|
Mae wedi bod yn ddechrau prysur i'r flwyddyn ac mae gennym raglen fawr o waith ar gyfer yr hydref, sy'n argoeli i fod yn eithriadol o brysur.
Mae ardaloedd helaeth o'n safleoedd yn Sir Benfro wedi cael eu ffensio cyn iddynt gael eu pori unwaith eto...bydd ein cylchlythyr nesaf yn rhoi gwybodaeth am gyflawniadau anhygoel y prosiect yn ein safleoedd yn Sir Benfro. Rydym wedi cwblhau cyfres o grafiadau ar arwyneb y gors yn Rhos Goch…wedi croesawu grwpiau o wirfoddolwyr i nifer o'n safleoedd er mwyn ein helpu i barhau i waredu rhywogaethau goresgynnol…rydym wedi torri llystyfiant, gosod mesuryddion dŵr ffynnon a gwneud paratoadau ar gyfer cwlfert yn y Gogledd…ac roedd ein digwyddiad Gŵyl y Gors cyntaf yng Nghanolfan Ymwelwyr Crymlyn yn llwyddiant mawr!
Cymerwch gipolwg cyflym ar hanner cyntaf 2024 drwy wylio'r fideo isod sy'n crynhoi'r prosiect, a dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ( @ LIFE Quaking Bogs ) dros y misoedd nesaf gan y bydd gennym ddiweddariadau anhygoel i'w rhannu gan gynnwys gwybodaeth am ddechrau'r gwaith i glirio Camlas Glan y Wern yng Nghrymlyn ac ymweliad gan neb llai nag Iolo Williams!
Diweddariad Prosiect Corsydd Crynedig Ionawr - Ebrill '24 (youtube.com)
|
|
Ym mis Mai, bu contractwyr yn gweithio ar safle'r prosiect yn Rhos Goch i dynnu'r haen uchaf oddi ar rai rhannau o arwyneb y gors. Ar yr olwg gyntaf, gall crafu fod yn ffordd lawdrwm o ‘adfer’ cors, ond profwyd bod crafiadau yn ffordd effeithiol o waredu ardaloedd lle mae prysgwydd a llystyfiant goresgynnol wedi mynd yn drech. Mae'r ymyriad hwn yn rhoi cyfle i'r ardal a gaiff ei chrafu wella (a hynny'n gyflym!) ac yn gadael i'r mwsogl sy'n creu corsydd ddychwelyd â llai o gystadleuaeth gan blanhigion a glaswelltau eraill. Rydym wedi crafu un hectar o dir, sef maint un cae pêl-droed yn fras, ac rydym wedi ychwanegu ffens bron i gilomedr o hyd er mwyn atal anifeiliaid rhag mynd i'r ardal ddirlawn a adawyd yn sgil yr ymyriad.
Dyma fideo hyfryd sy'n dangos safle Rhos Goch cyn, yn ystod ac ar ôl y gwaith….byddwn yn cyhoeddi mwy o ddiweddariadau'n fuan i ddangos adferiad llawn y safle:
LIFEquake - Crafu arwyneb y gors yn Rhos Goch / Scraping the bog surface at Rhos Goch (youtube.com)
|
|
|
O hyn ymlaen, bydd pawb yn cofio 6 Mehefin 2024 fel diwrnod Gŵyl y Gors! Ymunodd tua 50 o aelodau'r gymuned, gweithwyr proffesiynol ym maes mawndiroedd, rhanddeiliaid, cefnogwyr a chyfeillion y prosiect â ni yng Nghanolfan Ymwelwyr Crymlyn am ddiwrnod llawn i rannu a dathlu'r tirweddau gwlyptir anhygoel hyn. Ar ôl fideo croeso gan Brif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, Clare Pillman, a'r naturiaethwr adnabyddus Iolo Williams, trafododd ein siaradwyr gwadd bynciau fel hydroleg leol, systemau camlas, ordnans sydd heb ffrwydro mewn mawn, anifeiliaid di-asgwrn-cefn, ymgysylltu â chymunedau…ac yng nghanol yr anerchiadau academaidd aeth y Cyfarwydd, Ceri John Williams, â ni ar daith yn ôl mewn amser i'r oesoedd hudol a mytholegol pan roedd y tirweddau hynafol hyn yn ifanc a phan roedd ein hanes yn cael ei lunio.
Yn dilyn llwyddiant eleni, bydd Gŵyl y Gors yn ddigwyddiad blynyddol, felly cadwch olwg ar ein cyfryngau cymdeithasol a'n cylchlythyrau yn y dyfodol i ganfod pryd bydd yr un nesaf yn digwydd a sut y gallwch fod yn bresennol neu gymryd rhan!
Dyma rai lluniau o uchafbwyntiau Gŵyl y Gors 2024:
|
|
|
Mae'r cynaeafwr gwlyptir anhygoel, Pistenbully, wedi bod yn gweithio'n brysur ar gors Crymlyn ar ddechrau'r flwyddyn hon…a'r cynllun yw dechrau cam torri llystyfiant sylweddol ym mis Medi ochr yn ochr ag ymdrech fawr i leihau'r prysgwydd sy'n tyfu ar y safle. Mae contractwr wedi cael ei benodi bellach i glirio'r llystyfiant sy'n rhwystro Camlas Glan y Wern. Gwnaethom dorri llystyfiant ar 5 hectar o arwyneb y gors, ac mae disgwyl i'r Pistenbully fod yn brysur yng Nghrymlyn drwy gydol yr hydref.
Dyma fideo byr sy'n dangos y peiriant ar waith gyda deunydd anhygoel o'r awyr i ddangos pa mor effeithiol y gall yr ymyriad hwn fod:
Cynnydd Cychwynnol LIFEquake yng Nghors Crymlyn / LIFEquake Wetland Harvester at Crymlyn Bog. (youtube.com)
|
|
|
Roedd prosiect Corsydd Crynedig LIFE a phrosiectau LIFE eraill a gynhelir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn falch o groesawu grŵp mawr o gydweithwyr LIFE o brosiectau amrywiol yn Sweden a ddaeth ar ymweliad ddiwedd mis Mai. Cafodd tua 35 o aelodau o amrywiaeth o brosiectau sy'n rhan o ‘GRIP on LIFE’ eu croesawu i Ganolfan Ymwelwyr Crymlyn ar y diwrnod cyntaf a Chors Caron ar yr ail ddiwrnod. Dros y ddau ddiwrnod cafodd dirprwyon a chynrychiolwyr o bob prosiect a oedd yn bresennol gyfle i roi cyflwyniadau a rhannu profiadau, gwersi i'w dysgu ac arferion gorau. Cafwyd teithiau tywys o amgylch y safleoedd mawndir ac ymweliadau ychwanegol gan ein cyd-brosiectau adfer afonydd. Mae wir yn hyfryd bod yn rhan o deulu byd-eang LIFE…sy'n cynnig ystod mor eang o brosiectau anhygoel sydd oll yn cydweithio i adfer, cynnal a dathlu tirweddau amrywiol, gwerthfawr.
Dyma rai lluniau o'r diwrnodau:
|
Un o amcanion allweddol Corsydd Crynedig LIFE yw lleihau a rheoli ardaloedd sylweddol o lystyfiant goresgynnol ar safleoedd ein prosiect. Un o'r rhywogaethau estron goresgynnol y mae angen rhoi sylw mawr iddo yw planhigyn Jac y Neidiwr, sy'n broblem benodol yn ein gwarchodfa yng Nghrymlyn. Rydym yn defnyddio nifer o dechnegau gwahanol i dynnu a rheoli'r planhigion ffromlys ar y safle ond efallai mai'r dull mwyaf cyfranogol yw defnyddio grwpiau o wirfoddolwyr i ddod â thynnu'r planhigion o'r ddaear. Mae hyn yn arbennig o effeithiol yn y rhannau hynny o'r warchodfa sy'n anos eu cyrraedd lle byddai defnyddio strimiwr yn achosi difrod diangen i blanhigion eraill.
Dros yr haf gwnaethom groesawu nifer mawr o wirfoddolwyr o'r gymuned leol a chynnal llawer o sesiynau ‘Lladd y Ffromlys’ gyda chydweithwyr o dimau eraill Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rhaid cyfeirio'n benodol at Dan, swyddog prosiect Cronfeydd Crynedig LIFE, a wnaeth drefnu ac arwain gweithgarwch i wirfoddolwyr fel rhan o bartneriaeth newydd rydym wedi'i sefydlu â Chymdeithas Eryri. Roedd yn bleser cael eu cwmni ar Gors Gyfelog ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gynnal mwy o ddiwrnodau i wirfoddolwyr gyda nhw yn y dyfodol.
Dyma rai lluniau o'r diwrnodau:
placeholder text.
|
Rydym wir wedi mwynhau'r cyfoeth o blanhigion ac anifeiliaid ar safleoedd ein prosiect yr haf hwn. O fis Mehefin ymlaen, mae'r planhigion wedi blodeuo'n llawn, gan ddenu pryfed peillio a'r amrywiaeth o adar sy'n darparu'r trac sain perffaith i'r cynefin anhygoel hwn.
Dyma ddau fideo byr sy'n dangos Plu'r Gweunydd ar ein safleoedd yn Sir Benfro a chân yr adar a recordiwyd yn y warchodfa yng Nghrymlyn:
Can yr adar yng Nghrymlyn: https://youtu.be/p1fkykOAfTQ
Cerdd Graswellt Cotwm: https://youtu.be/1D42GWbyWts
|
Ewch i'n tudalen am yr holl newyddion diweddaraf am y prosiect, neu dilynwch y ffrydiau cyfryngau cymdeithasol @LIFE Quaking Bogs
Website: Cyfoeth Naturiol Cymru / Corsydd Crynedig LIFE (naturalresources.wales)
Email: lifecorsyddcrynedig@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
|
|
|
|