![Wales Coast Path app CY](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKNRW/2022/08/6333876/5443301/youtube-thumbnail-cy_crop.png) Mae’r ap swyddogol ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru wedi’i ddiweddaru i’w gwneud hi’n haws cerdded y llwybr. Mae’r nodweddion newydd sbon yn cynnwys:
- Ychwanegu teithiau cerdded ydych chi wedi'u gwneud yn y gorffennol at yr ap
- Trosglwyddo pob taith gerdded a recordiwyd i ffeil ZIP i'w trosglwyddo i ddyfais newydd
- Arbed bywyd batri
Gall hefyd ddangos i chi a ydych ar y llwybr ai peidio ac olrhain eich cynnydd ar y llwybr fesul adran ac yn gyffredinol. Os ydych chi mewn hwyliau i archwilio mwy, mae'r ap yn awgrymu llwybrau eraill ymhellach ymlaen ar hyd y llwybr yn ogystal â mannau o ddiddordeb i fanteisio’n llawn ar eich amser ar y llwybr. Ar gael ar gyfer iOS ac Android. Lawrthwythwch yr ap yn barod ar gyfer eich anturiaethau ar y llwybr!
Mae 16 Mehefin yn Ddiwrnod Rhyngwladol Ail-lenwi ac mae'n amlygu pa mor bwysig yw rhoi'r gorau i ddefnyddio plastig untro. Rydym yn argymell eich bod yn yfed digon tra byddwch ar y llwybr - sy’n bwysicach fyth yn ystod y misoedd cynnes.
Gallwch ail-lenwi eich poteli dŵr mewn mannau ail-lenwi dŵr ar hyd y llwybr, a gall hyn arbed cario llawer o gyflenwadau trwm gyda chi. Mae ap Ail-lenwi Cymru yn dangos i chi ble mae’r man ail-lenwi dŵr agosaf
|
Mae 29 Mehefin yn Ddiwrnod Twyni Tywod y Byd ac ni fyddai'n llwybr arfordir heb ambell dwyn tywod gerllaw.
Mae’r tirnodau hyn yn hafan i fywyd gwyllt fel tegeirian y gors neu fadfall unig sy’n torheulo yn yr heulwen. Gallant hefyd fod yn fannau aros delfrydol lle gallwch eistedd, ymlacio a chael eich gwynt atoch cyn bwrw ymlaen â gweddill y daith.
Mae ein blogiad gwadd a ysgrifennwyd gan dîm Twyni Byw a Thwyni Deinamig yn dweud wrthym pam y mae twyni tywod mor arbennig a lle mae’r twyni tywod mwyaf nodedig ar y llwybr.
|
![bus on a coastal road](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKNRW/2024/06/9608016/5501448/fflecsi-pembrokeshire-from-tfw-website_crop.jpg) Gwasanaeth bws Fflecsi, Sir Benfro (Trafnidiaeth Cymru)
Gall cynllunio eich taith gerdded ar y llwybr fod yn eithaf heriol yn enwedig o ran trafnidiaeth. Peidiwch â phoeni mae ychydig o wasanaethau bws yn gwasanaethu'r arfordir a gallant eich helpu ar ddiwedd diwrnod hir o gerdded. Dyma grynodeb:
-
Sir Benfro – Mae dau fws arfordirol yn dychwelyd yr haf hwn – Gwibiwr Strwmbl (gwasanaeth 404) a’r Pâl Gwibio (gwasanaeth 400). Bydd Gwibfws yr Arfordir (gwasanaeth 387/388) yn dychwelyd i'w amserlen haf. Mae’r 3 gwasanaeth bws yn rhedeg rhwng 25 Mai a 29 Medi 2024. Gweler amserlenni bysiau’r arfordir
-
Gwasanaeth Bws Fflecsi Penfro - mae hen fws Roced Poppit 405 bellach yn dod o dan y Gwasanaeth Bws Fflecsi. Mae'n gweithredu ar hyd yr arfordir rhwng Abergwaun ac Aberteifi, rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn.
-
Gwasanaeth bws Fflecsi Pen Llŷn - Mae'r gwasanaeth bws poblogaidd hwn yn rhedeg rhwng Nefyn a Phwllheli, o ddydd Iau i ddydd Sul. Fel unrhyw fws Fflecsi arall, byddant yn eich codi mewn lleoliad cyfleus mor agos ag sydd bosibl at ble rydych chi.
A oeddech chi’n gwybod? Traveline Cymru yw gwasanaeth gwybodaeth cludiant cyhoeddus yng Nghymru – mae llawer o gerddwyr yn defnyddio hwn i gynllunio eu teithiau ar fysiau a threnau. Mae ganddo nodweddion defnyddiol fel cynlluniwr taith, amserlenni a map teithio sy'n dangos yr holl arosfannau bysiau a’r gorsafoedd trên. Perffaith ar gyfer darganfod lle gallwch chi ddechrau neu orffen eich taith gerdded. Ewch i Travelline Cymru
![family of 4 and dog outdoors walking](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKNRW/2023/10/8315135/5007391/nvw-e88u-2223-057_crop.jpg) Teulu hefo gi
Mae cael dos ardderchog o awyr iach a byd natur ac archwilio’r awyr agored yn ffordd ardderchog o ofalu amdanoch chi’ch hun, yn feddyliol ac yn gorfforol. O wybod y dylech adael giatiau fel daethoch o hyd iddynt, cynllunio eich llwybr ymlaen llaw (mae'n gas gennym fynd ar goll!) a gwybod sut i ymddwyn pan fydd da byw gerllaw, gyda a heb eich ffrind blewog ffyddlon.
Darllenwch y Cod Cefn Gwlad lle byddwch yn dod o hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol ac ymarferol i wneud y gorau o'ch amser yn yr awyr agored. (fideo yn agor yn Youtube)
![walkers looking out to the coast Nefyn WCP](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKNRW/2022/03/5684664/4199299/mg-0489-original_crop.jpg) |
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
![Wale Coast Path Facebook community](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKNRW/2023/05/7650012/4758447/newsletter-facebook-community-22-may-2023_crop.jpg) |
|
Gyda bron 8,000 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|