Rhifyn 6 2024/2025: Mis Chwefror a mis Mawrth 2025
2025 yw Blwyddyn Croeso – blwyddyn lle mae croeso Cymreig i bawb sy’n ymweld â Chymru, a fydd yn cael ei dathlu gydag ennyd o hwyl. Gyda mis Ionawr drosodd, rydym ni eisoes wrth ein bodd â'r oriau hirach o olau dydd ac arwyddion y gwanwyn. Ond ein hennyd o hwyl hyd yn hyn yw gwylio machludau haul y gaeaf yn goleuo'r arfordir gyda lliwiau hynod lachar – rhywbeth sy’n anhygoel i'w wylio o'r llwybr. Rhannwch eich ennyd o hwyl ar y llwybr – tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod #FeeltheHwyl #Hwyl
Ar 1 Mawrth, rydym yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Dywedodd Dewi Sant, nawddsant Cymru, ’Gwnewch y pethau bychain mewn bywyd’ – dywediad sy’n parhau i fod yn dra hysbys yng Nghymru hyd heddiw. Gadewch i ni ddilyn ei gyngor a chamu ar y llwybr am dro – waeth pa mor fyr neu hir ydyw eleni.
 |
|
Rhowch gynnig ar rywbeth gwahanol ar y llwybr eleni!
Rydym wedi sylwi ar rai sawna symudol yn ymddangos ar hyd yr arfordir yn ddiweddar. Maent yn ffordd ddelfrydol o orffwys ac adfywio ar ôl taith gerdded egnïol – gyda golygfeydd godidog o arfordir Cymru i orffen eich diwrnod.
|
Yr hyn a welwch o'ch safbwynt: Rydych chi'n cerdded y llwybr ac yn cyrraedd giât. A ydych chi'n ei chau, yn ei chadw ar agor neu'n ei gadael fel yr oedd pan wnaethoch chi ei chyrraedd? Pa un fyddech chi'n ei wneud?
Edrychwch ar y Cod Cefn Gwlad – canllawiau defnyddiol i'ch helpu chi i fwynhau eich amser ar y llwybr hyd yn oed yn fwy.
|
Ar eich teithiau cerdded gaeafol, cadwch olwg am lawer o adar hirgoes fel piod y môr, pibyddion y mawn (gweler llun) a gylfinirod, sy’n heidio i Gymru i ddianc rhag gaeafau diffaith y gogledd. Yma yng Nghymru, maen nhw’n bwydo yn eu miloedd ar y fflatiau llaid sy’n llawn maetholion, ac yn bwyta malwod suddlon a rhai pysgod cregyn. Gallwch wylio hwn o'r llwybr, yn ddigon pell i ffwrdd i osgoi tarfu ar yr adar sy'n bwydo. Y lleoedd gorau i fwynhau’r olygfa aeafol hon ar hyd arfordir gogledd Cymru yw aber afon Dyfrdwy a Thraeth Lafan (yr ehangder tywodlyd eang ger Bangor).
AWGRYM ARBENNIG: Dewch ag ysbienddrych i wylio'r adar o bellter nad yw'n tarfu arnynt.
|
 Mynydd Mawr ac Ynys Enlli
Mae ein cymuned ar-lein o 9,000 o aelodau yn lle gwych i ddod o hyd i ysbrydoliaeth a chyngor ymarferol i'r rhai sy'n cynllunio eu taith gerdded. Ymunwch â chymuned Facebook Llwybr Arfordir Cymru Edrychwch ar lawer o adnoddau defnyddiol ar ein gwefan i'ch helpu i gynllunio eich taith gerdded nesaf:
- Teithiau – dewiswch o deithiau cerdded byr, teithiau cerdded hir, a theithiau cerdded sy'n addas ar gyfer pramiau, cadeiriau olwyn a phobl â phroblemau symudedd.
- Map rhyngweithiol – plotiwch eich llwybr i ddarganfod y pellter mewn milltiroedd a chilometrau.
- Tablau pellter – darganfyddwch y pellter rhwng y prif drefi a phentrefi i'ch helpu i gynllunio mannau i gael gorffwys.
- Ap Llwybr Arfordir Cymru – gwelwch eich cynnydd gan ddefnyddio’r ap swyddogol, sydd hefyd yn dweud wrthych a ydych ar y llwybr ai peidio. Mae hefyd yn awgrymu teithiau cerdded pellach os ydych am ymestyn eich taith gerdded.
- Pasbortau – argraffwch ein pasbort a defnyddiwch y rhestr dicio i olrhain eich cynnydd ar y llwybr gyda phen ysgrifennu a phapur, gan ei wneud yn ddewis technoleg isel delfrydol yn lle ein ap.
Diwrnod y Llyfr 6 Mawrth
Mae saith arweinlyfr swyddogol ar gyfer y llwybr ar gael yn Saesneg gan Northern Eye Books, sy'n cwmpasu'r 870 milltir i gyd mewn cymalau, gyda llawer o wybodaeth ddiddorol a defnyddiol am yr hyn i'w ddisgwyl ar y llwybr ynghyd â llawer o fannau o ddiddordeb. Pori arweinlyfrau
|
Mae un o'r arweinlyfrau swyddogol, "Penrhyn Llŷn", sy'n cwmpasu’r ardal rhwng Bangor a Phorthmadog, hefyd ar gael yn Gymraeg – sy’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr Cymraeg a phobl sydd eisiau crwydro'r llwybr trwy gyfrwng iaith frodorol Cymru. Ewch siopa nawr
|
Y Môr a Ni
Mae Strategaeth Llythrennedd Morol genedlaethol gyntaf y DU wedi'i hanelu at feithrin perthynas pobl â'n harfordiroedd a'n moroedd. Rhan allweddol o’r gwaith hwn yw lansio digwyddiadau Gŵyl y Môr, sy’n cynnwys cerddoriaeth a’r celfyddydau, arddangosiadau bwyd môr a gweithgareddau chwaraeon dŵr, ymhlith llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill i gysylltu pobl â’r arfordir ac i’w hysbrydoli i wneud y gorau o'r arfordir a'r moroedd o amgylch Cymru.
Y dyddiadau ar gyfer eich dyddiaduron yw: 8 Mawrth yn Aberdaugleddau a 22 Mawrth yn y Fflint. Paratowyd y strategaeth gan Bartneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru. Rhagor o fanylion
|
Chill Cymru - Ymlaciwch a mwynhewch y profiad teledu araf hwn. Mae llawer o lefydd cyfarwydd ar hyd yr arfordir. Faint ydych chi'n gyfarwydd â nhw? Gwyliwch Teledu Chill Cymru nawr
|
Diwrnod Barddoniaeth y Byd 21 Mawrth
Wedi’i guradu’n wreiddiol i ddathlu dengmlwyddiant y llwybr yn 2022, ysgrifennwyd Bendith Llwybr Arfordir Cymru gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, a gafodd ei ysbrydoli gan arfordir Cymru a’r llwybr. Gwrandewch ar Fendith Llwybr Arfordir Cymru
|
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar y cylchlythyrau hyn, boed yn dda neu'n ddrwg. Dywedwch wrthym sut y gallwn eu gwella i chi!
Os felly, mae gennym gylchlythyr busnes gyda gwybodaeth ddefnyddiol ar sut y gallwch chi wneud y mwyaf o'r llwybr ar gyfer eich busnes. Byddwch yn derbyn gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i'ch helpu chi a'ch cwsmeriaid.
Cliciwch Tanysgrifio isod ac atebwch ‘Ydw’ i'r cwestiwn "Ydych chi'n berchennog busnes?" i dderbyn ein diweddariadau busnes.
|
 |
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
 |
|
Gyda dros 9,000 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|