O dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, rydym yn gwneud gwaith rheoleiddio a gorfodi.
Dyma rai enghreifftiau o'r termau a glywir amlaf a'r hyn y maent yn ei olygu mewn perthynas â'r gwaith yr ydym yn ei wneud yn Safle Tirlenwi Withyhedge.
Gwaith rheoleiddio – archwiliadau a gynhelir ar safleoedd gyda Thrwyddedau Amgylcheddol i asesu cydymffurfiaeth ag amodau’r trwyddedau. Mae'r canlyniadau'n cael eu cofnodi mewn Adroddiadau Asesu Cydymffurfiaeth, ac fel arfer maent ar gael ar ein Cofrestr Gyhoeddus. Lle gall fod camau cyfreithiol ychwanegol, efallai y cânt eu dal yn ôl er mwyn peidio â pheri anfantais i’r achosion.
Diffyg cydymffurfio â thrwyddedau – pan fydd gweithredwr yn methu â chydymffurfio ag amod trwydded, mae’n cyflawni trosedd o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Mae'r achosion hyn o dorri amodau trwydded yn cael eu cofnodi yn yr Adroddiad Asesu Cydymffurfiaeth gyda manylion y camau gweithredu y mae'n ofynnol i’r gweithredwr eu cymryd er mwyn cydymffurfio eto. Lle mae trosedd wedi'i chyflawni, byddwn fel arfer yn ystyried rhoi rhyw fath o sancsiwn, yn ogystal â chymryd unrhyw gamau ataliol neu adferol eraill sy'n angenrheidiol i amddiffyn yr amgylchedd neu bobl.
Ymatebion amddiffynnol – gall hyn fod yn gyngor ac arweiniad, neu gyfarwyddyd uniongyrchol i weithredwr, ond mae hefyd yn cynnwys Hysbysiadau. Ar gyfer achosion o ddiffyg cydymffurfio â thrwyddedau, Hysbysiadau Gorfodi Rheoliad 36 y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol yw'r rhain fel arfer.
Hysbysiadau Gorfodi Rheoliad 36 - defnyddir y rhain pan fo amod trwydded wedi'i dorri, yn cael ei dorri, neu'n debygol o gael ei dorri. Rhaid i'r Hysbysiad amlinellu natur y drosedd/troseddau, a nodi'r camau sydd eu hangen i'w gywiro a chydymffurfio eto. Mae hawl gan dderbynnydd Hysbysiad Rheoliad 36 i apelio yn ei erbyn. Mae methu â chydymffurfio â Hysbysiad Rheoliad 36 yn drosedd ar wahân ac ychwanegol o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.
Yn achos Safle Tirlenwi Withyhedge, nid yw'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i CNC gynnwys cam yn yr Hysbysiadau a gyhoeddir sy'n nodi 'stopio’r arogleuon'. Rhaid i'r camau a osodwn fod yn glir, yn benodol, yn gyraeddadwy, ac yn rhesymol. Maent yn nodi mewn trefn y gwaith yr oeddem yn gofyn i'r gweithredwr ei wneud i gadw, casglu a rheoli nwy tirlenwi, ffynhonnell neu achos arogleuon oddi ar y safle.
Nid yw'r adroddiadau parhaus am arogleuon yn y cyffiniau yn golygu, o reidrwydd, fod y gweithredwr wedi methu â chydymffurfio â gofynion yr Hysbysiadau a gyhoeddwyd. Mae ein hasesiad o gydymffurfiaeth â'r Hysbysiadau yn parhau.
Nid yw asesiad parhaus o Hysbysiadau Gorfodi Rheoliad 36 blaenorol, na diffyg cydymffurfio â hwy, yn atal y defnydd o Hysbysiadau pellach.
Camau gorfodi neu sancsiynau eraill – yr ymatebion troseddol safonol sydd ar gael i ni ar gyfer troseddau o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol yw Llythyr Rhybuddio, Rhybudd Ffurfiol ac Erlyniad. Penderfynir ar bob ymateb fesul achos gan ystyried nifer o ffactorau.
Mae torri amodau trwydded yn drosedd o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Mae yna faterion sy'n cael eu harchwilio ar y safle. Os ystyrir bod achosion o dorri amodau'r drwydded wedi digwydd, gallant fod yn destun cosbau troseddol.
|