|
Helo!
Mae'r gwanwyn yn agosáu! Mae'n flwyddyn newydd – a thrydedd flwyddyn prosiect Corsydd Crynedig LIFE – ac mae cymaint i edrych ymlaen ato yn 2024. Croeso i'n cylchlythyr diweddaraf sy'n cynnwys straeon o'n hantur adfer mawndiroedd o hydref 2023 hyd heddiw – Dydd Gŵyl Dewi!
Mae swyddog prosiect Sir Benfro Vicky wedi bod yn brysur dros fisoedd y gaeaf yn paratoi ei safleoedd ar gyfer pori gyda gosod 6.5km o ffensys stoc a chael gwared ar dros 5.5 hectar o brysgwydd ymledol. Yn y Gogledd, mae ein swyddog prosiect Dan wedi cyflawni 10 hectar o dorri a rheoli prysgwydd yng Nghors Gyfelog. Yn Rhos Goch yn dilyn cyfnod o reoli prysgwydd, mae’r swyddog Catherine bellach wedi penodi contractwyr i grafu rhywfaint o wyneb y gors i helpu’r mwsoglau pwysig i sefydlu eu hunain. Yng Nghrymlyn, mae uwch swyddog prosiect Gareth yn parhau i frwydro yn erbyn rhywogaethau ymledol o fewn y warchodfa ac yn disgwyl dod â’r cynaeafwr gwlyptir yn yr wythnosau nesaf i gael gwared ar rai o’r twmpathau a’r cyrs ar wyneb y gors ei hun.
Felly, llawer o bethau o’n blaenau…gadewch i ni edrych yn ôl yn fyr ar rai o uchafbwyntiau’r misoedd diwethaf…
(Mae 'eco-blygiau' yn ffyrdd amgen o gael gwared ar brysgwydd coediog)
|
|
Pleser o’r mwyaf oedd cael cyfrannu mewn nifer o ffyrdd gwahanol at Gynhadledd Mawndiroedd CIEEM Cymru eleni – a gynhaliwyd dafliad carreg o'n safle prosiect gwych yng Nghrymlyn yn Abertawe. Cyflwynodd uwch swyddog prosiect Corsydd Crynedig LIFE, Gareth Thomas, drosolwg manwl o safle prosiect Crymlyn cyn taith gerdded dywysedig o'r gors (dan arweiniad Gareth hefyd!) y diwrnod canlynol – Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd.
Cafodd Gareth gwmni Megan James, myfyriwr Msc o Brifysgol Abertawe, a roddodd gyflwyniad diddorol o'i hymchwil ddiweddar i Jac y Neidiwr goresgynnol ar ein safle yng Nghrymlyn.
Roedd cynrychiolaeth dda o Cyfoeth Naturiol Cymru yn y gynhadledd, gyda'r brif araith yn cael ei chyflwyno gan ein prif arbenigwr Pete Jones MBE a dysgu arall yn cael ei rannu gan gydweithwyr o'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd a phrosiectau partner eraill.
Gwyliwch fideo byr o'r Gynhadledd CIEEM yma.
|
|
|
Rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, cawsom gyffro mawr o weld y prosiect Corsydd Crynedig LIFE yn cael ei gynrychioli ar draws holl rwydweithiau Newyddion y BBC fel rhan o stori yn arddangos gwaith partneriaeth rhagorol a mapio infertebratau ledled Cymru – gyda thipyn o sylw i gynefin corryn rafft y ffen yng ngwarchodfa Crymlyn.
Ymunodd swyddog prosiect Corsydd Crynedig LIFE, Mark Bond, â Phennaeth Buglife Cymru, Clare Dinham, a Gohebydd Amgylchedd y BBC, Steffan Messenger, i dynnu sylw at y dull cydgysylltiedig o ddeall, adfer, mesur a chynnal y cynefin gwerthfawr hwn – sy'n gartref i un o ddim ond tair poblogaeth corryn rafft y ffen yn y DU.
Darllenwch erthygl y BBC yma.
|
|
|
Rhan bwysig o'r gwaith parhaus ar gyfer prosiect Corsydd Crynedig LIFE yw casglu gwybodaeth werthfawr sy'n ymwneud ag effeithiau economaidd-gymdeithasol y prosiect yn safleoedd y prosiect ac o'u cwmpas. Ddiwedd 2023, penodwyd contractwr i gynnal ymchwil helaeth - gyda ffocws penodol ar y cymunedau o amgylch ein prif safleoedd prosiect yn Abertawe.
Casglodd yr ymchwil gychwynnol ddata sylfaenol ar wybodaeth pobl leol am y safleoedd mawndir ar garreg eu drws, y gwerth y maent yn ei roi ar y cynefin, pa mor aml y maent yn ymweld, pam y maent yn ymweld a sut maen nhw'n meddwl y gallai'r prosiect Corsydd Crynedig LIFE wneud cyfraniadau cadarnhaol at yr economi leol drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr â'r safle, defnyddio cyflenwyr a chontractwyr lleol a datblygu grwpiau gwirfoddoli lleol.
Gyda'r data sylfaenol bellach wedi'i sicrhau, bydd y contractwyr yn casglu gwybodaeth ychwanegol ar bwyntiau canol a diwedd y prosiect i gyflwyno adroddiad terfynol o gasgliadau, argymhellion ac arferion gorau.
Diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch chi a gymerodd yr amser i gwblhau'r arolwg economaidd-gymdeithasol – rydyn ni mor ddiolchgar am eich cymorth!
|
|
|
Mae pori yn ffordd bwysig iawn o gynnal wyneb mawndir a rheoli lefelau planhigion a glaswelltau goresgynnol a all, os cânt eu gadael, fygu'r mwsoglau pwysig sy'n creu corsydd.
Dyma pam mae prosiect Corsydd Crynedig LIFE yn gweithio'n galed i hysbysu ffermwyr am werth pori eu da byw ar ein safleoedd prosiect ac maent yn cefnogi'r ymdrech hon drwy osod llawer o ffensys – bydd mwy na 50 cilometr o ffensys wedi'u gosod erbyn diwedd y prosiect!
Yn ddiweddar, wrth osod rhai polion ffens o amgylch ein safle ym Maes Awyr Tyddewi, daeth ein contractwyr o hyd i bentwr sylweddol o gasys bwledi o'r Ail Ryfel Byd!
Darllenwch y stori gyfan a gweld y fideo yma.
|
Mae prosiect Corsydd Crynedig LIFE yn gweithio'n galed i ddatblygu pecyn cyfan o gymorth er mwyn i addysgwyr ddechrau dod ar ymweliadau hunan-dywys â gwarchodfa Crymlyn. Rydym wedi bod yn gweithio gyda'n Tîm Addysg mewnol i greu cynlluniau gwersi, adnoddau, gweithgareddau ac adnoddau i annog mwy o ddysgu a mwynhad o'r cynefin anhygoel hwn, gan wneud defnydd llawn o'r adnodd anhygoel sydd gennym yng nghanolfan ymwelwyr Crymlyn.
Bydd sesiynau hyfforddi athrawon prosiect Corsydd Crynedig LIFE yn dechrau ym mis Mai 2024, ond roeddem yn hapus i gefnogi'r swyddog addysg Aled Hopkin ar sesiwn hyfforddi Cymraeg ddiweddar i athrawon yng Nghrymlyn.
Mae cymaint o botensial yn safle Crymlyn a thirweddau ategol i athrawon roi profiadau academaidd gwerthfawr i'w dosbarthiadau, ond hefyd i amcanion iechyd a lles gael eu diwallu drwy chwarae yn yr awyr agored. Dewch yn ôl dros y misoedd nesaf i weld sut mae ein pecyn addysg wedi datblygu!
Dyma fideo byr o'r diwrnod hyfforddi athrawon diweddar.
|
Cyn i brosiect Corsydd Crynedig LIFE wneud ymyriadau a newidiadau sylweddol i wyneb rhai safleoedd prosiect, penderfynwyd y byddai'n ddefnyddiol casglu lluniau a ffotograffau o'r awyr i roi golwg "cyn ac ar ôl" clir o waith a gynlluniwyd.
Cawsom ambell doriad yn y tywydd, yn ystod gaeaf gwlyb a gwyntog iawn, i hedfan ein drôn prosiect dros safleoedd yn Nhyddewi (Tiroedd Comin Gogledd-orllewin Sir Benfro), Rhos Goch, Eryri (Graianog) a Chrymlyn – ac rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniadau! Mae llawer o fanteision i ddefnyddio dronau... yn anad dim gan eu bod yn caniatáu i ni weld rhannau anodd eu cyrraedd o safleoedd prosiect yn rhwydd.
Mae hefyd yn helpu ein swyddogion prosiect i ddelweddu a chynllunio gwaith cyn penodi contractwyr, ac mae hefyd yn golygu bod ganddynt dystiolaeth ystyrlon i gefnogi gwelliannau a wnaed dros oes y prosiect. Mae hefyd yn gwneud ein swyddog cyfathrebu Mark yn hapus iawn i fod â fideos hardd i'w rhannu o'r tirweddau hyn sy'n aml ddim yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol yn y gobaith y bydd mwy o bobl yn eu gwerthfawrogi cymaint â ni! Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch y fideos yn arddangos darnau gorau ein safleoedd prosiect!
LIFEquake – Hediad Drôn dros dir comin gogledd-orllewin Sir Benfro
LIFEquake – Hediad Drôn Cors Crymlyn
LIFEquake – Hediad Drôn Rhos Goch
LIFEquake – Hediad Drôn Cors Graianog
|
Ewch i'n tudalen am yr holl newyddion diweddaraf am y prosiect, neu dilynwch y ffrydiau cyfryngau cymdeithasol @LIFE Quaking Bogs
Website: Cyfoeth Naturiol Cymru / Corsydd Crynedig LIFE (naturalresources.wales)
Email: lifecorsyddcrynedig@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
|
|
|
|