Yr wythnos hon mae CNC wedi dechrau monitro ansawdd aer sefydlog mewn lleoliadau penodol mewn cymunedau o amgylch Safle Tirlenwi Withyhedge. Mae monitorau hydrogen sylffid Jerome yn cael eu defnyddio i gasglu data a fydd yn caniatáu cyfrifo ffigurau cyfartalog 24 awr, yn ogystal â chyfartaleddau 30 munud. Bydd eu lleoliadau yn ddibynnol ar gyfeiriad y prif wynt yn ystod y cyfnod arolygu.
Mae swyddogion Cyngor Sir Penfro (CSP) yn gweithio i sicrhau bod offer Monitro Aer ychwanegol yn ei le mewn lleoliad yn Spittal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 1 Gorffennaf 2024. Maent yn cysylltu â'r contractwr monitro i sicrhau bod y safle arfaethedig yn addas ar gyfer yr offer newydd.
Bydd yr offer monitro ychwanegol hwn yn galluogi CSP i ddarparu darlleniadau rheolaidd a fydd yn cael eu rhannu ar wefan CSP ac mewn cyfathrebiadau yn y dyfodol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn croesawu’r bwriad i osod monitorau ansawdd aer sefydlog gan CNC a CSP. Bydd y rhain yn helpu ICC i gael darlun manylach o ansawdd yr aer yn yr ardal o amgylch Withyhedge.
“Yn y cyfamser, mae ICC yn dal i gynghori y dylai preswylwyr gadw drysau a ffenestri ar gau pan fo’r arogleuon yn bresennol, a cheisio cyngor meddygol os ydynt yn teimlo’n sâl.”
|