|
|
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyflwyno’r cylchlythyr wythnosol hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â phroblemau arogleuon ar safle tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro.
Rydych chi'n derbyn hwn gan eich bod wedi dweud yn flaenorol eich bod am dderbyn diweddariadau ar y mater hwn, neu eich bod wedi tanysgrifio.
|
|
Rydym yn deall pryderon cynyddol y rhai sy'n byw neu'n gweithio mewn cymunedau o amgylch y safle. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ffocws gweithredwr y safle, Resources Management UK Ltd (RML), yn dal i fod ar fynd i’r afael â’r problemau arogl parhaus. Rydym yn obeithiol y bydd y camau hyn yn arwain at leihad sylweddol mewn allyriadau nwyon tirlenwi ac arogleuon ar ffo erbyn canol mis Mai.
|
|
|
Cynhaliodd swyddogion o'n Tîm Rheoleiddio Diwydiant archwiliad arall yn Safle Tirlenwi Withyhedge ar .
Mae'r Hysbysiad Gorfodi Rheoliad 36 diweddaraf – a gyhoeddwyd ddydd Iau 18 Ebrill – yn amlinellu cyfres o gamau i'w cwblhau erbyn terfynau amser penodedig, fel y dangosir yn y llinell amser uchod.
Mae gweithredwr y safle RML Ltd wedi cwblhau’r camau gweithredu canlynol yr wythnos hon:
- Mae 10 ffynnon nwy tirlenwi wedi'u gosod ledled y gell sydd wedi'i nodi fel ffynhonnell y problemau arogl (Cell 8). Mae'n debygol y bydd pobl yn y cymunedau cyfagos wedi gallu gweld y rig drilio a ddefnyddiwyd i osod y ffynhonnau nwy hyn.
- Mae pump o'r ffynhonnau nwy newydd wedi'u cysylltu â'r system echdynnu nwy tirlenwi ac wrthi'n tynnu nwy tirlenwi. Bydd y pum ffynnon arall yn cael eu cysylltu erbyn diwedd yr wythnos.
- Mae deunydd capio wedi parhau i gael ei ddefnyddio ar draws Cell 8. Bydd y gwaith hwn yn parhau drwy gydol yr wythnos nesaf nes bod y rhan fwyaf o'r gell wedi'i gorchuddio.
Mae CNC yn asesu cynnydd yn erbyn y camau gweithredu yn rheolaidd trwy archwiliadau safle. Rhaid cwblhau pob cam gweithredu erbyn 14 Mai. Bydd hyn yn gofyn am ymdrech sylweddol gan y cwmni dros y pythefnos nesaf.
|
|
|
Mae Pennaeth Gweithrediadau’r De-orllewin, Huwel Manley, a Rheolwr Gweithrediadau’r De Orllewin, Caroline Drayton, wedi mynychu sawl cyfarfod gyda swyddogion etholedig a chynrychiolwyr cymunedol yr wythnos hon, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd gan CNC hyd yma ac i ateb rhai o’r cwestiynau gan y gymuned.
Roedd hyn yn cynnwys sesiwn gynhyrchiol gyda chynrychiolwyr o grŵp ymgyrchu Stop the Stink Withyhedge.
Bydd ein tîm yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd ag aelodau'r gymuned a'n partneriaid dros yr wythnosau nesaf.
|
Mae asesiadau arogl yn parhau i gael eu cynnal yn y gymuned. Maen nhw’n cael eu cynnal yn rheolaidd er mwyn adnabod unrhyw arogleuon o’r safle tirlenwi sy’n llygru neu’n annymunol yn y gymuned, ac maent yn un o ofynion y Drwydded Amgylcheddol.
Mae’n rhaid i’n hasesiadau arogleuon gael eu cynnal mewn modd cyson ac yn unol â’r canllawiau rheoleiddio i sicrhau bod unrhyw gamau rheoleiddio a gymerir mewn ymateb i arogleuon llygrol a ganfyddir yn gadarn.
Mae asesiadau wedi cael eu cynnal pan ddeallir bod arogl ar ei waethaf, a oedd yn fwy diweddar wedi tueddu i fod yn gynnar yn y bore ac yn hwyr gyda'r nos, yn unol â'r adroddiadau digwyddiadau a dderbyniwyd. Fodd bynnag, cynhelir asesiadau ar adegau eraill hefyd gan ein bod yn gwerthfawrogi bod amrywiadau.
Mae arogleuon sy'n gysylltiedig â'r safle tirlenwi yn dal i gael eu canfod mewn ardaloedd o amgylch y safle ac rydym yn annog pobl i barhau i roi gwybod i ni am arogleuon pan fyddant yn bresennol.
|
|
|
Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod y gweithredwr yn gweithio'n gyflym i ddatrys y problemau arogleuon sy'n effeithio ar ansawdd bywyd pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau o amgylch Safle Tirlenwi Withyhedge.
Mae nifer o achosion difrifol o ddiffyg cydymffurfio â thrwyddedau wedi'u nodi ar y safle yn ystod y misoedd diwethaf. O dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 mae’n drosedd i dorri amod trwydded ac o ganlyniad, mae ymchwiliad CNC yn parhau. Am y rheswm hwn, ychydig iawn o fanylder yr ydym wedi gallu ei rannu’n gyhoeddus.
Tra bod y gwaith brys sydd ei angen ar y gweithredwr yn mynd rhagddo dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf, mae’r safle’n parhau i gael ei archwilio a byddwn yn parhau â’n presenoldeb rheoleiddio.
|
|
|
Mae adroddiadau ar arogleuon gan y cyhoedd yn bwysig iawn i helpu i arwain ein gwaith gorfodi. Maen nhw’n helpu i greu darlun o’r adegau pan mae’r broblem arogleuon yn fwyaf cyffredin, yn ein helpu i asesu effeithiau’r camau a gymerwyd hyd yma, ac yn cefnogi gweithgareddau gorfodi yn erbyn gweithredwr y safle.
Rhowch wybod am arogleuon wrth i chi eu profi - nid wedi’r digwyddiad os gwelwch yn dda.
Gofynnwn i chi barhau i roi gwybod am achosion o arogleuon o safleoedd tirlenwi drwy ein ffurflen bwrpasol: https://bit.ly/reportasmellwithyhedge neu drwy ffonio 0300 065 3000.
|
|
|
|
|