|
|
Llun: Ymwelwyr safle yn ein digwyddiad 'Adfer Dalgylch Afon Gwy ar Waith'
Ariennir Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf #AdferGwyUchaf gan Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, sy’n rhan o’r Rhaglen Cyfalaf Dŵr, i adfer cyflwr rhan uchaf afon Gwy.
Nod cyffredinol y prosiect hwn yw gwarchod rhywogaethau a gwella cynefinoedd trwy fynd i'r afael ag amrywiaeth o bwysau sy'n effeithio ar yr afon.
I wybod mwy am gefndir y prosiect, darllenwch ein cylchlythyr cyntaf: Cylchlythyr Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf Rhif 1
A nawr, dyma beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud ers ein rhifyn cyntaf…
|
|
 Lluniau: Ymweld â Prosiect Rheoli Llifogyddi yn Naturiol Cymoedd Stroud ddysgu am wahanol ddulliau
Yn gynharach eleni, ymwelodd y tîm â Stroud yn y Cotswolds i archwilio rhai o’r mesurau naturiol niferus y mae Prosiect Rheoli Llifogyddi yn Naturiol Cymoedd Stroud wedi’u gosod i arafu llif dros y tir yn nalgylchoedd afonydd yno. Buom yn edrych ar safleoedd lle:
- Roedd pren mawr wedi'i dorri i mewn i nentydd i ffurfio sawl cyfres o argaeau sydd yn gollwng. Mae'r rhain yn caniatáu llif arferol y nant a symudiad bywyd gwyllt, ond maent yn arafu llifoedd uchel.
- Roedd cyfres o byndiau a gwalau i lawr dalgylch serth yn storio dŵr ffo dros dro, gyda llystyfiant garw a phlannu coed i arafu a gwasgaru llifoedd.
- Roedd hen bibellau draenio wedi’u tynnu i ddod â’r dŵr uwchben y ddaear eto, lle caiff ei arafu wedyn gan byllau a llystyfiant garw.
- Roedd nant wedi'i sythu drwy greu gyli wedi'i hailgysylltu â'i gorlifdir hanesyddol trwy dorri'r argloddiau.
- Roedd bwndeli malurion wedi'u gosod ar draws gorlifdir. Mae'r rhain yn lledaenu llif y llifogydd ar draws ardal fawr o dir, gan ganiatáu mwy o drylifiad.
Yn unigol, mae pob dull yn cael ychydig o effaith ar sut y mae dŵr yn cael ei storio neu ei arafu, ond, gyda'i gilydd, mae'r dulliau hyn yn cael effaith gronnus sylweddol. Gan eu bod yn naturiol, maent hefyd yn gynefinoedd gwych i fywyd gwyllt, gellir eu gosod yn gyflym, a gellir eu disodli, neu ychwanegu atynt, am gost isel iawn.
Gan ddefnyddio’r un egwyddor o ‘ychydig ac yn aml’ i arafu llif y dŵr dros y tir yn nalgylch afon Gwy uchaf, rydym bellach yn datblygu nifer o brosiectau o fewn tir wedi’i goedwigo yn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru sy’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y cyntaf o'r rhain yng Nghoedwig Tarennig ar afon Gwy uchaf a Choedwig Hafren ar afon Bidno.
 Llun: Yn nodi cyfleoedd arafu'r llif ar y Bidno yn rhan uchaf Afon Gwy
 Llun: Delwedd o ardal a arolygwyd ar gyfer cyfleoedd arafu’r llif
Mae rheolaeth tir yma yn y gorffennol wedi arwain at ddraeniad cynyddol o dir, a llif cyflymach o ddŵr o’r tir i nentydd ac afonydd, yn ogystal â phlanhigfeydd gwreiddiol sydd yn agos iawn at lannau’r nentydd.
Mae’r un meddylfryd ‘taclus’ a welwn mewn mannau eraill hefyd wedi’i ddefnyddio mewn coedwigaeth, sef tynnu coed marw o afonydd a chadw'r glannau'n glir o brysgwydd. Mae hyn yn creu’r risg y gallai silt o waith coedwigaeth, a chynnal a chadw ffyrdd coedwig fynd i mewn i’r cyrsiau dŵr hyn, yn ogystal â gwneud yr afonydd yn llai naturiol.
Mae dulliau rheoli wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy o dir agored a chlustogau glan yr afon yn cael eu creu wrth i flociau o goedwigoedd gael eu cwympo. Rydym nawr yn bwriadu adeiladu ar hyn drwy rwystro hen sianeli o waith dyn a dargyfeirio draeniau i lifo ar draws tir yn hytrach nag yn uniongyrchol i nentydd. Byddwn hefyd yn ychwanegu darnau mawr o bren marw at sianeli nentydd lle bo'n briodol, a chwympo conwydd sydd wedi’u hunanhadu ar lan yr afon a'r gorlifdir. Bydd yr holl dechnegau hyn yn gweithio gyda'i gilydd i arafu llif y dŵr o'r coedwigoedd, a lleihau cyflymder y dŵr sy'n llifo dros y tir ar adegau o law trwm.
Mae gan y math hwn o waith gymaint o fanteision y tu hwnt i arafu’r llif yn unig, megis ansawdd dŵr gwell, mwy o gynefinoedd gwlyptir ar gyfer planhigion ac anifeiliaid, mwy o gysgod ar gyfer tymheredd afon gwell, a gwely afon mwy amrywiol ar gyfer pysgod.
Rydym hefyd yn awyddus i ddefnyddio'r prosiectau hyn fel 'safleoedd arddangos' i ddangos i eraill y manteision a sut y rheolir unrhyw risgiau. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd mewn cylchlythyrau yn y dyfodol a dilyn #Bidno a #Tarenig.
|
|
|
Rhan fawr o brosiect afon Gwy uchaf yw gweithio gyda ffermwyr o fewn y dalgylch (ar y brif afon a’r llednentydd), gan gyd-ddylunio ac ariannu cynlluniau ar eu tir a fydd o fudd i afon Gwy a busnes y ffermydd. Gallai’r cynlluniau hyn gynnwys amrywiaeth eang o fesurau megis:
- Gosod ffensys ar hyd coridorau afonydd i greu parthau clustogi
- Darparu opsiynau yfed amgen i ddileu’r angen i dda byw fynd i mewn i gyrsiau dŵr
- Plannu coed i gynyddu cysgod afonydd a sefydlogrwydd glannau
- Gosod mesurau i leihau’r llif dros y tir, cynyddu ymdreiddiad, a lleihau’r pridd a maethynnau a gollir mewn dŵr ffo
- Gwella cynefinoedd glannau afon a gorlifdir
- Gwelliannau ar neu o gwmpas iardiau fferm i leihau llygredd gwasgaredig
Gall yr ymyriadau hyn leihau effeithiau tywydd eithafol, gwella ansawdd dŵr, a gwella cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau pwysig fel eogiaid a misglod perlog. Mae llawer o’r ymyriadau’n ddatrysiadau ar sail natur, a all ddarparu buddion hirdymor i'r amgylchedd a busnes ffermydd trwy leihau mewnbynnau costus.
Mae ein tîm wedi bod yn cyfarfod â grwpiau clwstwr fferm a sefydlwyd gan Ddŵr Cymru i ffurfio cysylltiadau a siarad am yr hyn y gallwn ei gynnig. Rydym hefyd wedi bod yn ymweld â ffermwyr i drafod ffyrdd y gallem weithio gyda nhw er budd yr afon ar eu tir. Mae cytundebau yn gwbl wirfoddol ac rydym yn gweithio gyda phob perchennog tir, gan deilwra cytundeb pwrpasol sy’n gweithio iddyn nhw yn ogystal â’r afon.
Dyma rai o’r ffyrdd y gall y camau gweithredu uchod fod o fudd i ffermwyr:
- Symleiddio rheoli stoc
- Darparu gwell opsiynau yfed ar gyfer da byw
- Atal erydiad annaturiol trwy sefydlogi glannau afonydd
- Darparu lloches ac atalfeydd gwynt i anifeiliaid
- Gwella ansawdd y pridd a lleihau dŵr ffo
Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu sawl cynllun fferm, ac mae pob un ar gamau gwahanol, o drafodaethau cynnar i gwblhau cytundebau. Byddwn yn ehangu'r gwaith hwn, felly os ydych yn berchen ar neu'n rheoli tir yn ein hardaloedd ffocws o amgylch afon Ithon, afon Gwy uchaf neu afon Marteg ac yr hoffech weithio gyda ni, cysylltwch â ni.
 Llun: Darn o lan ar afon Gwy – sathru ac erydiad, coed yn darparu cysgod a sefydlogrwydd glannau, ffensys glan yr afon yn darparu clustog amddiffynnol
|
|
 Llun: Prawf-hedfan y drôn newydd dros Nghoedwig Tarennig
Rydym wedi cymryd cam mawr ymlaen yn ein hymdrechion i fonitro a gwella'r amgylchedd drwy ychwanegu drôn o'r radd flaenaf. Bydd yr offeryn newydd hwn yn chwarae rhan allweddol wrth dynnu lluniau i asesu effaith ein hymyriadau amgylcheddol.
Un o alluoedd cyffrous y drôn yw’r gallu i greu delweddau orthomosaig cydraniad uchel. Bydd y mapiau awyr manwl hyn yn cwmpasu ardaloedd mawr fel coedwigoedd neu barthau glannau afon, gan ganiatáu i ni fonitro gwelliannau mewn cynefinoedd dros yr ardal eang yr ydym yn gweithio arni.
Bydd y drôn yn ein helpu i olrhain effeithiau cronnol ymyriadau ar raddfa fach a deall yn well sut mae’r ymdrechion hyn yn cyfrannu at adfer y dirwedd naturiol a gwella bioamrywiaeth yn afon Gwy uchaf.
Ar ôl taith brawf yng Nghoedwig Tarennig, gallwn nawr ddechrau ei ddefnyddio ar gyfer ein gwaith monitro. Y dasg gyntaf fydd casglu delweddau orthomosaig aml-sbectrol yn yr ardaloedd lle rydyn ni'n gosod mesurau arafu'r llif er mwyn i ni allu dechrau asesu'r newidiadau. Byddwn yn rhannu lluniau drôn mewn cylchlythyrau yn y dyfodol.
|
|
 Llun: Pidyn-y-gog Americanaidd yn ffynnu mewn coetir gwlyb yn afon Gwy uchaf
Yr hydref hwn, rydym wedi bod yn cynnal arolwg o afon Gwy uchaf am rywogaethau estron goresgynnol sy’n bygwth ein gwlyptiroedd a’n dyfrffyrdd. Un rhywogaeth nad oeddem yn disgwyl dod ar ei thraws yw pidyn-y-gog Americanaidd ac rydym wedi dychryn i ddod o hyd iddo ar draws llednentydd yn ardal y prosiect, ac weithiau mewn poblogaethau mawr.
Ar un adeg, roedd pidyn-y-gog Americanaidd yn blanhigyn pwll addurniadol poblogaidd a phlanhigyn gardd gors a werthwyd mewn canolfannau garddio, ond bellach mae’n anghyfreithlon i'w werthu yn y Deyrnas Unedig. Yn y gwanwyn, mae'n hawdd adnabod ei flodau melyn llachar (fflurweiniau) ac, yn yr haf, ei ddail lledr mawr, trwchus. Planhigyn brodorol tebyg (ond llawer llai) yw pidyn y gog neu Arum maculatum. Dyma ganllaw adnabod defnyddiol:
ID_Lysichiton_americanus_American-Skunk_Cabbage.pdf
Mae'r planhigyn yn ymledu drwy gyfrwng rhisomau (coesynnau gwreiddiau ymlusgol) ac mae'r hadau hirhoedlog yn cael eu gwasgaru'n hawdd gan ddŵr. Heb ysglyfaethwyr naturiol yn y Deyrnas Unedig, gall ddominyddu cynefinoedd gwlyptir yn gyflym, gan drechu planhigion brodorol a lleihau bioamrywiaeth. Yn y gaeaf, mae'r planhigyn yn marw'n ôl yn gyfan gwbl, gan adael darnau mawr o bridd noeth ar ôl, sy'n fwy agored i erydiad a cholli pridd.
Fis Hydref eleni, fe wnaethom gyflogi contractwyr i fynd i'r afael â phidyn-y-gog Americanaidd a ddarganfuwyd ar afon Hirnant, un o lednentydd afon Gwy. Mae yna wahanol ddulliau o'i reoli, gan gynnwys triniaeth chwynladdwr, ond roeddem yn gallu tynnu'r planhigion â llaw – eu cloddio'n gyfan gwbl – a thrwy hynny osgoi'r defnydd o gemegau. Wedi hynny, gwnaethom yn siŵr ein bod yn glanhau ein hesgidiau'n ofalus, oherwydd gall hadau gael eu dal yn y gwadnau a lledaenu'n anfwriadol i leoliadau eraill.
Rydyn ni’n bwriadu dychwelyd i afon Hirnant yr haf nesaf i barhau â’n hymdrechion a byddwn yn ehangu ein rheolaeth o bidyn-y-gog Americanaidd ar draws safleoedd eraill yn nalgylch afon Gwy uchaf. Diolch yn fawr iawn i’r tirfeddianwyr am gefnogi’r gwaith pwysig hwn.
Os byddwch yn ei weld yn y gwyllt, rhowch wybod i ni. Gallwch hefyd roi gwybod am eich gweld trwy ddau ap – iRecord (https://irecord.org.uk) a INNS Mapper (https://innsmapper.org) – sy’n cysylltu â chronfa ddata genedlaethol y gallwn ei chyrchu.
 Lluniau: Safle pidyn-y-gog Americanaidd cyn ac ar ôl ei reoli
|
|
|
Mae gwangod a herlod yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau fel oedolion mewn dyfroedd arfordirol, ond yn teithio i fyny afonydd i silio ddiwedd y gwanwyn. Mae afon Gwy yn un o’r ychydig afonydd yn unig sy’n cynnal gwangod a herlod yn y Deyrnas Unedig, a than yn ddiweddar, ychydig iawn oedd yn hysbys am eu hymddygiad a’u patrymau mudo.
 Lluniau: Arolygu am wyau gwangod a herlod
Yn ystod y gwanwyn, fe wnaethom gynnal arolygon wyau yn afon Gwy uchaf ac afon Ieithon isaf i ymchwilio i weithgarwch silio gwangod a herlod. Yn gyffredinol, credir nad yw’r pysgod hyn yn mudo llawer uwch na Llanfair-ym-Muallt yn nalgylch afon Gwy, felly byddai arolygu i fyny’r afon o Lanfair-ym-Muallt yn helpu i gadarnhau hynny a llywio ein gwaith yn y dyfodol yn y dalgylch uchaf.
Ym mhont Brynwern ar afon Gwy, ychydig i fyny'r afon o’r gydlifiad ag afon Ieithon ger y Bontnewydd-ar-Wy, daethom o hyd i nifer fawr o wyau gwangod a herlod a oedd yn arwydd o weithgarwch mudo a silio sylweddol. Fodd bynnag, dim ond un wy a ganfuwyd yn ystod ein dau arolwg safle ar ran isaf afon Ieithon, sef ein cofnod swyddogol cyntaf o silio gwangod/herlod ar yr is-afon hon.
Fel yr adroddwyd yn ein cylchlythyr diwethaf, fe wnaethom hefyd ddefnyddio derbynnydd acwstig yn rhan isaf afon Ieithon dros y cyfnod mudo. Mae'r derbynyddion hyn yn canfod gwangod a herlod llawndwf sydd wedi'u tagio â radio. Ni chanfu'r derbynnydd unrhyw wangod neu herlod yn afon Ieithon eleni. Diolch i Brifysgol Abertawe am eu cydweithrediad ar y gwaith pwysig hwn.
Mae ein harolygon yn awgrymu ei bod yn well gan wangod a herlod silio ym mhrif sianel afon Gwy yn hytrach na mudo i fyny afon Ieithon. Gobeithiwn y bydd arolygon yn y dyfodol yn gwella ein dealltwriaeth o sut mae'r rhywogaethau hyn yn defnyddio dalgylch afon Gwy uchaf.
Mae afon Ieithon yn un o’n llednentydd â blaenoriaeth lle rydym yn gobeithio gweithio gyda llawer o ffermwyr i gyflawni gwelliannau ymarferol megis clustogau glan yr afon, plannu coed, a darnau mawr o bren yn yr afon. Bydd y rhain yn cynyddu cysgod a chynefin ar hyd yr afon, ac yn dod â gwelliannau i ansawdd dŵr, a fydd ond o fudd i'n pysgod mudol.
 Llun: Casglu'r derbynnydd acwstig
|
|
|
Ym mis Hydref, fe wnaethom gynnal ein digwyddiad rhanddeiliaid cyntaf yn Llandrindod, gan ddenu dros 50 o gyfranogwyr o ystod amrywiol o sefydliadau a chymunedau. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwerthfawr i siarad â’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn nalgylch uchaf afon Gwy, rhannu cynnydd, a thrafod cydweithio yn y dyfodol.
Dechreuodd y diwrnod gyda Tristan Hatton-Ellis o Dîm Adfer Afonydd Cyfoeth Naturiol Cymru, a roddodd drosolwg o ddaeareg a hydroleg rhan uchaf afon Gwy, gan amlygu’r gwahaniaethau rhwng y rhannau yng Nghymru a Lloegr. Yna rhannodd mewnwelediadau o fonitro parhaus, gan gwmpasu tueddiadau mewn poblogaethau eogiaid, lefelau ffosfforws, ac infertebratau. Yn dilyn hyn, cyflwynodd tîm afon Gwy uchaf ein camau gweithredu arfaethedig mewn ymateb i'r canfyddiadau hyn.
 Lluniau: Sesiynau cyflwyno a gweithdy
Yn y sesiwn arddangos, clywsom gan dri sefydliad arall sy’n gweithio yn y dalgylch uchaf – Sian Mercer o Sefydliad Gwy ac Wysg, Sarenta King o Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed, a Geraint Watkins o Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw. Roedd eu cyfraniadau yn pwysleisio ehangder yr ymdrech sydd ar y gweill i adfer y dalgylch. Os hoffech gopïau o’r cyflwyniadau, cysylltwch â ni.
Dilynwyd hyn gan weithdy bywiog, a’n galluogodd i archwilio’r cwestiwn o sut y gallem i gyd weithio’n well gyda’n gilydd i sicrhau etifeddiaeth o adfer afonydd y tu hwnt i oes ein prosiect. Amlygodd y trafodaethau bwysigrwydd ymgysylltu a gweithredu lleol, gyda chydweithrediad yn cael ei ystyried yn hanfodol i sicrhau llwyddiant. Cydnabuwyd hefyd y bydd cydweithio i ddylanwadu ar lunwyr polisi ac eiriolaeth ar lefel polisi yn hanfodol i sicrhau newid parhaol. Darparodd y trafodaethau hyn syniadau gwerthfawr i'r tîm er mwyn helpu i arwain y prosiect.
Gan wneud y gorau o'r tywydd braf, fe wnaethom wedyn fentro allan i lannau afon Ieithon, un o brif lednentydd afon Gwy. Yno, buom yn archwilio enghreifftiau o’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer gwella’r afon a’r tir o’i hamgylch. Darparodd Emma Rothero o’r Bartneriaeth Dolydd Gorlifdir grynodeb llawn gwybodaeth am arwyddocâd dolydd gorlifdir, gan amlygu eu prinder, eu rôl fel storfeydd carbon, a’r ymdrechion parhaus i adfer yr ecosystemau hanfodol hyn, sef amcan a rennir gan Brosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf a mentrau eraill yn y dalgylch.
Gyda’r mewnwelediadau a’r camau gweithredu o’r diwrnod hwn, rydym wedi ymrwymo’n fwy nag erioed i gyflawni Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl.
 Llun: Un o'r sesiynau grŵp ymweliad safle a arweiniwyd gan Emma Rothero o'r Bartneriaeth Dolydd Gorlifdir
|
|
|
|
|