|
Dyma’r degfed rhifyn o’n diweddariad wythnosol, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â phroblemau arogleuon ar safle tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro.
Rydych chi'n derbyn hwn gan eich bod wedi dweud yn flaenorol eich bod am dderbyn diweddariadau ar y mater hwn, neu eich bod wedi tanysgrifio.
|
|
Rydym yn parhau i fod â phresenoldeb rheolaidd ar Safle Tirlenwi Withyhedge ac yn y cymunedau cyfagos i fonitro gweithgarwch ar y safle a gwerthuso effaith y camau a gymerwyd hyd yma.
Rydym yn derbyn adroddiadau arogleuon bron bob dydd a byddwn yn parhau i ddefnyddio’r adroddiadau hyn i lywio ein hymateb rheoleiddiol ac asesiadau arogleuon.
Rydym hefyd yn parhau â'n hymchwiliad i nifer o achosion o ddiffyg cydymffurfio â Thrwydded Amgylcheddol gweithredwr y safle. Bydd y dystiolaeth sy’n deillio o hyn yn cael ei hadolygu i benderfynu ar yr ymateb priodol.
|
|
|
Mae ffagl (flare) frys ar gyfer nwy tirlenwi wedi'i gosod ar y safle gan y gweithredwr. Cyflawnwyd y mesur interim hwn gan y gweithredwr gyda'r bwriad o reoli'r symiau cynyddol o nwy tirlenwi sy'n cael eu cynhyrchu.
Rydym wedi adolygu asesiad risg allyriadau ar gyfer y ffagl frys, sy'n dangos bod allyriadau'n annhebygol o godi uwchben lefelau perthnasol yr asesiad amgylcheddol. Rydym wedi gofyn i'r gweithredwr fonitro allyriadau er mwyn llunio asesiad manylach.
Rydym yn parhau â’n trafodaethau gyda gweithredwr y safle ar welliannau parhaol i’r system rheoli nwy i gynyddu capasiti a gwella gwytnwch.
Darllenwch diweddariadau RML yma.
|
|
|
Cyfarfu ein Tîm Rheoli Llygredd ar y safle yn Spittal yr wythnos hon i sefydlu monitor statig amser real. Bydd y cyfarpar hwn yn galluogi'r contractwr monitro ansawdd aer, Ricardo Ltd, i gynnal arolwg monitro amser real o hydrogen sylffid (H2S), ynghyd ag adroddiadau cysylltiedig.
Disgwylir i'r monitor hwn aros yn ei le am chwe mis, gan gwmpasu tymor y gaeaf sydd i ddod. Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r tywydd oerach fel arfer yn rhwystro gwasgariad H2S, a arweiniodd yn flaenorol at gynnydd mewn cwynion preswyl.
Er mwyn sicrhau casglu data manwl gywir, mae gan y monitor hefyd orsaf feteorolegol, sy'n darparu mesuriadau annibynnol o gyflymder a chyfeiriad y gwynt.
Rydym wedi derbyn pedwar adroddiad monitro gan Geotechnology Ltd. Mae'r ddau gyntaf wedi cael eu hadolygu a'u postio ar-lein ar ein tudalen Ansawdd Aer gyda sylwadau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae adroddiadau tri a phedwar yn cael eu hadolygu a byddant ar gael yn fuan.
|
|
|
Ar ôl ystyriaeth ofalus ac adborth gwerthfawr gan y cyhoedd, rydym wedi penderfynu newid o'n cylchlythyr wythnosol i ddull a fydd yn cynnig mwy o werth yn ein barn ni.
Hoffem bwysleisio fod cyfathrebu â chi yn dal yn bwysig iawn i ni. Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau ar adegau arwyddocaol er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi a’ch cadw mewn cysylltiad. Bydd amlder y diweddariadau hyn yn cael ei lywio gan ddatblygiadau ar y safle.
|
|
|
Mae CNC yn dal i gael adroddiadau arogleuon bron bob dydd ac mae’n parhau i gynnal asesiadau arogleuon fel rhan o’i asesiad cydymffurfio rheoleiddiol.
Caiff yr asesiadau hyn eu llywio gan adroddiadau a gawn gan y cyhoedd ac felly rydym yn annog pobl i barhau i adrodd am arogleuon cyn gynted ag y byddant yn eu profi.
Rhowch wybod am arogl trwy ein ffurflen bwrpasol neu drwy ffonio 0300 065 3000.
|
|
|
|
|