|
Rydym yn cydnabod yn llawn y pryderon sylweddol o fewn y gymuned leol ynghylch safle tirlenwi Hafod. Nid ydym yn diystyru’r effaith y mae adroddiadau parhaus o arogleuon o’r safle yn ei chael ar drigolion, ac rydym yn cymryd y mater hwn o ddifrif.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein swyddogion wedi gweithio’n agos gyda gweithredwr y safle i leihau effaith y safle tirlenwi. Byddwn yn parhau i hysbysu’r gymuned wrth i’n gweithgareddau rheoleiddio fynd rhagddynt.
|
|
Ar 21 Rhagfyr 2023, cyflwynasom hysbysiad gorfodi i weithredwyr safle tirlenwi Hafod yn Johnstown, Wrecsam. Roedd yr hysbysiad hwn yn cynnwys sawl cam yr oedd angen eu cymryd i fynd i’r afael â’r cwynion am arogleuon a adroddwyd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023.
Roedd ein swyddogion eisoes wedi nodi rhannau o safle tirlenwi Hafod oedd yn achosi’r arogleuon. Daeth y canfyddiadau hyn o ymchwiliadau pan ymwelodd ein swyddogion â’r safle a chynnal sawl asesiad arogl oddi ar y safle ar wahanol adegau o’r dydd.
Ers hynny, mae gweithredwr y safle wedi cydymffurfio â’r holl gamau a amlinellwyd yn yr hysbysiad gorfodi ac wedi cwblhau sawl cam gweithredu, gan gynnwys capio celloedd dros dro a gosod ffynhonnau pin i leihau’r potensial ar gyfer allyriadau nwy ac arogleuon. Mae’r gweithredwr hefyd yn cynllunio ac yn gwneud gwaith ychwanegol i wella’r defnydd o nwy tirlenwi a lleihau’r siawns o arogleuon ymhellach.
Mae ein swyddogion yn parhau i sicrhau bod gweithredwr y safle yn bodloni gofynion ei drwydded amgylcheddol. Rydym hefyd yn adolygu gweithdrefnau rheoli’r gweithredwr, ac ym mis Medi 2024 rhoddodd gynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru i ni.
Mae ein swyddogion hefyd yn parhau i gwblhau gwaith monitro oddi ar y safle mewn ymateb i adroddiadau am ddigwyddiadau a chwynion gan y gymuned leol.
|
|
|
Ym mis Medi a mis Hydref, cawsom sawl adroddiad o arogleuon yn Johnstown. Mewn ymateb, ymchwiliodd ein swyddogion i’r safle a’r ardal gyfagos.
Yn ddiweddar, cwblhaodd y gweithredwr gyfres o welliannau seilwaith ar y safle (gweler y diweddariad gan weithredwr y safle isod). Yn ystod y gwaith wedi’i drefnu hwn, canfu swyddogion rywfaint o nwy tirlenwi lleol ac arogleuon gwastraff. Fodd bynnag, nid oedd yr arogleuon hyn yn barhaus ac ni ellid eu canfod ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau.
Roedd y gwaith yn cynnwys codi uchder y siambrau trwytholch (23/09/24 – 27/09/24) a gosod pibellau casglu nwy tirlenwi newydd (08/10/24 – 05/11/24). Mae’r gwelliannau hyn yn rhan o ddatblygiad parhaus y safle ac maent yn angenrheidiol i sicrhau bod nwy tirlenwi yn parhau i gael ei gasglu a’i ddefnyddio yn y peiriannau nwy tirlenwi.
Rydym yn parhau i gynnal archwiliadau safle rheolaidd ac asesiadau arogl oddi ar y safle i sicrhau bod y gweithredwr yn cydymffurfio â’r drwydded amgylcheddol.
|
|
|
Gallwn eich sicrhau bod Enovert yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod y mesurau gorau posibl a mwyaf priodol yn cael eu defnyddio i atal arogleuon oddi ar y safle. Rydym yn gweithio’n agos gydag CNC ar y camau yr ydym yn eu cymryd.
Wrth symud ymlaen, byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd i’r gymuned leol ar ddatblygiadau a chynnydd ar y safle, gyda diweddariad rheolaidd yn cael ei ddarparu trwy Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hyn i ategu’r wybodaeth a ddarparwyd eisoes yn y cyfarfodydd cyswllt cymunedol, a gynhelir bob chwarter.
Fel rhan o’r broses hon, mae Enover yn adrodd bod y camau gweithredu canlynol wedi’u cymryd yn ystod mis Medi a mis Hydref fel rhan o waith safle a drefnwyd:
- Estynnwyd leinin plastig LLDPE dros dro pellach ar draws rhan isaf ochr orllewinol Cell 5b ddechrau mis Medi 2024. Gosodwyd y 3,000 m2 ychwanegol hwn o gapio i selio’r ochr fewnol hon cyn datblygu Cell 5c y flwyddyn nesaf.
- Mae un o’r prif bibellau casglu nwy 180 mm wedi’i symud i ben Cell 5b wrth i’r tipio barhau yn y gell hon. Mae’r holl seilwaith nwy yn y gell hon wedi’i ailgysylltu â’r brif linell hon, sydd bellach yn eistedd ar y cap parhaol ar Gell 5a, er mwyn sicrhau bod echdynnu gweithredol yn parhau ar draws y gell hon.
- Mae pibell casglu nwy 250 mm newydd wedi’i gosod ar draws mainc o Gell 5a ac ar hyd wal ochr Cell 5b. Mae hyn i bob pwrpas yn ffurfio prif bibell gylch yn y cam hwn o’r safle tirlenwi, gan ganiatáu i nwy gael ei echdynnu i ddau gyfeiriad i leihau unrhyw golledion gwactod ar draws y system gyfan.
- Mae siambrau trwytholch concrit wedi’u codi yng nghelloedd 3 a 4. Wrth i uchder y gwastraff gynyddu, gyda mewnlenwi arferol y safle, mae angen inni godi’r siambrau echdynnu trwytholch yn gyfatebol. Tra ein bod yn gweithio ar y rhain, rydym yn defnyddio mesurau rheoli ychwanegol yn unol â’n cynllun rheoli arogleuon, ond gall rhai arogleuon lleol fod yn bresennol wrth i ffynhonnau gael eu datgysylltu o’r system nwy. Gallwn eich sicrhau bod y gwaith hwn yn angenrheidiol ac y bydd yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen fyrraf posibl.
- Ailadeiladu peiriant o fewn y gwaith defnyddio nwy: mae peiriant newydd wedi’i brynu i gymryd lle’r peiriant blaenorol, a oedd fod i gael ei ailadeiladu’n sylweddol yn seiliedig ar oriau gwasanaeth. Disgwylir i’r peiriant newydd hwn gael ei gomisiynu o fewn yr ychydig wythnosau nesaf. Yn ystod y gwaith hwn, mae echdynnu nwy wedi parhau i gael ei reoli trwy’r ail beiriant ar y safle a’r pentwr fflêr tymheredd uchel, sydd wedi’i osod yn benodol i sicrhau echdynnu parhaus a chyson ar y maes nwy yn ystod cyfnodau cynnal a chadw.
- Rydym wedi treialu’r defnydd o laser monitro methan arbenigol (CH4) i asesu unrhyw allyriadau o ffynonellau pwynt yn yr ardaloedd tirlenwi gweithredol a’r ardaloedd wedi’u capio. Gellir defnyddio’r canlyniadau wedyn i arwain y gwaith o osod rhagor o offer casglu nwy neu gapio dros dro. Nod y treial yw cymharu effeithiolrwydd y laser yn erbyn yr offer arferol a ddefnyddir ar gyfer y math hwn o arolwg a phenderfynu a all y canlyniadau wella’r broses o ddal nwy.
Bydd gwaith pellach a drefnwyd dros yr ychydig fisoedd nesaf yn cynnwys:
- Gosod nifer o ffynhonnau pin aberthol ar ardal weithredol Cell 5b.
- Gosod maniffold nwy newydd i baratoi ar gyfer seilwaith echdynnu nwy ychwanegol ar Gell 5b.
- Nodi lleoliad ffynhonnau nwy dwfn newydd yng Nghell 5b, unwaith y bydd lefelau gwastraff yn cyrraedd yr uchder terfynol.
|
|
|
Rydym newydd lansio dudalen we newydd gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ar sut rydym yn rheoleiddio Safle Tirlenwi Hafod, Wrecsam.
|
|
Er mwyn adrodd problemau o Safle Tirlenwi Hafod, Wrecsam, cysylltwch â ni drwy ffonio 0300 065 3000 neu adroddwch ar-lein.
|
|
|
|
|