Bu ein Pennaeth Gweithrediadau’r De-orllewin, Huwel Manley, a Rheolwr Gweithrediadau’r De-orllewin, Caroline Drayton, yn cwrdd â chynrychiolwyr cymunedol o Gyngor Cymuned Rudbaxton ac aelodau o grŵp ymgyrchu Stop the Stink Withyhedge yr wythnos ddiwethaf. Roedd y cyfarfod yn gyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy’n cael eu cymryd gan CNC, ac i fynd i’r afael â rhai o gwestiynau mwyaf dybryd y gymuned. |
|
|