Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod gweithredwr Safle Tirlenwi Withyhedge, sef RML, yn cymryd pob cam angenrheidiol yn y dyfodol i leihau'r risg o allyriadau o'r safle a allai arwain at arogl oddi ar y safle.
Mae CNC wedi derbyn dogfennaeth ddrafft gan RML yn amlinellu gwelliannau arfaethedig i'w gweithdrefnau derbyn gwastraff. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei hadolygu gan ein timau rheoleiddio diwydiant, er mwyn sicrhau bod gweithgareddau gwaredu gwastraff yn ailgychwyn mewn ffordd sy’n lleihau'r risg o ragor o broblemau oherwydd aroglau.
Wythnos nesa, cyfarfu CNC ag RML i drafod y gweithdrefnau diwygiedig arfaethedig mewn egwyddor. Bydd sylwadau ar fanylion y ddogfen ddrafft yn cael eu rhannu gydag RML maes o law.
Mae CNC yn cydnabod y gallai ailddechrau derbyn gwastraff achosi pryder i gymunedau yr effeithiwyd arnynt yn flaenorol. Pan fydd gweithrediadau derbyn gwastraff yn ailddechrau, bydd gan CNC bresenoldeb sylweddol ar y safle, a bydd yn monitro arogleuon oddi ar y safle yn rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth â'r gweithdrefnau diwygiedig a'r drwydded tirlenwi.
Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan bob partner o'r Tîm Rheoli Digwyddiadau (IMT) - Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - gyda monitro ansawdd aer ac asesiadau risg iechyd cyhoeddus.
Bydd yr IMT yn ymdrechu i ddarparu gwybodaeth i gymunedau yr effeithir arnynt yn y cyfnod cyn ailagor safleoedd tirlenwi ar gyfer derbyn gwastraff, neu yng nghamau cynnar iawn y newid hwn i weithrediadau'r safle.
|