|
Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r haf ac wedi cael cyfle i fwynhau llwybr yr arfordir rhwng y glaw a’r heulwen. Bydd y misoedd oerach a’r dyddiau byrrach yma cyn inni droi, ond rydyn ni wrth ein bodd yn gweld y llwybr yn newid gyda’r tymhorau. Ewch i nôl eich dillad cynnes a ffwrdd â ni!
 Wel, bron ... bydd ar gael yn ddiweddarach eleni.
Cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim yw’r rhain sy’n agored i bawb er mwyn dysgu mwy am rinweddau arbennig Cymru. Mae gennym ni fodiwl pwrpasol yn gyfan gwbl am y llwybr a’r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru (Llwybr Clawdd Offa, Llwybr Glyndŵr a Llwybr Arfordir Sir Benfro – sydd hefyd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru).
Dysgwch fwy am y cynnig teithiau cerdded yn eich ardal leol a chanfod llawer o ffeithiau diddorol am y llwybrau cerdded arbennig hyn. Cadwch lygad yn agored am ein modiwl a fydd yn ymddangos yn fuan ar wefan Cynllun Llysgennad Cymru.
 Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fyddwch yn gweld morloi a'u lloi bach ar y traethau. Mae'n bwysig iawn caniatáu lle iddyn nhw fondio a chael llonydd i fyw heb ddim yn amharu arnynt. Os gwelwch chi nhw wrth gerdded ar y llwybr, mwynhewch nhw o bell cyn parhau â’ch taith.
 people walking on a beach with the tide in (Traeth Llanddwyn, Ynys Mon)
Mae'r llwybr yr un mor ddramatig a phleserus yn ystod yr hydref a'r gaeaf. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol ar gyfer cerdded y llwybr trwy gydol y flwyddyn.
-
Cadwch olwg ar y llanw - gwiriwch amseroedd y llanw i osgoi mynd yn sownd ar draeth.
-
Tir serth anwastad - gall rhannau o'r llwybr fod yn serth ac yn anwastad. Gofalwch eich bod yn teimlo’n gyfforddus â’r llwybr a bod gennych chi a'ch cymdeithion y sgiliau, yr wybodaeth, y ffitrwydd a'r gallu angenrheidiol.
-
Llwybrau byr ar draws ardal eang o dywod - mae yna reswm pam y mae’r llwybr yn mynd ar hyd pentir yn hytrach nag ar draws traeth. Mae'n debygol y bydd arweinlyfrau neu arwyddion ar y safle yn egluro pam wrthych. Os yw llwybr byr yn opsiwn ar adegau penodol o'r llanw, gwiriwch amseroedd y llanw a’u deall er mwyn sicrhau bod gennych ddigon o amser i fynd ar ei hyd.
-
Sicrhewch fod gennych y cyfarpar cywir ac yfwch ddigon - gwisgwch haenau o ddillad i gadw'n gynnes neu i oeri. Gofalwch eich bod yn cymryd diod i dorri syched, i oeri neu gynhesu, yn dibynnu ar y tywydd. Rydyn ni wrth ein bodd yn mynd â mwg teithio i fwynhau paned boeth ar ein teithiau cerdded yn y gaeaf.
Mae'r llwybr yn 870 milltir o hyd ac yn cwmpasu holl arfordir Cymru - mae hi’n dipyn o her gwybod ble i ddechrau.
 People walking on a coastal path and cliffs and a tidal island in the background (Rhossili, Y Gŵyr)
-
Map rhyngweithiol - Dewch o hyd i ble mae'r llwybr yn mynd, plotiwch eich llwybr neu yn syml dewch o hyd i’r darn o’r llwybr sydd agosaf atoch chi. Gallwch hefyd ddefnyddio Google Street View i weld sut olwg sydd ar y llwybr o gyfforddusrwydd eich cartref - delfrydol ar gyfer cynllunio ble i gerdded a beth i'w ddisgwyl ar y llwybr.
-
Tablau pellter - Gwiriwch y pellter rhwng y prif drefi arfordirol a chanolfannau i gynllunio'ch mannau aros ac unrhyw arosiadau dros nos ar hyd y ffordd.
-
Lawrlwythwch yr ap - traciwch eich cynnydd a chadwch ar y llwybr gydag ap swyddogol Llwybr Arfordir Cymru, sydd ar gael ar gyfer iOS ac Android.
-
Llety - er na allwn argymell rhestr o ddarparwyr llety, ceir gwybodaeth ddefnyddiol er mwyn dod o hyd i leoedd i aros ar hyd y llwybr.
-
Trafnidiaeth Gyhoeddus - Cynlluniwch eich taith gyda bysiau a threnau ar wefan Traveline Cymru. (AWGRYM: Ewch i "Travel Map" i weld pob arhosfan bysiau sydd ar hyd llwybr a gallwch hefyd eu gweld yn Google Street view).
-
Ymunwch â'n Cymuned Facebook - Gyda dros 8,500 o aelodau, mae llawer o syniadau i’ch ysbrydoli wrth gerdded ac anogaeth gan gyd-gerddwyr. Dyma’r lle delfrydol i holi am lefydd i aros, i fwyta a ble i gychwyn ar eich taith Llwybr Arfordir Cymru neu i wneud awgrymiadau . Ymunwch â’n cymuned
 view of a coastline from a high vantage point and a headland into a very blue sea (Porth y Nant, Nant Gwrtheyrn)
Dyma ein crynodeb o ble y gallwch gerdded yn ystod yr hydref a'r gaeaf eleni.
-
Teithiau cerdded Cadw - Mae eu digwyddiad Drysau Agored - Cadw blynyddol yn croesawu pawb i fwy na 200 o safleoedd hanesyddol, tirnodau a pherlau cudd Cymru a hynny am ddim ym mis Medi. Os ydych chi'n ymddiddori mewn adeiladau hanesyddol edrychwch ar ein teithiau cerdded Cadw, i gyfuno taith gerdded ar y llwybr ag ymweliad â safle Cadw.
-
Teithiau cerdded hygyrch - gall rhannau o’r llwybr fod yn fwdlyd a gwlyb yn yr hydref a'r gaeaf. Rhowch gynnig ar ein hadrannau hygyrch sydd hefyd yn addas ar gyfer pramiau a chadeiriau olwyn.
-
Teithiau Cerdded Cylchol - archwiliwch rywfaint o'r llwybr a darganfod lleoedd newydd gyda'n teithiau cerdded cylchol. Gyda disgrifiad llawn o’r llwybr, gallwch hefyd lawrlwytho ffeil GPX i ddilyn y llwybr ar eich dyfais a gwirio’r llwybr ar wefan yr Arolwg Ordnans (OS) – bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif OS am ddim (peidiwch â phoeni , mae'n gyflym ac yn hawdd!).
Mae problemau amgylcheddol fel llygredd plastig morol, erydiad arfordirol a llanwau cynyddol a achosir gan newid hinsawdd yn effeithio ar y llwybr.
Nod Beach of Dreams yw archwilio rôl unigryw celf a gwyddor amgylcheddol o ran newid hinsawdd. Nod ei raglen greadigol yw cysylltu miloedd o bobl â'u harfordiroedd a meithrin ymdeimlad o gymuned a stiwardiaeth. Un agwedd drawiadol yw cynhyrchu baneri sidan, y bydd cerddwyr yn eu cario o amgylch yr arfordir ac ymgynnull mewn lleoliadau penodol fel ym Mae Colwyn, Gogledd Cymru.
Mae'r prosiect yn chwilio am unrhyw un i gyfrannu at y prosiect fel cynnal digwyddiad rhyngweithiol e.e. archwilio pyllau glan môr neu wylio adar ar hyd yr arfordir.
Oes gennych chi ddiddordeb? E-bostiwch Mandy Marsh i gael rhagor o fanylion ar mandymarsh@CIEEM.Net
(Llun:Baneri sidan)
|
Os felly, mae gennym gylchlythyr busnes gyda gwybodaeth ddefnyddiol ar sut y gallwch chi wneud y mwyaf o'r llwybr ar gyfer eich busnes. Byddwch yn derbyn gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i'ch helpu chi a'ch cwsmeriaid.
Cliciwch Tanysgrifio isod ac atebwch ‘Ydw’ i'r cwestiwn "Ydych chi'n berchennog busnes?" i dderbyn ein diweddariadau busnes.
|
 |
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
 |
|
Gyda bron 8,500 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|