Mae’r gweithredwr wedi darparu cynllun gweithredu i ni, sy’n nodi sut y bydd yn mynd i’r afael â phob argymhelliad yn adroddiad archwilio’r LERP, gyda therfynau amser ar gyfer eu cwblhau.
Mae rhai o’r camau gweithredu hyn eisoes wedi’u cwblhau. Mae hyn yn cynnwys drilio a gosod saith ffynhonnell nwy fertigol ddofn newydd. Mae gwaith arall yn ddibynnol ar y tywydd a chaiff ei gwblhau cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Bydd hyn yn cynnwys gwaith gosod capiau ychwanegol dros dro, y mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Chwefror 2025.
Rydym yn cydweithio’n agos ag Enovert i sicrhau bod y camau hyn yn cael eu cyflawni’n effeithiol ac o fewn yr amserlenni byrraf posibl.
|