|
I ddathlu wythnos Natur Cymru o 5-13 Gorffennaf, dyma ddetholiad o syniadau i ddod yn agosach at natur wrth gerdded ar y llwybr. Natur, bywyd gwyllt, fflora a ffawna, bioamrywiaeth, blodau, adar, gwenyn, pryfed a chwilod bach. Pa bynnag ran o fyd natur sydd o ddiddordeb i chi, cerdded y llwybr yw'r ffordd berffaith o’i brofi ar ei orau.
 Nid yw cysylltu â natur yn golygu bod yn rhaid i chi fod yn arbenigwr mewn coed, chwilod, pryfed neu blanhigion i fwynhau natur - ewch allan a chymerwch ychydig funudau i sylwi ar y pethau bach o'ch cwmpas.
Ein pethau bach ni yw: • Gwylio'r haul yn dawnsio ar y môr ar ddiwrnod poeth yng Nghlarach yng Ngheredigion • Clywed cri adar y môr o gwmpas creigiau Trefor oddi ar Benrhyn Llŷn • Gweld y chwilod bach duon ar ein ffordd i Nefyn • Gwylio blodau bach pinc tlws yn dawnsio yn y gwynt ar draeth Porth y Post ar Ynys Môn.
Fodd bynnag, os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio technoleg i ddysgu mwy am natur, yna darllenwch ymlaen!
Twyni tywod - mae'n debyg eich bod wedi dod ar eu traws nhw wrth gerdded ar y llwybr. Maen nhw'n lleoedd delfrydol i gysgodi a gorffwys ar daith gerdded neu i wneud rhywfaint o ymarfer corff egnïol - pa bynnag un sy’n mynd â’ch bryd!
Mae'r mannau hyn yn wych ar gyfer gweld byd natur ar ei orau, fel tegeirianau rhuddgoch a thrilliw’r twyni ynghyd ag ehedyddion, gloÿnnod byw, gwenyn turio prin a phryfed eraill sydd mewn perygl. Dewch o hyd i dwyni tywod yn agos atoch chi ac ymlaciwch ym myd natur
|
 Er ei bod hi’n wych gadael y dechnoleg fodern yn y tŷ, mae yna dechnoleg a all wella eich profiad drwy adnabod adar a phlanhigion rydych chi’n eu clywed a’u gweld ar y llwybr.
iNaturalist – adnabod a chofnodi planhigion ac anifeiliaid fel rhan o’u rhaglen gwyddoniaeth dinasyddion. Ewch i wefan iNaturalist
Merlin – Ap defnyddiol ar gyfer adnabod galwadau adar yn enwedig pan allwch chi eu clywed ond nad ydyn nhw yn y golwg. Ewch i wefan Merlin
CoastSnap – Helpwch i fonitro effeithiau newid hinsawdd ar arfordir Cymru drwy gymryd rhan mewn gwyddoniaeth dinasyddion. Tynnwch lun o'r arfordir yn unrhyw un o'n crudiau ffôn a'i uwchlwytho i'n ffrindiau yng Nghanolfan Monitro Arfordirol Cymru. Dewch o hyd i grud CoastSnap yn eich ardal chi
Dysgwch fwy am apiau natur ar gyfer ffonau clyfar yn y blog hwn gan Caru Aber Dyfrdwy
Yr haf hwn, cadwch lygad am adar môr arbennig fel yr hugan gyda'i phlu gwyn llachar a blaenau pygddu ei hadenydd neu'r môr-wenoliaid yng Ngwarchodfa Natur Bywyd Gwyllt Cemlyn ar Ynys Môn. Dyma gytref fwyaf môr-wenoliaid pigddu yng Nghymru gyda channoedd o fôr-wenoliaid cyffredin a môr-wenoliaid y Gogledd yn byw yma.
AWGRYM: Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn cynnig teithiau cerdded tywysedig i'r lle arbennig hwn. Gweler eu tudalen Digwyddiadau am fanylion
Llun: Hugan (Richard Shucksmith)
Mae'r llwybr yn dolennu heibio rhai o fannau mwyaf anhygoel Cymru i weld bywyd gwyllt, y cyfle perffaith i gamu i ffwrdd am ychydig oriau i fyd natur.
Amddiffynnwch fywyd gwyllt yn y mannau arbennig hyn drwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad - awgrymiadau defnyddiol i wneud y gorau o'ch ymweliad yn yr awyr agored yn gyfrifol. Rhaid i berchnogion cŵn ddilyn yr arwyddion lleol a defnyddio tennyn byr ble nodir y dylent wneud hynny. Darganfyddwch warchodfa natur yn agos atoch chi
 Dyma rai awgrymiadau:
Gwlyptiroedd Casnewydd, Casnewydd – Wedi'i leoli rhwng dinas Casnewydd ac aber afon Hafren, mae'n safle gwych ar gyfer gwylio adar fel y cambig, aderyn y bwn a boda’r gwerni trwy rwydwaith hygyrch 7 km o lwybrau ag arwyneb newydd.
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich, Abertawe – Wedi’i lleoli wrth ymyl traeth hir o dywod euraidd a thwyni tywod, mae’r ddau lwybr cerdded cylchol yn ffordd wych o weld y tegeirianau gwyllt, gloÿnnod byw ac adar ac ystlumod sy’n byw yn y warchodfa hon.
Morfa Harlech, ger Harlech – mae'r llwybr yn mynd drwy'r warchodfa natur hon, un o systemau twyni tywod pwysicaf Cymru sy'n dal i dyfu. Yn ystod yr haf, gellir gweld amrywiaeth o blanhigion blodeuol fel trilliw'r twyni a gloÿnnod byw fel y fritheg werdd.
Llun: Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech
Mae'r teithiau cerdded hyn yn wych ar gyfer profi arfordir Cymru, gan ddechrau a gorffen yn yr un lle. Fe welwch fwy o olygfeydd ysbrydoledig a safbwyntiau newydd heb orfod mynd yn ôl yr un ffordd. Cymerwch eich amser a darganfyddwch rywbeth newydd am eich ardal leol fel y twyni tywod yng Ngwarchodfa Natur Cynffig, neu flodau gwyllt lliwgar ar Drwyn y Fuwch. Dewch o hyd i daith gerdded gylchol yn agos atoch chi
|
Rydyn ni wedi creu 7 taith gerdded wahanol, lle gallwch chi ddefnyddio ap Llwybr Arfordir Cymru i ddod â'r llwybr yn fyw. Ewch i’r dudalen Deithiau Cerdded Gwahanol i'r Teulu
Lawrlwythwch yr ap ac mae rhai nodweddion wedi'u cynllunio i weithio'n benodol gyda byrddau gwybodaeth mewn 7 man dynodedig ar y llwybr - gan ddefnyddio realiti estynedig a ffilmiau 3D i ddod â natur yn fyw ar eich ffôn. Gair am yr ap
Gwyliwch y glesyn serennog yn dod yn fyw ar Ben y Gogarth a dysgwch am grwbanod môr cefn-lledr sy’n ymddangos yn anfynych oddi ar arfordir gorllewinol y DU yn ystod misoedd yr haf.
|
Mae Wythnos Natur Cymru, 5 i 13 Gorffennaf, yn ddathliad o fywyd gwyllt a chynefinoedd sy’n canolbwyntio ar fwynhau, gwerthfawrogi a helpu byd natur yng Nghymru.
Mae digwyddiadau eleni yn cynnwys gwyliau natur i bobl o bob oed, teithiau cerdded tywys, a gweithdai bywyd gwyllt a gynhelir gan Bartneriaethau Natur Lleol a sefydliadau eraill sy'n natur-gyfeillgar. Mae llawer o'r digwyddiadau am ddim ac maent yn gyfle gwych i ddathlu byd natur a bod yn rhan o gymuned.
|
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar y cylchlythyrau hyn, boed yn dda neu'n ddrwg. Dywedwch wrthym sut y gallwn eu gwella i chi! Cyslltwch â ni
Os felly, mae gennym gylchlythyr busnes gyda gwybodaeth ddefnyddiol ar sut y gallwch chi wneud y mwyaf o'r llwybr ar gyfer eich busnes. Byddwch yn derbyn gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i'ch helpu chi a'ch cwsmeriaid.
Cliciwch Tanysgrifio isod ac atebwch ‘Ydw’ i'r cwestiwn "Ydych chi'n berchennog busnes?" i dderbyn ein diweddariadau busnes.
|
 |
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
 |
|
Gyda dros 10,000 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|