|
Mae'r gwanwyn wedi dod, er gwaethaf dechrau glawog a stormus. Mis Mai yw Mis Cerdded Cenedlaethol - rydym wrth ein bodd yn gweld y tywydd brafiach (croesi bysedd!), y dyddiau’n ymestyn ac yn gweld a chlywed natur yn deffro o'i thrwmgwsg gaeafol. Dyma ychydig o wybodaeth ymarferol i wneud y mwyaf o'ch amser ar y llwybr. Estynnwch am eich esgidiau, gofalwch fod diodydd a byrbrydau yn eich bag cefn ac i ffwrdd â chi!
 Trwyn y Fuwch / Little Orme, Llandudno
Weithiau, mae'n dda beth da mynd rownd mewn cylchoedd! Rydym wedi creu dros 30 o deithiau cerdded cylchol newydd er mwyn i bobl gael profiad o arfordir Cymru. Maen nhw’n darparu golygfeydd ysbrydoledig a safbwyntiau newydd heb orfod dychwelyd yr un ffordd neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Yn aml maen nhw’n mynd heibio trefi a phentrefi arfordirol a mannau o ddiddordeb na fyddech efallai’n eu gweld wrth gerdded y prif lwybr.
Rydym hefyd wedi ymuno â’r Arolwg Ordnans, asiantaeth fapio genedlaethol Prydain Fawr i’w rhoi nhnw’n llythrennol ar y map. Gyda chyfrif Arolwg Ordnans (cofrestru am ddim), byddwch yn gallu:
- Gweld y llwybr ar fap rhyngweithiol yr Arolwg Ordnans
- Edrych ar broffil y llwybr i weld faint o waith dringo sydd
- Cadw’r llwybrau ar gyfer rywbryd eto
- Allforio ffeil GPX
Rydym hefyd wedi casglu gwybodaeth am deithiau cerdded cylchol eraill ym Môn, Sir Benfro a rhannau o'r llwybr ym Mhen Llŷn a Cheredigion. Mae digon o ddewis o lwybrau
 Tren yn Cricieth
Mae’n hawdd archwilio rhannau o’r llwybr gan ddefnyddio trenau a bysiau heb y drafferth o orfod parcio eich car.
Ar y Trên
-
Cerddwch 100 milltir rhwng Pwllheli ac Aberystwyth gan ddefnyddio trên Rheilffordd y Cambrian (gweithredir gan Trafnidiaeth Cymru) - y ffordd berffaith o archwilio'r rhan hon o'r llwybr heb y drafferth o orfod parcio’r car. Dysgu mwy am Lein y Cambrian
-
O’r Cledau i’r Llwybrau - Gadewch eich car ar ôl ac edrychwch ar ein rhestr o orsafoedd trên ar hyd yr arfordir (a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru) a chael cyfarwyddiadau yn yr orsaf drenau i gyrraedd y llwybr. Darganfyddwch orsafoedd trenau ar hyd y llwybr
Ar y Bws
 Mae ap swyddogol Llwybr Arfordir Cymru yn olrhain eich anturiaethau cerdded mewn un lle. Dod yn fuan! Dyma nodweddion yr ap newydd:
• Mae’n ychwanegu teithiau’r gorffennol - ychwanegwch y teithiau cerdded a wnaethoch yn y gorffennol i’r ap. • Mae’n trosglwyddo eich data cerdded o un ffôn i'r llall (defnyddiol os ydych chi wedi newid ffonau symudol!). • Mae’n arbed batri - gallwch olrhain eich taith gerdded a defnyddio eich ffôn yr un pryd.
 Pioden y môr (llun gan Tom Hibbert)
Gall yr adar a'r gloÿnnod byw fod yn ffrindiau gorau ichi ar eich taith. Mae Aber Afon Dyfrdwy yng Ngogledd Cymru yn un o’r lleoedd gorau i wylio adar ar hyd y llwybr rhwng Caer a’r Parlwr Du (goleudy Talacre). Mae ein blogiad gwadd gan Bartneriaeth Caru Aber Dyfrdwy yn rhoi cipolwg hynod ddiddorol i chi ar yr adar y gallwch eu gweld a’u clywed ar hyd y rhan hon o’r llwybr yn ystod y gwanwyn.
At sylw pob busnes a sefydliad
Os ydych wedi eich lleoli ger Llwybr Arfordir Cymru neu’r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru (Llwybr Glyndŵr, Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro a Llwybr Clawdd Offa), mae’r arolwg hwn ar eich cyfer chi. Rydym eisiau deall beth sydd ei angen ar fusnesau a sefydliadau, i fanteisio’n llawn ar eu lleoliad a’r cyfleoedd y mae’r llwybr a’r Llwybrau Cenedlaethol yn eu cynnig.
 |
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth).
|
 |
|
Gyda dros 7,000 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|