|
Galw ar bob busnes ger Llwybr Arfordir Cymru neu Lwybrau Cenedlaethol Cymru (Clawdd Offa a Llwybr Glyndŵr). Rydym eisiau eich barn i’n helpu i lunio cymorth i’r busnesau a’r sefydliadau yn y dyfodol i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd mae’r llwybrau yn eu cynnig.
Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli
Dewch i ymuno â Chris Jones - 'Y dyn tywydd' sy’n dywysydd profiadol ar 3 taith gerdded gylchol ym mis Mai. Bydd Chris yn gydymaith difyr ar daith lawn awyr iach, hanes a llenyddiaeth a cherdded bendigedig... gydag ambell syrpreis ar y ffordd. Dyma ddyddiadau'r teithiau cerdded. Bydd angen i chi archebu eich lle ar Eventbrite.
• Talacharn 4 Mai • Llanelli 11 Mai - lleoedd ar gael • Aberogwr 25 Mai
Rhosili, Gŵyr
Manteisiwch ar benwythnos gŵyl banc y Pasg ac estynnwch am eich esgidiau cerdded! Mwynhewch awyr y Gwanwyn a’r teimlad o dywydd cynhesach ar ei ffordd. Dewiswch o amrywiaeth o deithiau cerdded: rhai sy'n addas i deuluoedd, teithiau hygyrch a theithiau meddwlgarwch - mae digonedd o ddewis.
Efallai eich bod wedi sylwi ar lawer o eglwysi a chapeli ar eich teithiau ar hyd yr arfordir – arwydd o sut mae’r mannau ysbrydol hynafol hyn wedi’u plethu i dirwedd hanesyddol Cymru.
Mae gennym ni deithiau cerdded unigryw sy'n cynnwys y mannau arbennig hyn ar hyd Penrhyn Llŷn, Ceredigion a Sir Benfro, sy'n cynnwys Eglwys y Grog ym Mwnt ac Abaty Llandudoch. Mwynhewch daith gerdded egnïol ar y llwybr a gweld y lleoedd cysegredig hyn drosoch eich hun.
Llun: St Hywyn's, Aberdaron
|
|
|
Oes gennych chi ddigwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru neu gerllaw iddo? Anfonwch Ffurflen Awgrymu Digwyddiad i ni fel y gallwn ei hyrwyddo ar ein gwefan. (dibynnol ar gymeradwyaeth). Â
|
|
|
Gyda dros 6,500 o aelodau yn ein Cymuned Facebook, mae'n lle perffaith i gasglu ambell awgrym ymarferol ar gerdded y llwybr ynghyd â digon o ysbrydoliaeth ac anogaeth gan gerddwyr eraill. Welwn ni chi yno! Facebook: Cymuned Llwybr Arfordir Cymru |
|
|
|
|