 Llun: Ymweld â’r Irfon gydag Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw
Cyfarfod Sefydliadau a Phrosiectau Lleol
Mae'r tîm wedi bod yn ymweld â sefydliadau eraill sy'n gweithio yn ardal y prosiect i weld rhai enghreifftiau o'r gwaith cadarnhaol sy'n cael ei wneud.
Mae'r Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw yn gweithio gyda ffermwyr ar afon Irfon. Yn eu fferm arddangos, gwelsom enghreifftiau o leiniau clustogi a grëwyd drwy blannu coed a ffensio i atal llifogydd ar hyd yr afon, yn ogystal â chanlyniadau rheoli pori heb ffens ar gynefinoedd rhostir yr ucheldir.
Mae prosiect Addasu i Newid Hinsawdd Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed yn debyg i’n prosiect ein hunain mewn sawl ffordd, ac felly roedd yn wych ymweld â nhw ar y cyd a thrafod sut y gallwn ategu gwaith ein gilydd.
Rydym hefyd wedi bod yn cyfarfod â sefydliadau eraill sy'n gweithio yn y dalgylch, megis Sefydliad Gwy ac Wysg a'r Bartneriaeth Dolydd Gorlifdir, i sicrhau ein bod yn cyfoethogi ac yn ychwanegu gwerth at y gwaith y maent eisoes yn ei wneud.
Estyn allan i ffermwyr a thirfeddianwyr ar afonydd Ieithon, Irfon a Marteg
Mae ein hymweliadau fferm cychwynnol yn canolbwyntio ar afonydd Ieithon, Irfon a Marteg, llednentydd yr Afon Gwy. Rydym wedi dechrau cysylltu â thirfeddianwyr a ffermwyr sydd wedi’u lleoli ar yr afonydd hyn, i egluro mwy am ein prosiect ac i edrych ar gyfleoedd i gydweithio i wella iechyd yr afonydd.
Os ydych chi wedi eich lleoli ar y llednentydd hyn ac eisiau cymryd rhan, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost ar ddiwedd y cylchlythyr.
 Llun: Un o dîm yr arolwg ar Afon Gwy
Dros y gaeaf a’r gwanwyn, mae ein tîm o arbenigwyr geomorffoleg afonydd yn CNC wedi bod yn cynnal arolygon i gofnodi cyflwr ffisegol y cyrsiau dŵr mewn ardaloedd lle byddwn yn canolbwyntio ein gwaith yn gyntaf. Mae'r arolygon hyn yn rhan bwysig o'n gwaith monitro sylfaenol a byddant yn helpu i gyfeirio ein gwaith at y rhannau o'r dalgylch sydd fwyaf angen eu hadfer.
Mae'r tîm wedi cerdded milltiroedd lawer o afonydd Gwy, Ieithon a Marteg a llednentydd llai eraill, gan gasglu gwybodaeth. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i’n helpu i wneud penderfyniadau ynghylch ble i gymryd camau i wella cyflwr yr afonydd hyn.
Arolygu ar gyfer Gwangod
Mae gwangod yn bysgod mudol sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u bywydau fel oedolion mewn dyfroedd arfordirol. Maen nhw'n teithio i fyny afonydd i silio ddiwedd y gwanwyn.
Mae Afon Gwy yn un o ychydig o afonydd sy'n cynnal gwangod yn y DU, ac mae gwangod wedi'i restru fel nodwedd o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Gwy. Tan yn ddiweddar, ychydig iawn oedd yn hysbys am eu hymddygiad a phatrymau mudo. Mae prosiectau arloesol sy'n defnyddio tagiau radio a derbynyddion wedi darparu gwybodaeth hynod ddiddorol.
Rydym wedi gosod derbynnydd ar derfyn uchaf lle y credir bod gwangod yn mudo ar yr Afon Gwy, ger ei chydlifiad ag afon Ieithon. Mae hyn yn rhan o brosiect ehangach sy'n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe a CNC i astudio'r rhywogaeth hon.
Mae’r derbynyddion yn codi signalau acwstig o sglodion sydd wedi’u gosod yn y pysgod - os bydd pysgodyn wedi’i dagio yn nofio heibio’r derbynnydd, bydd yn anfon hysbysiad a fydd hefyd yn cael ei recordio. Bydd y derbynnydd yn cael ei gasglu yn yr haf ar ôl y tymor silio gwangod, a'r data'n cael ei lawrlwytho i weld a oes unrhyw bysgod wedi'u tagio wedi teithio i fyny i'r Ieithon.
|