|
Croeso i'r trydydd rifyn o'r cylchlythyr wythnosol hwn, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â phroblemau arogleuon yn Safle Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro.
Rydych chi'n derbyn hwn gan eich bod wedi dweud yn flaenorol eich bod am dderbyn diweddariadau ar y mater hwn, neu eich bod wedi tanysgrifio.
|
|
Mae swyddogion o’n tîm Rheoleiddio’r Diwydiant wedi ymweld â Safle Tirlenwi Withyhedge yr wythnos hon, gan gynnal cyfres o asesiadau i benderfynu a yw gweithredwr y safle, RML Ltd, wedi cydymffurfio â’n Hysbysiad Gorfodi Rheoliad 36 diweddaraf.
Mae'r asesiadau hyn yn gymhleth a bydd yn cymryd peth amser i'w cwblhau. Fel rhan o'r gwaith hwn, a gwaith dilynol, byddwn yn cynnal archwiliad llawn o nwy tirlenwi yr wythnos nesaf. Bydd hyn yn archwilio effeithiolrwydd system rheoli nwy y safle tirlenwi yn dilyn gwelliannau a wnaed yn sgil y Rhybuddion Gorfodi, gan gynnwys capio mwy o’r safle a gosod ffynhonnau nwy tirlenwi ychwanegol.
|
Dim ond ar ôl i’r safle gael ei asesu’n llawn ac ar ôl i’r adroddiadau gan weithredwr y safle gael eu hadolygu y byddwn yn gallu penderfynu a oes cydymffurfiaeth â’r hysbysiad gorfodi, ac a yw’r camau a gymerwyd gan y gweithredwr wedi lleihau allyriadau nwyon ffo.
Yna byddwn mewn sefyllfa i ystyried a oes angen unrhyw gamau gorfodi pellach, gan edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael inni o dan y rheoliadau.
Capsiwn lluniau:
Pic 1: Ardal Derbyn Deunydd - deunyddiau i'w defnyddio ar gyfer y prosesau peirianneg parhaus. Nid yw gwastraff yn cael ei dderbyn yn y safle tirlenwi ar hyn o bryd.
Pic 2: Cell Gweithredu (Cell 8) - mwy o ardaloedd yn cael eu capio yng Nghell 8.
|
|
|
O'n presenoldeb ar y safle, rydym wedi gallu cadarnhau nad oes unrhyw wastraff pellach yn cael ei dderbyn ar y safle tirlenwi fel y nodwyd gan RML mewn datganiad a gyhoeddwyd ganddynt yr wythnos diwethaf.
Mae cerbydau a welwyd yn mynd i mewn i Withyhedge dros y dyddiau diwethaf yn dod â deunyddiau i mewn sydd eu hangen ar gyfer y prosesau peirianneg parhaus sy'n digwydd. Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn parhau yn yr wythnosau nesaf.
Mae rhoi'r gorau i dderbyn gwastraff yn fesur dros dro y mae gweithredwr y safle wedi’i roi ar waith yn wirfoddol.
|
|
|
Mae asesiadau arogl wedi'u cynnal bob dydd yr wythnos hon mewn lleoliadau amrywiol o fewn ac o gwmpas cymunedau o amgylch Safle Tirlenwi Withyhedge ar adegau amrywiol o'r dydd a'r nos. Bydd y rhain yn parhau i gael eu cynnal yn rheolaidd yn yr wythnosau i ddod.
Mae'r arogl sy'n gysylltiedig â'r safle yn parhau i gael ei ganfod. Bydd ein swyddogion yn parhau i asesu lefelau a data dros y penwythnos a'r wythnos nesaf, i benderfynu a nodwyd unrhyw ostyngiad.
|
|
|
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda CNC ers i ni ddod yn ymwybodol o gwynion sy'n gysylltiedig â safle tirlenwi Withyhedge ym mis Ionawr 2024.
Mae ein cefnogaeth i’r rheolyddion wedi cynnwys cynghori bod camau yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â ffynhonnell yr arogleuon, ac ar unrhyw faterion iechyd posibl. Rydym hefyd wedi cynghori y dylid cynnal rhywfaint o waith monitro ansawdd aer penodol, ac wedi argymell y dylid capio rhan o'r safle cyn gynted â phosibl. Mae’n galonogol i glywed gan CNC bod rhannau helaeth o'r safle wedi cael eu capio i gasglu nwy tirlenwi.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach wedi derbyn rhywfaint o ddata am ansawdd aer tymor hwy, sy'n cael ei adolygu ar hyn o bryd. Gofynnwyd hefyd i gynnal gwaith monitro tymor byr ychwanegol o ansawdd yr aer o amgylch y safle gan y bydd hyn yn darparu gwybodaeth bwysig i alluogi asesiad llawn o unrhyw effeithiau posibl ar iechyd ar y gymuned leol.
Mae ein cyngor i drigolion yn parhau i fod yr un fath â’r cyngor ers dechrau mis Mawrth - mae'n bosibl y gallai arogleuon ac allyriadau o'r safle fod yn niweidiol i iechyd, ond mae angen mwy o ddata er mwyn bod yn sicr. Rydym yn parhau i gynghori pobl i gadw drysau a ffenestri ar gau pan fydd yr arogleuon yn bresennol, ac i ofyn am gyngor meddygol os yw pobl yn teimlo'n sâl.
Mae rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i chyfyngu i rôl ymgynghorol mewn materion o’r fath. Fel trigolion lleol rydym yn awyddus i weld datrysiad brys i'r mater hwn, ac rydym yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd gyda CNC a Chyngor Sir Penfro.
|
|
|
Rydym yn eich annog i barhau i roi gwybod i ni am arogleuon sy'n gysylltiedig â'r safle tirlenwi ar y byddwch yn sylwi arnynt.
Byddwn yn parhau i gyhoeddi diweddariadau drwy'r cylchlythyr hwn, cyfryngau cymdeithasol ac ymgysylltiad â chynrychiolwyr cymunedol.
Rhowch wybod am arogleuon trwy ein ffurflen bwrpasol: https://bit.ly/reportasmellwithyhedge neu drwy ffonio 0300 065 3000.
|
|
|
|
|