Rydym wedi bod wrth ein bodd yn gweld llawer o'ch lluniau a fideos o'r llwybr trwy gydol y flwyddyn, diolch am rannu eich anturiaethau gyda ni! Wrth i 2024 ddirwyn i ben, arhoswch am eiliad i edrych a gwrando ar drac sain arfordir Cymru: cân yr adar, llepian rhythmig y tonnau, crensian y tywod o dan eich traed a blas yr heli ar yr awel.
Er ei bod yn demtasiwn aros adref yn glyd pan fydd hi’n dywydd oer ac yn llwm y tu allan, gadewch i ni wneud yn fawr o haul y gaeaf. Bydd ein syniadau ar gyfer teithiau cerdded byr a diddorol yn eich bywiogi ac yn ddelfrydol ar gyfer dal i fyny gyda ffrindiau ac anwyliaid yn ystod cyfnod yr ŵyl hefyd.
Bydd ein syniadau ar gyfer teithiau cerdded byr a diddorol yn eich bywiogi ac yn ddelfrydol ar gyfer dal i fyny gyda ffrindiau ac anwyliaid yn ystod cyfnod yr ŵyl hefyd!
Nadolig Llawen bawb a Blwyddyn Newydd Dda - welwn ni chi yn 2025! 🎄
Rydyn ni eisiau gweld eich lluniau gaeafol! Helpwch ni i fonitro arfordir Cymru trwy gydol y tymhorau.
Efallai eich bod wedi gweld y crudau metel hyn a'r arwyddion CoastSnap ar y llwybr ar eich teithiau. Rhowch eich ffôn yn y crud metel a thynnwch lun o'r olygfa o'ch blaen a'i uwchlwytho i'n ffrindiau yng Nghanolfan Monitro Arfordirol Cymru.
Byddant yn prosesu'r holl luniau fyddant yn eu derbyn er mwyn monitro unrhyw newidiadau yn yr amgylchedd arfordirol - mae tua 4,000 o ddelweddau wedi'u cyflwyno hyd yn hyn! Ceir ychydig dros 30 o safleoedd CoastSnap a bydd mwy yn cael eu hychwanegu'r flwyddyn nesaf.
|
Goleudy Ynys Lawd, Ynys Môn
Peidiwch â gadael i'r tywydd oer a'r dyddiau byr eich digalonni. Gwnewch yn fawr o'r golau dydd drwy ddilyn ein syniadau.
Teithiau cerdded hygyrch - mae rhai rhannau o'r llwybr yn addas ar gyfer pobl â phroblemau symudedd a chadeiriau gwthio. Edrychwch ar ein Teithiau Cerdded Hygyrch.
Safleoedd hanesyddol - bydd pobl sy'n caru cestyll ac adeiladau hanesyddol eraill yn mwynhau teithiau cerdded Cadw, sy'n berffaith ar gyfer cyfuno taith gerdded hamddenol ar hyd y llwybr ac ymweliad â safle Cadw. Dewiswch o blith 20 o safleoedd diddorol a dysgwch am arfordir hanesyddol Cymru ar y daith.
Teithiau Cerdded i Deuluoedd - Anadlwch ychydig o awyr iach arfordirol ar y teithiau cerdded byr hyn - delfrydol ar gyfer coesau bach gyda chyfleoedd i stopio ac edrych ar bopeth! Edrychwch ar ein teithiau cerdded i deuluoedd
Mannau Treftadaeth Sanctaidd - Yn ystod tymor y Nadolig, beth am roi cynnig ar ein teithiau cerdded sy’n cysylltu â rhai o’r capeli a’r eglwysi mwyaf diddorol ar y llwybr. Edrych ar ein teithiau cerrded Mannau Treftadaeth Cysgredig
Teithiau cerdded cylchol - Mae gan y rhan fwyaf o'r rhain opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus neu dim ond un car sydd ei angen yn lle dau ar bob pen i’r daith gerdded. Edrychwch ar ein Teithiau Cerdded Cylchol
CADWCH LYGAD YN AGORED AM Y CANLYNOL: Tocynnau mynediad dau-am-bris-un i rai o safleoedd Cadw pan fyddwch yn dangos tocyn trên dilys yr un diwrnod. Mwy o wybodaeth am y Cynnig 2-am-bris-1 i Dirnodau Hanesyddol - mae'r cynnig hwn yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2024.
Yn ein cylchlythyr diwethaf roeddem yn falch o gyhoeddi ein bod yn rhan o Gynllun Llysgenhadon Cymru - cyfres o gyrsiau ar-lein rhad ac am ddim i ddarganfod nodweddion arbennig Cymru.
Ewch drwy’r modiwlau sy’n hawdd eu darllen a gwnewch y cwis i ddod yn Llysgennad Cymru. Rydym yn gwarantu y byddwch yn darganfod ffeithiau a gwybodaeth hwyliog am Lwybr Arfordir Cymru a'r Llwybrau Cenedlaethol (Llwybr Glyndŵr a Llwybr Clawdd Offa) mewn gwahanol ardaloedd o Gymru.
Mae’r cynllun, sy’n agored i bawb, yn ddelfrydol i fusnesau er mwyn gallu rhannu’r wybodaeth â’u cwsmeriaid neu i’r unigolyn chwilfrydig sydd eisiau dysgu mwy am ei ardal leol.
Rydyn ni bob amser yn meddwl mai’r haf yw’r adeg orau i grwydro llwybr yr arfordir ond mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi argyhoeddi i’r gwrthwyneb!
Mae eu blog ardderchog yn rhoi sylw i ryfeddodau bywyd gwyllt ar hyd y tymhorau ar hyd y llwy. Chwiliwch am fysedd y meirw (er gwaetha’r enw erchyll, math o gwrel yw’r rhain!), llawer o adar y dŵr ac adar hirgoes mewn aberoedd a gwastadeddau llaid ar eich teithiau cerdded gaeafol.
Llun: Dead Man's Fingers (Lowri Roberts)
|
|
|
Taith Llwybr Arfordir Cymru Sarah Williams - Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau ar eich taith ar y llwybr - dyma rywfaint o ysbrydoliaeth i chi. Ffilmiodd Sarah, sylfaenydd Tough Girl Challenges, ei thaith ar Lwybr Arfordir Cymru yn 2022, gan ddangos yr uchafbwyntiau a’r adegau anodd a’r hyn a fwynhaodd hi fwyaf ar y llwybr. Gwyliwch daith Sarah (agor yn YouTube)
|
Click to edit this placeholder text.
Archebwch gadair olwyn traeth - Mae cadeiriau olwyn traeth a'r holl offer ar gyfer y tir yn helpu i wella mynediad i rai o draethau gorau Sir Benfro. Gallwch eu llogi am ddim mewn lleoliadau amrywiol yn y parc cenedlaethol. Dysgwch fwy am y cynllun yma
|
We welcome any feedback on these newsletters, good or bad. Tell us where we can improve them for you!
Os felly, mae gennym gylchlythyr busnes gyda gwybodaeth ddefnyddiol ar sut y gallwch chi wneud y mwyaf o'r llwybr ar gyfer eich busnes. Byddwch yn derbyn gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i'ch helpu chi a'ch cwsmeriaid.
Cliciwch Tanysgrifio isod ac atebwch ‘Ydw’ i'r cwestiwn "Ydych chi'n berchennog busnes?" i dderbyn ein diweddariadau busnes.
|
|
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
|
|
Gyda bron 9,000 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|