddol, sy’n nodi’r mathau a’r symiau o wastraff y gellir eu derbyn ar y safle. Nid yw’r rheoliadau trwyddedu yn caniatáu i ni gyfyngu ar ffynonellau’r gwastraff.
Dim ond os credwn fod y gwaith yn peri risg ddifrifol i’r amgylchedd neu iechyd pobl y byddwn yn dirymu trwyddedau, ac os yw pob ymgais arall i leihau’r arogl wedi’i dihysbyddu. Ar hyn o bryd, mae’r gweithredwyr yn dal i weithio drwy nifer o gamau gweithredu i fynd i’r afael â’r materion, ac rydym yn eu rheoleiddio’n graff.
Ni fyddai cau’r safle yn cael gwared ar yr arogleuon ar unwaith, gan y byddai angen rheoli trwytholch a nwy tirlenwi o hyd i leihau’r posibilrwydd o arogleuon oddi ar y safle.
Mae ein camau rheoleiddio yn cael eu harwain gan ein hegwyddorion rheoleiddio cyhoeddedig, gan sicrhau dull cytbwys a rhagweithiol.
|
|
|
Rydym yn annog trigolion i roi gwybod am unrhyw arogleuon y maent yn credu sy’n dod o’r safle tirlenwi trwy gysylltu â ni ar 0300 065 3000 neu drwy ddefnyddio’r ffurflen ‘Rhoi gwybod am ddigwyddiad’ ar ein gwefan. Mae’r adroddiadau hyn yn hanfodol i’n helpu i fonitro ac ymdrin â phryderon yn effeithiol.
Oherwydd y nifer fawr o adroddiadau am ddigwyddiadau, nid yw’n bosibl ar hyn o bryd ffonio pob unigolyn sy’n cysylltu i roi adborth ar lafar.
|
|
|
|