|
Rydyn ni wedi mwynhau'r cyfnodau braf o heulwen ac awyr las dros y misoedd diwethaf - dyma'r Gwanwyn mwyaf heulog ers dechrau’r cofnodion yn ôl y Swyddfa Dywydd. Gobeithio eich bod wedi bod allan yn crwydro ac yn gwneud y gorau o'r tywydd braf a gobeithio bod mwy ohono i ddod! Dyma grynodeb o newyddion o'r llwybr:
- Awgrymiadau diogelwch defnyddiol ar gyfer agosáu at groesfannau rheilffordd,
- Canllaw bwyd i Lwybr Arfordir Cymru,
- Y llwybr ar Google Street View,
- Rhannau hygyrch o'r llwybr.
Rydym wedi gweld llawer o bobl yn dechrau eu teithiau cerdded ar Lwybr Arfordir Cymru yr haf hwn ac mae ein crysau-T yn berffaith i roi hwb i chi gychwyn ar eich antur.
Camwch i’r llwybr mewn steil gyda'n crysau-T cyfforddus, wedi'u gwneud o gotwm organig 100% ac sydd ar gael mewn amrywiaeth o liwiau a meintiau. Gyda dyluniadau ar gael yn Gymraeg a Saesneg - dyma'r ffordd berffaith o ddechrau eich antur fawr
|
Twyni tywod - mae'n debyg eich bod wedi dod ar eu traws nhw wrth gerdded ar y llwybr. Maen nhw'n lleoedd delfrydol i gysgodi a gorffwys ar daith gerdded neu wrth ymarfer cyhyrau’ch coesau - pa bynnag un sydd orau gennych chi!
Mae'r mannau hyn yn wych ar gyfer gweld byd natur ar ei orau, fel tegeirianau rhuddgoch a thrilliw’r twyni ynghyd ag ehedyddion, gloÿnnod byw, gwenyn turio prin a phryfed eraill sydd mewn perygl. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Twyni Tywod (25 Mehefin), dewch o hyd i dwyni tywod yn eich ardal chi ac ymlaciwch ym myd natur.
|
|
Edrychwch ar ein teithiau cerdded hygyrch lle mae'r llwybr yn cynnig golygfeydd gwych o'r llwybr ac yn addas ar gyfer offer symudedd a bygis. Edrychwch ar Deithiau cerdded hygyrch ar Lwybr Arfordir Cymru
Os ydych chi yn Sir Benfro ac y byddai'n well gennych chi hunan-dywys, ewch i Mynediad i Bawb am wybodaeth ddefnyddiol am deithiau cerdded hygyrch, llogi cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth a golygfannau hygyrch yn yr ardal.
|
|
 |
Mae'n debyg y byddwch chi'n dod ar draws croesfan reilffordd yn ystod eich teithiau cerdded a bydd angen i chi fynd atynt yn ofalus. Yn ystod wythnos Diogelwch Rheilffyrdd (16-22 Mehefin), edrychwch ar y fideo hwn gyda llawer o awgrymiadau defnyddiol ar gyfer eu croesi'n ddiogel. Gwylio’r fideo (yn agor yn YouTube)
|
Taith gerdded ar y llwybr ac yna bwyd a diod lleol ardderchog i orffen eich diwrnod - be’ well? Llwybr Bwyd Môr yw ateb Cymru i Gernyw lle gallwch flasu'r bwyd môr tymhorol gorau yma yng ngogledd-orllewin Cymru. Nod prosiect y llwybr bwyd môr yw cysylltu gwerthwyr bwyd môr ar hyd arfordir Eryri a Llŷn â theithiau cerdded cylchol Llwybr Arfordir Cymru.
Ddim yn hoffi bwyd môr? Peidiwch â phoeni, mae'r gwerthwyr yn cynnig danteithion blasus eraill i dynnu dŵr o’ch dannedd. Dysgwch fwy am y Llwybr Bwyd Môr
|
Rydym wedi bod yn brysur yn mapio'r llwybr cyfan i roi cynrychiolaeth rhithwir, ryngweithiol gan ddefnyddio Google Street View ar Google Maps, a fydd ar gael yn ddiweddarach eleni. Gallwch eisoes weld rhai rhannau o'r llwybr fel Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Benfro a Cheredigion.
 Mae'n adnodd defnyddiol iawn i'ch helpu i ymchwilio i'r llwybr yn fwy manwl, cyn i chi hyd yn oed gamu allan o'r tŷ. Defnyddiwch offeryn Google "Street View" yn Google Maps er mwyn:
- gweld sut olwg sydd ar wyneb y llwybr a'r amgylchedd cyfagos gyda golygfa 360 gradd
- dod o hyd i lefydd i fwyta, yfed ac aros a lleoedd parcio
- ymgyfarwyddo â'r ardal y byddwch chi'n cerdded ynddi
- ymchwilio i adrannau hygyrch ar y llwybr
AWGRYM DA: Cadwch fap papur gyda chi fel copi wrth gefn rhag ofn i'r dechnoleg fethu.
Rydyn ni wrth ein bodd yn dod o hyd i lefydd i fwyta ac yfed ar ôl diwrnod da o gerdded. Mae Cymru yn cynnig rhai o'r danteithion gorau yn y DU, lle mae croeso cynnes Cymreig i’w gael bob tro. Edrychwch ar ein blog diweddaraf Canllaw Bwyd i Lwybr Arfordir Cymru sy’n cynnwys caffis clyd a bwytai arfordirol trawiadol ar y llwybr neu ger y llwybr ac sy’n defnyddio cynnyrch lleol o safon. Ydyn ni wedi colli rhywle sy’n haeddu sylw? Rhannwch eich argymhellion yn y Grŵp Cymunedol Facebook Llwybr Arfordir Cymru
 Bwyty Dylans, Gogledd Cymru
Hunluniau ar yr arfordir! Tynnwyd llun o gath yn un o'n crudiau ffôn ar y llwybr - lle rydych chi'n tynnu llun o'r arfordir fel rhan o'n prosiect gwyddoniaeth dinasyddion CoastSnap. Mae llawer o gŵn wedi ymddangos yn y lluniau ond dyma'r gath gyntaf i serennu! Dewch o hyd i grud CoastSnap yn eich ardal chi
Llun: Canolfan Monitro Arfordirol Cymru
|
Ydych chi'n fusnes ar y llwybr neu'n agos ato? Bydd ein pecyn cymorth diweddaraf i fusnesau yn eich helpu i wneud y mwyaf o gyfleoedd busnes ar hyd y llwybr. Mae’n llawn dop o awgrymiadau defnyddiol a mynediad at luniau a fideos proffesiynol am ddim o'r llwybr ar gyfer eich deunyddiau marchnata eich hun, a bydd yn helpu i roi hwb i'ch busnes ar y llwybr.
|
Teithiau cerdded tywysedig ar hyd arfordir syfrdanol Sir Benfro - mae llawer o deithiau cerdded yn cael eu trefnu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod y misoedd nesaf. Dewiswch o blith teithiau cerdded bywyd gwyllt, teithiau cerdded hygyrch, teithiau cerdded cymdeithasol yn ogystal â theithiau cerdded sy'n addas ar gyfer bygis. Edrychwch ar dudalen Facebook APCAP ar gyfer digwyddiadau neu chwiliwch eu tudalen Digwyddiadau
|
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar y cylchlythyrau hyn, boed yn dda neu'n ddrwg. Dywedwch wrthym sut y gallwn eu gwella i chi! Cyslltwch â ni
Os felly, mae gennym gylchlythyr busnes gyda gwybodaeth ddefnyddiol ar sut y gallwch chi wneud y mwyaf o'r llwybr ar gyfer eich busnes. Byddwch yn derbyn gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i'ch helpu chi a'ch cwsmeriaid.
Cliciwch Tanysgrifio isod ac atebwch ‘Ydw’ i'r cwestiwn "Ydych chi'n berchennog busnes?" i dderbyn ein diweddariadau busnes.
|
 |
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
 |
|
Gyda dros 9,500 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|