|
Newyddion ac ysbrydoliaeth i ymwelwyr â’n coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
|
|
O drydar yr adar mân i lesni gwych clychau’r gog, yn y gwanwyn y mae byd natur yn deffro.
Rydym wedi dewis pum llwybr coetir lle gallwch fwynhau mynd am dro drwy goetiroedd ym mantell liwgar y gwanwyn.
Mae pob un o’r llwybrau cerdded, sy’n dilyn arwyddbyst clir, yn cychwyn o un o’n meysydd parcio, lle mae bwrdd gwybodaeth yn dangos pa liw llwybr i’w ddilyn ar yr arwyddbyst a beth i edrych allan amdano.
Mae pob llwybr yn llai na dwy filltir o hyd, ac mae rhai yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio, cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd oddi ar y ffordd.
Ewch i’n tudalen we ar gyfer teithiau cerdded y gwanwyn i ddysgu mwy.
|
|
Mae Bro’r Sgydau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lle poblogaidd iawn i ymweld ag ef. Yn anffodus, mae damweiniau difrifol yn digwydd ym Mro’r Sgydau a bu nifer o farwolaethau yn y blynyddoedd diwethaf.
Chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid yn eich gofal yn ystod eich ymweliad, felly darllenwch ein hawgrymiadau isod i sicrhau ymweliad diogel:
- Rydych mewn perygl o gael anaf a allai newid eich bywyd, neu hyd yn oed farw os byddwch yn dewis mynd i mewn i’r dŵr. Peidiwch â chael eich temtio i neidio i mewn i bwll neu fynd i mewn i afon i nofio, gan fod y dŵr yn oer, yn ddwfn ac yn llifo’n gyflym, ac mae’r creigiau’n llithrig, y cerrynt yn gryf ac mae peryglon na allwch eu gweld.
- Peidiwch byth â chymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded drwy geunentydd, ceunanta neu sgramblo oni bai eich bod wedi’ch hyfforddi i wneud hynny neu eich bod wedi’ch goruchwylio gan weithredwr cofrestredig a thrwyddedig.
- Mae llawer o’r damweiniau y mae’r tîm achub mynydd yn cael eu galw i helpu gyda nhw yn cael eu hachosi gan lithro, baglu a chwympo – gwisgwch esgidiau cerdded a chymerwch ofal arbennig ar risiau a thir llithrig.
- Byddwch yn ofalus iawn o amgylch dŵr a chadwch at y llwybrau sydd wedi’u harwyddo am mai’r rhain sy’n cynnig y llwybr mwyaf diogel – mae mynd y tu hwnt i’r llwybrau wedi’u harwyddo yn hynod beryglus.
I gael cyngor ac awgrymiadau i’ch helpu i gynllunio’ch ymweliad, ewch i wefan AdventureSmart.
|
|
Mae pawb yn cadw golwg barcud ar eu cyfrifon banc y dyddiau yma, ond mae ymweliad ag un o’n coetiroedd neu warchodfeydd yn cynnig diwrnod allan rhesymol iawn.
Nid oes tâl mynediad i’n lleoedd ac mae pob un o’n llwybrau yn rhad ac am ddim i’w defnyddio. Paciwch bicnic i’w fwynhau ar hyd y daith neu yn yr ardal bicnic ger y maes parcio.
Mae yna lefydd i lenwi’ch potel ddŵr yn rhad ac am ddim yn ein canolfannau ymwelwyr (Bwlch Nant yr Arian ac Ynys-las, y ddau ger Aberystwyth, a Choed y Brenin ger Dolgellau) felly peidiwch ag anghofio dod â photel gyda chi i dorri syched ar hyd y daith.
Codir tâl am barcio yn ein canolfannau ymwelwyr a mannau eraill ble mae llawer o gyfleusterau i ymwelwyr ond, os byddwch yn ymweld yn rheolaidd, gallwch arbed arian drwy brynu tocyn tymor ar gyfer parcio mewn rhai mannau.
Ewch i’n gwefan i ddewis lle i ymweld ag e.
|
|
Mae hi’n Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru rhwng 22 a 28 Ebrill, yn annog pobl o bob oed i ddysgu am yr amgylchedd naturiol a mwynhau manteision cysylltu â byd natur.
Gall ymuno â’r digwyddiad fod yn fater mor syml â mynd am dro yn y goedwig. Cyn cychwyn, ewch i’n tudalen bywyd gwyllt mewn coetiroedd i ddysgu pa anifeiliaid i gadw llygad amdanynt ar eich taith gerdded.
Rhowch wybod i ni pa fathau o fywyd gwyllt a welwch drwy dagio #WythnosDysguAwyrAgored ar y cyfryngau cymdeithasol.
|
|
Gyda dyfodiad y gwanwyn, mae llawer ohonom yn edrych ymlaen at ddyddiau hirach a mwynach ac at dreulio mwy o amser yn yr awyr agored.
Yn ei flog diweddaraf, mae ein cynghorydd iechyd yn esbonio pam mae’r gwanwyn yn gwneud i ni deimlo’n dda, ac yn cynnig pum ffordd i hybu ein hiechyd a’n lles y tymor hwn.
|
|
Sylwch y gallai fod newidiadau i rai o’r gwasanaethau yn ein canolfannau ymwelwyr a’n caffis oherwydd prinder staff.
Rydym yn argymell i chi wirio’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan neu ar dudalen Facebook y ganolfan ymwelwyr cyn cychwyn.
|
|
Rydym ni’n mawr obeithio ein bod wedi rhoi ychydig flas i chi o’r hyn sy’n digwydd yn rhai o’r lleoedd rydym yn gofalu amdanyn nhw ledled Cymru. Gobeithio fod hyn wedi rhoi rhywfaint o ysbrydoliaeth i chi i fynd allan i’r awyr agored.
Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am y cylchlythyr hwn yn ogystal â rhannu unrhyw syniadau sydd gennych ar gyfer yr hyn i’w gynnwys yn y rhifynnau nesaf.
A beth am anfon y cylchlythyr ymlaen at ffrindiau a theulu fyddai wrth eu bodd yn darganfod mwy o Gymru?
I gael mwy o wybodaeth am ein coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol a’r cyfleusterau sydd ar gael i ymwelwyr, ewch i’n tudalen Ar Grwydr.
|
|
|
|