|
Mae'n Wanwyn yn swyddogol ac rydyn ni eisoes yn mwynhau'r nosweithiau goleuach a hyd yn oed ychydig o heulwen. Gobeithio y cewch chi ychydig o amser dros wyliau’r Pasg a Gwyliau’r Banc i orffwys ac ymlacio gyda theulu a ffrindiau. Mis Mai yw’r mis Cerdded Cenedlaethol - beth am bori trwy ein teithiau cerdded a dechrau ar eich taith ar y llwybr gan fwynhau egni newydd y gwanwyn!
 Mynydd Mawr ac Ynys Enlli
Mis Mai yw’r Mis Cerdded Cenedlaethol - ein hoff fis o'r flwyddyn! Mae'r llwybr yn 870 milltir / 1,400km o hyd sy'n gryn bellter, ond peidiwch â phoeni, mae gennym ni lawer o syniadau ar ble i ddechrau. Gyda dros 100 o deithiau cerdded i ddewis ohonynt, dyma restr ddefnyddiol o ble i ddechrau eich taith ar Lwybr Arfordir Cymru:
- Teithiau cerdded cylchol - delfrydol os mai dim ond un car sydd gennych neu os ydych chi am ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r teithiau cerdded cylchol hyn hefyd yn wych os ydych chi am grwydro ychydig ymhellach oddi ar y llwybr.
- Teithiau cerdded aml-ddiwrnod – Gwnewch y gorau o Wyliau’r Banc eleni gyda’n teithiau cerdded aml-ddiwrnod (3 diwrnod) sy’n amrywio o 25-30 milltir o gerdded arfordirol. Mae’r teithlenni hyn yn llawn dop o lefydd gwych i aros ynddynt, mannau o ddiddordeb a syniadau am drafnidiaeth, sy’n golygu eu bod yn berffaith ar gyfer penwythnos hir o archwilio’r llwybr.
- Addas i deuluoedd – Rhowch gynnig ar y teithiau cerdded hyn os oes gennych chi blant ifanc sy’n fwrlwm o egni. Mae’r rhan fwyaf o’r teithiau cerdded i deuluoedd tua 2-3 milltir o hyd, gyda syniadau am bethau i’w gwneud ar hyd y ffordd.
- Cestyll a thaith gerdded – Gwych i'r rhai sydd â diddordeb yn hanes Cymru. Mae ein teithiau cerdded Cadw yn cysylltu ag eiddo Cadw (mae rhai yn codi tâl mynediad).
- Teithiau cerdded hygyrch – Mae’r rhannau hyn o’r llwybr yn ddelfrydol ar gyfer offer symudedd a bygis.
COFIWCH: Sicrhewch fynediad 2-am-bris-1 yn safleoedd hanesyddol Cadw pan fyddwch yn teithio yno ar y trên. Darllenwch fwy am y cynnig 2-am-bris-1 i Dirnodau Hanesyddol
Gwnewch y mwyaf o'ch amser ar y llwybr gyda'n hawgrymiadau:
- Ymgyfarwyddwch cyn i chi fynd - Defnyddiwch ein map rhyngweithiol i weld i ble mae'r llwybr yn mynd a chynlluniwch eich llwybr
- Lawrlwythwch ein ap - Mae ein ap yn dangos i chi ble rydych chi ar y llwybr a bydd yn dweud wrthych os byddwch chi'n crwydro oddi arno. Mae hefyd yn cofnodi pob un o'ch teithiau cerdded er mwyn i chi allu olrhain eich cynnydd. Mwy o wybodaeth am yr ap
- Cofrestrwch ar gyfer mapiau’r Arolwg Ordnans - Mae ein holl deithiau cerdded cylchol bellach ar OS Maps ar-lein. Cofrestrwch am gyfrif OS Maps am ddim a lawrlwythwch ap OS Maps i weld ein llwybrau cylchol, lawrlwytho ffeil GPX, a rhoi sgôr iddynt! Chwiliwch am deithiau cerdded sy'n dechrau gyda Llwybr Arfordir Cymru.
- Parchwch, Diogelwch a Mwynhewch yr awyr agored - Edrychwch ar y Cod Cefn Gwlad - set o ganllawiau i bawb fwynhau'r awyr agored hyd yn oed yn fwy.
- Pasbortau – Edrychwch ar ein pasbortau i ymchwilio i ble y gallwch gerdded ar y llwybr. Mae yna basbort ar gyfer pob rhanbarth gyda rhestr dicio hwylus o'r lleoliadau - man cychwyn delfrydol i chwilio am leoedd i yfed, bwyta a gorffwys eich coesau blinedig. Cymerwch gip ar y pasbortau
- O'r Cledrau i'r Llwybrau - Ystyriwch ddefnyddio'r trenau i gerdded rhai rhannau o'r llwybr - fel hyn, gallwch weld arfordir Cymru o’r newydd. Cerddwch bron i 100 milltir o’r llwybr gan ddefnyddio Lein y Cambrian neu dewch o hyd i’ch ffordd o’r cledrau i’r llwybr i gychwyn eich taith!
Mae gwyliau'r Pasg bron yma ac mae'n gyfle delfrydol i wneud y gorau o'r tywydd gwell a chymryd hoe o'ch bywyd beunyddiol. Manteisiwch ar y cyfle i gael cipolwg ar y gorffennol ac ymweld â rhai o’r safleoedd treftadaeth sanctaidd ar hyd y llwybr – o eglwysi i gapeli. Edrychwch ar Deithiau Cerdded Mannau Treftadaeth Cysegredig Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro. (Llun o eglwys St Hwywyns, Aberdaron)
|
 |
|
Dyma flog calonogol ac ysbrydoledig gan yr ymgyrchydd anabledd Bethany Handley yn dangos sut mae’r llwybr wedi ei helpu i ailgysylltu ag arfordir Cymru. Mae hi hefyd yn rhannu ei hoff fannau hygyrch i fynd ar y llwybr, sy’n ddelfrydol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a theuluoedd gyda bygis. |
 |
|
Bachwch rywbeth i gofio’ch amser ar y llwybr o blith ein casgliad o grysau-t cotwm organig – mae rhywbeth at ddant pawb. Maen nhw wedi’u dylunio'n hyfryd mewn amrywiaeth o liwiau a meintiau, ac yn berffaith ar gyfer cerdded y llwybr. Ar gael mewn dyluniadau Cymraeg a Saesneg. |
Mae rhan o'r llwybr yn Sir y Fflint bellach ar Google Street View
Edrychwch ar y rhan hon o'r llwybr cyn i chi hyd yn oed roi’ch esgidiau am eich traed! Ffordd wych o gynllunio'ch taith gerdded a dod o hyd i le i stopio am baned a chacen ar hyd y ffordd. Edrychwch ar y llwybr yn Sir y Fflint ar Google Street View
Gwyliau Cerdded yn 2025
Mae'r digwyddiadau hyn yn ffordd wych o gwrdd â ffrindiau cerdded newydd ac archwilio ardaloedd newydd i gerdded. Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau am ŵyl yn eich ardal chi
Ydych chi'n fusnes ger llwybr yr arfordir?
Y llynedd, cynhaliwyd arolwg gyda busnesau ar hyd y llwybr i gasglu barn ar y cymorth sydd ei angen i gynyddu cyfleoedd i fusnesau. Mae canlyniadau'r arolwg bellach ar gael gyda llawer o adborth diddorol. Darllenwch Ganlyniadau Arolwg Busnes 2024 Llwybr Arfordir Cymru
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar y cylchlythyrau hyn, boed yn dda neu'n ddrwg. Dywedwch wrthym sut y gallwn eu gwella i chi!
Os felly, mae gennym gylchlythyr busnes gyda gwybodaeth ddefnyddiol ar sut y gallwch chi wneud y mwyaf o'r llwybr ar gyfer eich busnes. Byddwch yn derbyn gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i'ch helpu chi a'ch cwsmeriaid.
Cliciwch Tanysgrifio isod ac atebwch ‘Ydw’ i'r cwestiwn "Ydych chi'n berchennog busnes?" i dderbyn ein diweddariadau busnes.
|
 |
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
 |
|
Gyda dros 9,000 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|