|
Dyma’r wythfed rhifyn o’n diweddariad wythnosol, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â phroblemau arogleuon ar safle tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro.
Rydych chi'n derbyn hwn gan eich bod wedi dweud yn flaenorol eich bod am dderbyn diweddariadau ar y mater hwn, neu eich bod wedi tanysgrifio.
|
|
Mae swyddogion CNC wedi cyfarfod â Chyfarwyddwyr RML, gweithredwyr safle tirlenwi Withyhedge, yr wythnos hon i drafod canfyddiadau’r archwiliad diweddar o’r system rheoli nwy. Mae'r archwiliad wedi nodi sawl maes sy'n peri pryder. Rydym yn bwriadu darparu mwy o wybodaeth am y system rheoli nwy a’r camau sy’n cael eu cymryd gan CNC yr wythnos nesaf.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae CNC wedi bod yn cymryd samplau 30 munud o lefelau hydrogen sylffid amgylchynol mewn ardaloedd lle mae nwy tirlenwi wedi’i ganfod fel rhan o’n hasesiadau arogleuon. Rydym wedi rhannu’r data hwn gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yr wythnos hon i lywio asesiadau risg iechyd pellach.
|
|
|
Yr wythnos hon cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei asesiad risg iechyd o ddata ansawdd aer, ac mae’n ailadrodd ei gyngor i drigolion yn yr ardal o amgylch safle tirlenwi Withyhedge.
Mae’r data’n awgrymu, ar adegau yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2024, bod lefelau hydrogen sylffid yn yr aer o amgylch y safle wedi bod yn uwch na chanllaw annifyrrwch arogleuon Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).
Felly mae cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau, sef y dylai preswylwyr gadw drysau a ffenestri ar gau pan fo’r arogleuon yn bresennol, a cheisio cyngor meddygol os ydynt yn teimlo’n sâl. Gallwch ddarllen mwy yma: Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ailadrodd cyngor iechyd yn dilyn asesiad o ddata ansawdd aer - Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales)
|
|
|
Mae Cyngor Sir Penfro yn parhau i weithio ar y cyd â’r Grŵp Ansawdd Aer i sicrhau bod data cadarn yn cael ei goladu i lywio asesiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y dyfodol.
Mae'r gwaith yn cynnwys mireinio a datblygu'r rhaglen monitro ansawdd aer yng nghyffiniau'r safle tirlenwi, ac mae lleoliadau monitro sefydlog addas yn cael eu nodi ar gyfer lleoli offer.
Derbyniwyd copi o drydydd adroddiad Geotechnology ar fonitro ansawdd aer cymunedol ac mae'r Grŵp Ansawdd Aer yn ystyried ei gynnwys.
|
|
|
Os ydych chi'n arogli arogl cryf y credwch ei fod yn dod o Safle Tirlenwi Withyhedge, rhowch wybod i ni ar yr adeg y byddwch chi'n ei brofi.
Mae adrodd ar arogleuon yn parhau i’n helpu i greu darlun o pryd a ble y mae arogleuon yn gyffredin yn y gymuned. Mae’r adroddiadau hefyd yn ein helpu i asesu effeithiau’r camau adferol a gymerwyd gan y gweithredwr hyd yn hyn, ac i lywio ein hymateb i hynny.
Rhowch wybod am arogl drwy ein ffurflen bwrpasol neu drwy ffonio 0300 065 3000.
|
|
|
|
|