Rydym ni (CNC) wedi derbyn cais i amrywio trwydded oddi wrth RML mewn perthynas â safle tirlenwi Withyhedge.
Mae'r cais amrywio yn cynnwys diwygiadau arfaethedig i lefelau adfer ac addasiadau i raglenni monitro ar gyfer dŵr daear, dŵr wyneb a thrwytholch. Bydd y cais hwn yn cael ei adolygu gan ein tîm Caniatáu Gosodiadau.
Oherwydd diddordeb mawr y cyhoedd yn y safle hwn, rydym wedi ymrwymo i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o'r broses benderfynu.
|