Mae tymor gwyliau'r haf yma! Gobeithio y gallwch chi gymryd y cyfle i orffwys, ymlacio a chael eich cefn atoch chi. Yn y rhifyn hwn:
- Syniadau gwych ar gyfer teithiau cerdded dros yr haf
- Defnyddiwch y trên fel rhan o'ch teithiau cerdded
- Byddwch yn Ddinesydd Wyddonydd!
Cofiwch ein tagio ar gyfryngau cymdeithasol - rydyn ni wrth ein bodd yn gweld lle rydych chi wedi bod yn cerdded ar y llwybr. Mwynhewch yr haf bawb!
|
|
Rydyn ni’n rhan o brosiect gwyddoniaeth dinasyddion byd-eang Coast Snap mewn partneriaeth â Chanolfan Monitro Arfordirol Cymru (CMAC). Bydd pob llun o'r arfordir yn helpu ein ffrindiau da yn CMAC i fonitro unrhyw newidiadau i'r arfordir oherwydd newid hinsawdd.
Dewch o hyd i un o'n ‘crudau’ arbennig ar gyfer ffonau mewn mannau ar hyd y llwybr, cymerwch lun o'r olygfa o'ch blaen a'i uwchlwytho. Ers 2022, mae dros 3,000 o luniau wedi cael eu huwchlwytho i greu fideos treigl amser fel yr un yma ym Mhier Penarth
Yn dod yn fuan: Mae crudau ffôn newydd yn cael eu hychwanegu ym Mae Abertawe a Phont Werdd Cymru yn Sir Benfro.
|
Cricieth (Trafnidaeth Cymru)
Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi gerdded 100 milltir rhwng Pwllheli ac Aberystwyth gan ddefnyddio Lein Arfordir y Cambrian? Mwynhewch deithio digyfyngiad yn yr ardal hon am ddiwrnod. Eisteddwch yn ôl ac ymlaciwch ar y trên a mwynhewch weld y llwybr o safbwynt gwahanol!
Mae'r prisiau'n amrywio o £14.60 i £9.60 gyda Cherdyn Rheilffordd.
Dynnes yn ei chadair olwyn yn mynd ar hyd bromenâd glan môr concrit
Dyma grynodeb o rai o'r lleoedd gorau i ddechrau eich antur ar Lwybr Arfordir Cymru!
-
Adrannau cynhwysol - mae rhai rhannau o'r llwybr yn addas ar gyfer pobl â phroblemau symudedd a chadeiriau gwthio. Edrychwch ar ein Teithiau Cerdded Hygyrch
-
Safleoedd hanesyddol - bydd pobl sy'n caru cestyll ac adeiladau hanesyddol eraill yn mwynhau teithiau cerdded Cadw, sy'n berffaith ar gyfer cyfuno taith gerdded ar hyd y llwybr ac ymweliad â safle Cadw. Dewiswch o blith 20 o safleoedd diddorol a dysgwch am arfordir hanesyddol Cymru ar hyd y daith.
-
Teiithiau Cerdded i Deuluoedd - Anadlwch ychydig o awyr iach arfordirol ar y teithiau cerdded byr hyn - delfrydol ar gyfer coesau bach gyda chyfleoedd i stopio ac edrych ar bopeth! Edrychwch ar ein teithiau cerdded i deuluoedd
-
Teithiau cerdded amlddydd - os ydych chi'n chwilio am benwythnos hir o gerdded, edrychwch ar ein Teithiau Cerdded Amlddydd ar gyfer pob rhan o'r llwybr - perffaith ar benwythnos Gŵyl y Banc hir!
Cadwch lygad allan am y canlynol: Tocynnau mynediad dau-am-bris-un i rai o safleoedd Cadw pan fyddwch yn dangos tocyn trên dilys yr un diwrnod. Mwy o wybodaeth am y cynnig 2-am-bris-1 i Dirnodau Hanesyddol
Shaun the Sheep (Cyfoeth Natuiol Cymru/Natural Resources Wales)
Mae Shaun the Sheep ar daith yn sôn am y Cod Cefn Gwlad - sut y gallwn ni i gyd barchu, diogelu a mwynhau'r awyr agored.
Oeddech chi’n gwybod? Mae Shaun ar daith mewn digwyddiadau ledled Cymru! Dewch i gael hunlun gyda Shaun yn Sioe Frenhinol Cymru y wythnos yma (22-26 Mis Gorffennaf, Ardal Gofal Cefn Gwlad, stondin rhif 878 (Cyfoeth Naturiol Cymru/Natural Resources Wales) a'r Eisteddfod Genedlaethol (mis Awst). Dyma ddyddiadau ei daith
Mae ein ap dwyieithog sydd wedi'i ddiweddaru nawr yn caniatáu ichi ychwanegu eich teithiau cerdded blaenorol ac anfon pob taith sydd wedi’i recordio i ddyfais newydd. Chwiliwch am: "Llwybr Arfordir Cymru" ar yr App Store a Google Play Dysgwch fwy am yr ap
Mae'n eich cadw ar y llwybr trwy ddangos ble rydych chi mewn perthynas ag ef. Gallwch hefyd olrhain eich cynnydd ar gyfer pob adran ac mae’n dangos i chi faint rydych chi wedi'i gwblhau yn gyffredinol.
Awydd rhywbeth symlach? Mae ein pasbortau y gellir eu lawrlwytho a'u hargraffu yn rhannu'r llwybr 870 milltir cyfan yn adrannau llai o 3-6 milltir. Mae'r rhain yn berffaith ar gyfer cynllunio eich teithiau cerdded ac yn gwneud fel rhestr dicio ar ôl i chi gerdded pob adran....da ‘de!
Pioden fôr (Tom Hibbert -Wildnet)
Mae'n bwysig ein bod ni'n cael seibiant o'n sgriniau a'n dyfeisiau ac yn cymryd hoe ym myd natur. Cymerwch amser i stopio, edrych a gwrando ar synau addfwyn byd natur ar eich teithiau cerdded ar y llwybr. Gwrandewch ar bioden fôr - sy’n byw yn Aber Afon Dyfrdwy.
Ond mae technoleg wedi ei gwneud hi'n haws i ni ddod yn agosach at natur. Mae nifer o apiau natur ar gael i’w lawrlwytho gan gynnwys un sy’n gallu adnabod galwadau adar (rydyn ni wrth ein bodd ag ap Merlin Bird ID ar gyfer hyn!) a phlanhigion ac anifeiliaid y gallech ddod ar eu traws ar eich teithiau cerdded ar hyd y llwybr (iNaturalist).
|
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
|
|
Gyda bron 8,000 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|