|
Ar ôl cael ei gynllunio am flwyddyn neu ddwy, cafodd prosiect cwlfert Alwen ei gyflawni o'r diwedd, gyda'r nod o wella mynediad i eogiaid fel y gallan nhw gyrraedd yr ardaloedd silio gorau i fyny'r afon o'r cwlfert.
Ar ôl ymgynghori cychwynnol â pherchnogion yr ased, roedd yn rhaid i ni ddylunio system bafflau newydd yn ofalus a oedd yn rhychwantu'r hyd 35 metr ond heb gael ei osod yn sownd ar y sylfaen goncrit i sicrhau nad oedd uniondeb y strwythur yn cael ei beryglu. Gan weithio'n agos gyda David Mould o JBA Consulting, crëwyd dyluniad a oedd yn cynnwys 42 o fafflau derw gwyrdd yn cael eu dal yn eu lle gan strwythur dur tebyg i 'Meccano' sydd wedi'i osod ar y ffedog concrit uwchben ac o dan y cwlfert.
Cwblhawyd y gwaith o osod yr ysgol bysgod hon ddechrau mis Rhagfyr mewn amodau heriol o lifoedd uchel a thywydd oer eithafol. Diolch yn arbennig i berchennog yr ased Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, DW Jones Fencing a Groundworks a staff am y gwaith gosod, ac i Elfed Engineering am y gwneuthuriad. Rydym yn gobeithio bod rhai pysgod hwyr wedi defnyddio'r ysgol bysgod ym mis Rhagfyr, ac rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at fynd allan i afon Alwen uwchben y cwlfert ym mis Gorffennaf i gynnal arolygon electro-bysgota i weld a allwn ddod o hyd i eogiaid ifanc am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer!
|
|
|
Yn ddiweddar rydym ni wedi ffensio tua 3km o'r brif afon ar y lan dde ychydig i lawr yr afon o'r Bala, yn yr un lleoliad ag y gwnaethom gyflwyno 500 tunnell o glogfeini yr hydref diwethaf. Ar y cyd â gwaith blaenorol drwy amrywiol brosiectau pysgodfeydd a thirfeddianwyr, mae 3km uchaf afon Dyfrdwy islaw'r Bala i lawr yr afon o Afon Meloch bellach wedi'i ffensio'n llawn ar y glannau chwith a'r dde. Mae hyn yn cynnwys 600 metr a gwblhawyd y llynedd, a oedd yn cysylltu â darnau mawr yr oedd Ystad Rhiwlas wedi'u ffensio ar y lan chwith yn flaenorol.
O ran y prif lednentydd silio yn yr ardal, mae'r holl rannau hygyrch ar gyfer salmonidau mudol ar afon Hirnant wedi'u ffensio, ac mae 2.5km isaf Afon Meloch allan o gyrraedd da byw hefyd yn dilyn gwaith ffensio diweddar (dyma'r un ardal ag y gwnaethom dynnu cored conglfeini yn 2022). Canlyniad hyn yw bod da byw, yn enwedig gwartheg, yn cael eu heithrio rhag mynd i mewn i ardal sylweddol o'r afon uchaf, gan sicrhau bod llai o waddod a maethynnau’n mynd i mewn i'r cwrs dŵr, sy'n brif ffocws i brosiect LIFE Afon Dyfrdwy.
|
|
|
Yn ystod y prosiect, rydyn ni wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gydag amrywiaeth o ffermwyr a thirfeddianwyr yn nalgylch afon Dyfrdwy. Fel rhan o'n hymdrechion i helpu i wella arferion amaethyddol, rydyn ni wedi ymweld â bron i 100 o ffermydd ac wedi cynnal sawl ymyriad sydd wedi bod o fudd i'r busnesau yn amgylcheddol ac yn economaidd.
Mae ymyriadau ar fuarth y fferm wedi cynnwys gosod tanciau cynaeafu dŵr glaw i helpu i ddefnyddio dŵr yn fwy cynaliadwy, a gosod dros 800 metr o gwteri a phibellau dŵr newydd ar adeiladau fferm i leihau dŵr ffo o fuarth y fferm i gyrsiau dŵr cyfagos. Rydym hefyd wedi darparu 21 o gynlluniau ffensio a chwe chynllun plannu coed, gan leihau mynediad da byw i gyrsiau dŵr tra'n sicrhau bod ffynonellau yfed amgen, fel cafnau dŵr sy’n rhedeg ar ynni solar, ar gael.
Antur nesaf Ifor...
"Gyda fy amser ar brosiect LIFE Afon Dyfrdwy yn dod i ben, rydw i wedi penderfynu cymryd cyfnod sabothol a byddaf yn mynd i deithio am ychydig fisoedd, gan gymryd rhan mewn rhaglen wirfoddoli yn Nepal! Byddaf yn gwirfoddoli gyda busnesau ffermio bach mewn ardaloedd gwledig, gan helpu i wella bywoliaeth mewn cymunedau amaethyddol a rhoi dulliau ffermio mwy gwydn ar waith. Mae fy amser yn gweithio ar brosiect LIFE Afon Dyfrdwy wedi rhoi sgiliau sylfaenol i mi y byddaf yn gallu eu defnyddio ar ffermydd yn Nepal, megis hyrwyddo'r defnydd o arferion ecogyfeillgar, gwarchod adnoddau yn ogystal â chefnogi cymunedau lleol."
Hoffem ddiolch i Tom ac Ifor am eu holl waith caled ar y prosiect dros y blynyddoedd diwethaf, mae eu gwaith wedi darparu buddion amgylcheddol gwych i ddalgylch afon Dyfrdwy.
|
|
|
Byth ers i dîm y prosiect ddod at ei gilydd yn 2020, rydym ni wedi bod yn breuddwydio am gerdded i ben ucha’r dalgylch, lle mae bywyd i gyd yn dechrau… tarddiad afon Dyfrdwy!
Y mis diwethaf, ar ddydd Mawrth llwyd a gwlyb, llwyddom o'r diwedd i gael y rhan fwyaf o'r tîm at ei gilydd a chychwyn ar ein hantur. Aethom trwy floc coedwigaeth Penaran, gan groesi’r bont newydd yr oeddem wedi'i hadeiladu yn 2022, ac i fyny'r llwybr lle cawsom gipolwg ar dair merlen wyllt yn carlamu heibio.
Wrth inni nesáu at gyrion y goedwig a dod allan o'r coed cysgodol, gallem weld wyneb craig dywyll anferth mynydd Dduallt (Black Hill) o'n blaenau, ac mae'r afon yn codi wrth droed y graig hon. Er ei bod yn teimlo fel ein bod bron yno, roedd y darn olaf yn rhostir digon gwlyb, garw ac anwastad, gyda’r pantiau a’r twmpathau annisgwyl yn ein cadw’n brysur.
Ar ôl baglu ein ffordd ar draws y gors, fe gyrhaeddon ni glwstwr o glogfeini mawr o'r diwedd a gallem glywed sŵn sisial dŵr ysgafn... roeddem wedi dod o hyd i'r tarddiad. Yn reddfol, dyma bob un ohonom ni’n codi rhywfaint o ddŵr i'n dwylo ac er syndod hyfryd i ni, dyma oedd y dŵr puraf, mwyaf blasus i ni ei flasu erioed... ffordd wych o ddathlu prosiect LIFE Afon Dyfrdwy!
|
|
|
Dros y mis nesaf, byddwn yn plannu tua 3,000 yn fwy o goed a 420 o doriadau helyg ychwanegol mewn ardaloedd allweddol o fewn y rhannau o afonydd sydd wedi'u ffensio ar draws y dalgylch.
Dewisir ardaloedd plannu yn ofalus i wella sefydlogrwydd glannau, dal gwaddodion, darparu cysgod, gwella bioamrywiaeth a manteision eraill, gydag amrywiaeth o rywogaethau lleol wedi'u hymgorffori.
Y gwanwyn hwn, byddwn yn plannu coed Poplys Duon ar hyd glan yr afon sydd wedi'u tyfu o sbesimenau lleol, yn dilyn profion genetig gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri i wirio yn erbyn croesiadau. Mae Poplys Duon wedi llwyddo i sefydlogi ardaloedd graean agored mewn mannau eraill ac rydym ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld y canlyniadau. Mae hefyd yn helpu i warchod y rhywogaeth hon yn yr ardal gyda sbesimenau genetig lleol, gan ei bod yn un o'r coed brodorol prinnaf yng Nghymru.
Ers i'r prosiect ddechrau, rydym ni wedi plannu 12,670 o goed. Ar ôl colli tua 20% oherwydd ffactorau fel cyfnodau sych, chwilod dail gwern, difrod gan gnofilod a defaid, mae dros 10,000 o goed yn parhau i dyfu i ddarparu buddion amgylcheddol mawr eu hangen ar hyd afon Dyfrdwy a'i llednentydd allweddol.
|
|
|
Bu staff LIFE Afon Dyfrdwy yng nghynhadledd ddiweddar Bionet yn Venue Cymru gan roi cyflwyniad ar y gwaith sydd wedi'i gyflawni drwy gydol y prosiect a rhai o'r canlyniadau rydym ni wedi'u gweld hyd yn hyn. Thema'r gynhadledd oedd 'Rheoli Dŵr i Bobl a Natur' ac roedd yn galonogol clywed am yr holl brosiectau rhagorol eraill sy'n gweithio i fynd i'r afael â materion tebyg yn y rhanbarth.
Bionet yw'r bartneriaeth natur ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru, sy'n cwmpasu pob un o'r 4 sir. Daeth dros 100 o bobl i'r gynhadledd i glywed am brosiectau amrywiol, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru, Hiraeth yn y Môr, gwaith ar Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy (SUDS) a phlannu coed. Mae adborth o'r gynhadledd wedi bod yn hynod gadarnhaol, gydag un o staff Venue Cymru yn nodi "heddiw yw'r agosaf dwi erioed wedi bod at eistedd mewn ystafell llawn archarwyr".
|
|
|
Cynhadledd Adfer Afonydd 2024, 24 – 26 Ebrill
Dim ond ychydig wythnosau sydd i fynd tan i ni gynnal Cynhadledd Adfer Afonydd Blynyddol 2024 ar y cyd yn Venue Cymru, Llandudno. Mae'r gynhadledd yn dwyn ynghyd arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol sy'n gweithio ar adfer afonydd ar draws llawer o wahanol ddisgyblaethau, ac rydym ni’n disgwyl bron 400 o gynrychiolwyr. Bydd dau ddiwrnod cyntaf y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau, gweithdai a'r seremoni wobrwyo. Ar y trydydd diwrnod, bydd taith gyffrous o amgylch dalgylch Afon Dyfrdwy i ymweld â rhai o safleoedd y prosiect lle’r ydym ni wedi rhoi ymyriadau ar waith. I archebu tocynnau, ac i ddarllen mwy am ein gwaith gyda'r Ganolfan Adfer Afonydd, darllenwch ein blog yma.
Cored Erbistog a Rhaeadr y Bedol
Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda phrosiectau Cored Erbistog a Rhaeadr y Bedol. Ar gyfer darllenwyr newydd ein cylchlythyr, mae cored Erbistog yn gored tri metr o uchder sydd tua 70 metr o led. Mae'n rhwystr sylweddol i lysywen bendoll y môr, ac yn rhwystr rhannol i lysywen bendoll yr afon ac eogiaid. Y bwriad yw cael gwared ar ddarn tua 40 metr o led, sydd tua lled naturiol yr afon yn yr ardal. Trwy agor y darn hwn, gall pysgod basio drwyddo'n rhydd, a gwella cysylltedd yr afon, sy'n hanfodol ar gyfer goroesiad pysgod mudol, tra hefyd yn creu llawer o fanteision i'r ecosystem ehangach.
Yn 2009, dynododd UNESCO gored Rhaeadr y Bedol fel rhan o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte. Mae hefyd o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae'r gored yn strwythur mawr siâp pedol sy'n ymestyn am oddeutu 145 metr ar draws y sianel ac fe'i hadeiladwyd tua 200 mlynedd yn ôl gan Thomas Telford i gynnal lefelau dŵr yn y gamlas. Unwaith eto, mae'r strwythur hwn yn rhwystr rhannol i fudo pysgod, yn fwyaf arbennig penlletwad, eog a’r llysywen bendoll. Er mwyn helpu i wella cysylltedd ecolegol, ansawdd cynefinoedd a symudedd pysgod, byddwn yn creu sianel osgoi trwy gloddio tua 120 metr o dir ar y lan dde sy'n cysylltu'r afon o amgylch Rhaeadr y Bedol trwy sianel y mae rhan ohoni’n gwlfert. Ar ôl ei chwblhau, bydd yr ardal hon yn cael ei hadu a'i dychwelyd i dir pori.
|
|
|
|
|
|