|
Croeso i ail rifyn y cylchlythyr wythnosol hwn, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â phroblemau arogleuon yn Safle Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro.
Rydych chi'n derbyn hwn gan eich bod wedi dweud yn flaenorol eich bod am dderbyn diweddariadau ar y mater hwn, neu eich bod wedi tanysgrifio.
|
|
Rydym wedi derbyn hysbysiad o fwriad RML Ltd (gweithredwr y safle) i roi'r gorau i dderbyn gwastraff am gyfnod ar Safle Tirlenwi Withyhedge ar ôl 14 Mai.
Gwnaed y penderfyniad hwn yn wirfoddol gan y gweithredwr, ac nid yw'n effeithio mewn unrhyw ffordd ar y dyddiad cau terfynol a osodwyd yn yr Hysbysiad Rheoliad 36 a gyhoeddwyd gennym ddydd Iau 18 Ebrill.
Fodd bynnag, bydd y safle'n parhau i dderbyn pridd a deunyddiau clai fel rhan o'u gwaith peirianyddol.
Mae’r gweithredwr wedi datgan ei fwriad i gydymffurfio â’r Hysbysiad erbyn y dyddiad cau o 14 Mai, a byddwn yn parhau â’n presenoldeb rheoleiddiol ar y safle.
|
Cynhaliodd swyddogion Tîm Rheoleiddio'r Diwydiant archwiliad o Safle Tirlenwi Withyhedge ddydd Mercher 8 Mai. Mae'r safle wedi cadarnhau ei fwriad i gydymffurfio â therfynau amser yr Hysbysiad (diwedd y dydd ar 14 Mai).
Cynlluniwyd diwrnod yr archwiliad safle i gyd-fynd â’r terfynau amser a nodwyd yn Hysbysiad Rheoliad 36 a oedd yn gofyn i gamau penodol fod wedi cael eu cyflawni. Mae'r rhain yn rhan o'r gwaith ehangach y mae'n ofynnol ei gwblhau erbyn 14 Mai.
Mae'r camau hyn wedi'u gosod er mwyn ceisio mynd i'r afael â ffynonellau'r arogleuon o'r safle.
Mae gweithredwr y safle wedi rhoi gwybod i ni am y canlynol:
- Mae'r gwaith sy'n gysylltiedig â chapio'r gell wedi parhau yr wythnos hon. Mae hyn wedi gofyn am ymestyn tair ffynnon trwytholchi o fewn y rhan o'r safle tirlenwi sydd heb ei chapio. Am gyfnodau byr, bydd angen datgysylltu rhai ffynhonnau trwytholchi dros dro er mwyn caniatáu i waith capio gael ei gwblhau. Lle bo angen gwneud hyn, mae'r gweithredwr wedi cael cyfarwyddyd i ailgysylltu'r ffynhonnau cyn gynted â phosibl.
- Mae ffynhonnau nwy tirlenwi ychwanegol wedi'u cysylltu â'r rhwydwaith tynnu nwy, sy'n trosglwyddo nwy tirlenwi i'r Gwaith Defnyddio Nwy (GUP). Mae hyn yng nghornel de-orllewinol y safle tirlenwi ac wedi bod yn trin nwy ar y safle ers 2007. Mae gan y safle ddwy injan nwy sy'n cael eu defnyddio i gynhyrchu trydan, sydd wedyn yn cael ei anfon i'r Grid Cenedlaethol. Mae yna hefyd ffagl (flare) fawr, gaeedig a ddefnyddir i drin nwy dros ben. Mae'r Gwaith Defnyddio Nwy wedi'i gynllunio i fod â gallu ychwanegol i drin y nwy a gynhyrchir ar y safle.
Ffagl gaeedig y safle, a ddefnyddir i drin nwy dros ben.
Ffynnon nwy tirlenwi sydd wedi'i chysylltu â'r rhwydwaith tynnu nwy.
|
|
Rydym wedi cael gwybod bod y cwmni'n cynnig rhoi stop ar gludo gwastraff i'r safle am gyfnod. Mae'r cwmni hefyd wedi nodi ei bod yn parhau i fod yn fwriad ganddynt i gydymffurfio â'r holl derfynau amser yn yr hysbysiad gorfodi.
Beth bynnag yw bwriadau'r cwmni, rhaid cwblhau'r camau a nodir yn Hysbysiad Gorfodi Rheoliad 36 erbyn diwedd dydd Mawrth 14 Mai.
Yna bydd ein swyddogion yn cynnal cyfres o asesiadau a dadansoddiad ar ac oddi ar y safle dros y dyddiau ar ôl y dyddiad cau, a bydd hyn yn cymryd peth amser.
Dim ond pan fydd yr asesiadau hynny wedi'u cynnal a’r data wedi ei ddadansoddi y byddwn mewn sefyllfa gliriach i benderfynu p’un a gydymffurfiwyd â Hysbysiad Rheoliad 36 ai peidio, ac a yw'r camau a gymerwyd gan y gweithredwr wedi gwella'r problemau arogleuon.
Os na chydymffurfir â’r gyfres o gamau sy’n ofynnol yn yr Hysbysiad hwn, byddwn yn ystyried camau gorfodi pellach sy’n briodol, gan edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael i ni o dan y rheoliadau.
Tra bod y gwaith sydd ei angen ar y gweithredwr yn mynd rhagddo dros y dyddiau nesaf, mae’r safle’n parhau i gael ei archwilio a byddwn yn parhau â’n hymdrechion rheoleiddio.
|
Mae Cyngor Sir Benfro yn chwilio am drigolion sydd wedi’u heffeithio gan yr arogleuon o Safle Tirlenwi Withyhedge i gymryd rhan mewn monitro ansawdd aer.
Meddai Prif Weithredwr Cynorthwyol Cyngor Sir Benfro, Richard Brown:
“Rydym yn deall bod y sefyllfa hon gyda’r arogleuon annymunol yn niwsans gwirioneddol i drigolion. Rydym yn cymryd pob cwyn o ddifrif ac mae gennym dîm pwrpasol sy'n gyfrifol am ymchwilio i gwynion gan drigolion a chynnal gwaith monitro.
“Mae cynnal aer glân yn flaenoriaeth i’n cymuned – ac mae’r Awdurdod hwn ynghyd â’n partneriaid – wedi ymrwymo i fonitro llygredd yn rhagweithiol, a gweithio’n agos gyda CNC a gweithredwr y safle i sicrhau eu bod yn cael gwared ar arogleuon annymunol o’r safle.
“Mae ein gwaith monitro yn parhau a bydd yn cyd-fynd â gwaith cydweithwyr o CNC i gasglu gwybodaeth am lefelau ansawdd aer o safbwynt iechyd a niwsans – a byddwn yn cynnal ymweliadau yn gynnar yn y bore a gyda’r nos am y tair wythnos nesaf.
“Hoffem weithio gyda chymaint o drigolion â phosibl a’u hannog i roi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt ynghylch arogleuon – mae’r wybodaeth hon yn hanfodol i’n helpu i fynd i’r afael â’r mater yn effeithiol.”
Os ydych yn breswylydd a hoffai weithio gyda Chyngor Sir Benfro ar ei waith monitro ansawdd aer, e-bostiwch: ContactCentre@pembrokeshire.gov.uk
|
Mae asesiadau arogleuon wedi parhau yr wythnos hon. Cynhelir yr asesiadau hyn ar wahanol adegau o'r dydd gan gynnwys yn gynnar yn y bore, yn ystod y dydd ac yn hwyr gyda'r nos. Rydym hefyd yn cynnal ein hasesiadau dros y penwythnosau.
Mae arogleuon oddi ar y safle sy'n gysylltiedig â'r safle tirlenwi yn parhau i gael eu canfod. Adlewyrchir hyn hefyd yn nifer y cwynion a dderbyniwyd o ran arogleuon, yn enwedig dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Gofynnwn i chi barhau i roi gwybod am achosion o arogleuon o'r safle tirlenwi drwy ein ffurflen bwrpasol: https://bit.ly/rhoigwybodamaroglwithyhedge neu drwy ffonio 0300 065 3000.
|
Gall arogleuon ac allyriadau o'r safle hwn fod yn niweidiol i iechyd. Y cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw cadw drysau a ffenestri ar gau pan fo'r arogleuon yn bresennol.
Os ydych chi'n credu eich bod yn profi symptomau iechyd neu les oherwydd allyriadau arogleuon o Safle Tirlenwi Withyhedge, ceisiwch gyngor meddygol - trefnwch apwyntiad gyda'ch meddyg teulu lleol neu ffoniwch 111.
|
|
|
Os ydych chi'n darllen hwn trwy'r cyfryngau cymdeithasol, neu gopi a rannwyd gyda chi, oeddech chi'n gwybod y gallwch danysgrifio i gael copi yn uniongyrchol i'ch mewnflwch?
Cliciwch ar y ddolen hon a dewiswch 'Safle Tirlenwi Withyhedge' yn yr adran pynciau.
|
|
|
|
|