|
Sefydlwyd y Tîm Rheoli Digwyddiad mewn ymateb i bryderon llygredd arogl oddi ar y safle sy’n effeithio ar gymunedau lleol ym mis Chwefror 2024.
O ystyried y gostyngiad sylweddol mewn adroddiadau arogleuon, y gwelliannau gweithredol a wnaed gan weithredwr y safle, a bod nifer yr achosion o fynd y tu hwnt i’r trothwy ansawdd aer yn dal i fod yn isel, penderfynwyd bod y sefyllfa wedi symud y tu hwnt i ymateb i ddigwyddiad ac felly nid oes angen rôl Tîm Rheoli Digwyddiad erbyn hyn,
Bydd y Tîm Rheoli Digwyddiad aml-asiantaeth yn cynnal ei gyfarfod terfynol a drefnwyd ar gyfer mis Ebrill.
Bydd gwaith parhaus sy’n ymwneud â safle tirlenwi Withyhedge yn parhau i gael ei gyflawni fel rhan o weithrediadau arferol o fewn pob sefydliad partner - Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Cyngor Sir Penfro (CSP), Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (HDUHB).
Pe bai amgylchiadau'n newid a'r angen yn codi, bydd y grŵp yn cael ei ailgynnull.
|
|
|
Cynhaliodd CNC archwiliad safle ar safle tirlenwi Withyhedge ddydd Iau, 6 Mawrth.
- Mae ffynhonnau nwy llorweddol wedi'u gosod ar hyd Celloedd 9A a 9B ac wedi'u cysylltu â'r system rheoli nwy.
- Mae gweithgareddau gwaredu gwastraff wedi symud ymlaen i Gell 9B, yn unol â'r cynllun cyflwyno gwastraff a gymeradwywyd fesul cam. Ni all gweithgareddau gwaredu gwastraff symud ymlaen i Gell 9C nes bod Adroddiad Dilysu CQA wedi’i gyflwyno a’i dderbyn gan CNC.
- Bydd capio dros dro yn cael ei osod yn fuan ar draws rhannau o Gell 9A; bydd hyn yn helpu i reoli nwy tirlenwi.
LLUN: Ffynhonnau nwy llorweddol
|
 Gweithgareddau gwaredu gwastraff yn gell 9
|
|
Mae adolygiad cychwynnol o'r cais amrywio caniatâd ar gyfer y safle tirlenwi wedi nodi’r angen am wybodaeth ychwanegol, ac mae cais wedi'i anfon at y gweithredwr.
Unwaith y bydd y wybodaeth angenrheidiol wedi'i darparu, bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a all y cais symud ymlaen i'r cyfnod penderfynu, pan fydd yr holl fanylion perthnasol yn cael eu hasesu.
Oherwydd diddordeb mawr y cyhoedd yn y safle, bydd rhan o’r asesiad hwnnw’n cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus lle bydd aelodau’r gymuned yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar y newidiadau arfaethedig.
Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu cyn y broses ymgynghori.
|
Mae aelodau'r Tîm Rheoli Digwyddiad wedi adolygu'r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma ac wedi ystyried hyn ochr yn ochr â'r nifer isel parhaus o gwynion, ac ymrwymiad gweithredwr y safle i barhau i ddatblygu eu monitro eu hunain a gwelliannau i'w cynllun rheoli arogleuon.
Cytunwyd nad oes angen gwaith monitro wedi’i ariannu’n gyhoeddus yn y lleoliad hwn mwyach.
|
|
|
Derbyniodd CNC 11 o gwynion am arogleuon ym mis Chwefror, gyda’r niferoedd adrodd yn parhau’n isel. Nid yw Swyddogion CNC wedi canfod unrhyw arogleuon oddi ar y safle y gellir eu priodoli i’r safle tirlenwi ers i weithgareddau gwaredu gwastraff ailddechrau ar 6 Ionawr 2025.
Rhowch wybod am arogl trwy ein ffurflen bwrpasol, neu drwy ffonio 0300 065 3000.
Neu ebost: Complaints.withyhedgelandfill@pembrokeshire.gov.uk
|
|
|
|
|