|
Newyddion ac ysbrydoliaeth i ymwelwyr â’n coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae’n bleser gennym groesawu gwestai arbennig i'n stondin yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd. Bydd Shaun the Sheep yn ymuno â ni i hyrwyddo'r Cod Cefn Gwlad a helpu pawb i barchu, diogelu a mwynhau'r awyr agored.
Dewch â'ch teulu draw i ddysgu am y Cod Cefn Gwlad a chael hunlun gyda phreswylydd enwocaf Mossy Bottom Farm.
Gallwch hefyd ddysgu am waith ein sefydliad yn delio â digwyddiadau amgylcheddol, llifogydd a thipio anghyfreithlon gyda'r arddangosfeydd yn ein stondin.
Byddwn ni ar stondin 878-CCA rhwng 22 a 25 Gorffennaf. Gobeithio y gwelwn ni chi yno!
Os na allwch chi ddod i'r sioe, gallwch chi ddal i fyny ag anturiaethau Shaun gyda’r Cod Cefn Gwlad ar YouTube.
|
|
Y llynedd gwelwyd cynnydd mewn marwolaethau sy’n gysylltiedig â dŵr yng Nghymru, gan gynnwys ymhlith pobl dan 20 oed.
Cyn mynd i mewn i ddŵr agored i oeri yr haf hwn, dilynwch y pedwar awgrym hwn gan Diogelwch Dŵr Cymru:
- Stopiwch a meddyliwch:
- A yw'n ddiogel nofio yn y man hwn?
- A oes peryglon o dan y dŵr?
- A oes cerrynt cudd neu ddŵr sy'n llifo'n gyflym?
- Pa mor ddwfn yw’r dŵr ac a allwch chi fynd allan ohono’n hawdd?
- Arhoswch gyda'ch gilydd: Ewch gyda rhywun arall bob amser
- Arnofiwch: Os ydych chi'n mynd i drafferth yn y dŵr, arnofiwch i fyw nes eich bod chi'n teimlo'n fwy diogel ac wedi’ch cynhyrfu’n llai
- Ffoniwch 999 neu 112 os gwelwch chi rywun arall mewn trafferth yn y dŵr
Er eu bod nhw’n edrych yn ddeniadol, nid yw rhaeadrau yn lleoedd diogel i nofio.
Gall y dŵr fod yn syfrdanol o oer ac yn aml yn ddwfn gyda cheryntau cryf a chreigiau llithrig a all beri i chi fynd i drafferthion yn gyflym. Mae hyn yn arbennig o wir ym Mro’r Sgydau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog lle mae pobl wedi colli eu bywydau.
Lleihewch y risg o lithro, baglu neu gwympo yn ystod ymweliad â rhaeadr trwy wisgo esgidiau cerdded, cadw at lwybrau ag arwyddbyst a chymryd gofal arbennig ar dir llithrig.
I ddatblygu eich gwybodaeth a sgiliau diogelwch dŵr, ewch i wefan AdventureSmart.
|
|
Ydych chi’n chwilio am ddiwrnod allan sy'n addas i'r teulu cyfan yr haf hwn?
Mae llwybrau beicio hawdd a llwybrau cerdded sy’n addas ar gyfer cadeiriau gwthio yn rhai o’n coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, ynghyd â digon o le i ymwelwyr iau ollwng stêm a dod yn nes at natur.
Ewch i'n gwefan i drefnu ymweliad â choetir neu warchodfa yn eich ardal chi.
|
|
Coed Nercwys ger yr Wyddgrug yw’r ychwanegiad diweddaraf i gyfres o ffilmiau am ein llwybrau cerdded sy’n addas ar gyfer pobl sy’n defnyddio offer addasol.
Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd oddi ar y ffordd ac rydym wedi creu’r ffilmiau i alluogi defnyddwyr i weld a yw'r llwybr yn iawn iddyn nhw cyn iddynt ymweld.
Mae pob ffilm yn cael ei hadrodd gan berson anabl wrth iddo deithio ar hyd y llwybr gan ddefnyddio ei offer ei hun. Mae'n dangos wyneb y llwybr, graddiant yr esgyniadau a’r disgyniadau, a rhai rhannau lle gallai fod angen cymorth.
Mae’r ffilmiau eraill yn cynnwys llwybrau yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, Parc Coedwig Coed y Brenin, Coedwig Beddgelert, a Pharc Coedwig Afan, a gallwch eu gwylio i gyd ar ein gwefan.
|
|
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i helpu i wella hygyrchedd llwybrau fel bod mwy o bobl yn gallu mwynhau ac elwa o fod yn yr awyr agored.
Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i nodi a gwella rhannau o Lwybr Arfordir Cymru.
Rydym hefyd yn treialu gwybodaeth weledol gyda PhotoTrails ar gyfer rhannau o Lwybr Arfordir Cymru i ddangos i bobl beth i’w ddisgwyl cyn eu hymweliad.
Ewch i'n gwefan i ddarllen y blog gan ein Cynghorydd Mynediad a Hamdden Awyr Agored am y gwaith hwn.
|
|
Mae ap swyddogol Llwybr Arfordir Cymru wedi cael ei ddiweddaru.
Mae’r ap hwn, sydd ar gael ar gyfer iOS ac Android, yn eich galluogi i gofnodi a chadw eich teithiau cerdded a gweld faint o'r llwybr rydych chi wedi'i gwblhau.
Mae hefyd yn cynnig nodweddion digidol i'w defnyddio mewn rhai mannau ar hyd y llwybr, gan gynnwys gêm, nodwedd realiti estynedig a fideo 3D.
|
|
Ydych chi wedi bod â’ch ci am dro yn unrhyw un o'r lleoedd hyn ers mis Mawrth?
- Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch
- Pen y Gogarth
- Moel Famau
- Dinas Brân
Os felly, cwblhewch ein harolwg i'n helpu i ganfod ffyrdd o fwynhau rhoi ymarfer i’ch cŵn gan amharu cyn lleied ag sydd bosibl ar dda byw a bywyd gwyllt.
|
|
Rydym ni’n mawr obeithio ein bod wedi rhoi ychydig flas i chi o’r hyn sy’n digwydd yn rhai o’r lleoedd rydym yn gofalu amdanyn nhw ledled Cymru. Gobeithio fod hyn wedi rhoi rhywfaint o ysbrydoliaeth i chi i fynd allan i’r awyr agored.
Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am y cylchlythyr hwn yn ogystal â rhannu unrhyw syniadau sydd gennych ar gyfer yr hyn i’w gynnwys yn y rhifynnau nesaf.
A beth am anfon y cylchlythyr ymlaen at ffrindiau a theulu fyddai wrth eu bodd yn darganfod mwy o Gymru?
I gael mwy o wybodaeth am ein coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol a’r cyfleusterau sydd ar gael i ymwelwyr, ewch i’n tudalen Ar Grwydr.
|
|
|
|