|
Newyddion ac ysbrydoliaeth i ymwelwyr â’n coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae yna lawer o harddwch naturiol i’w fwynhau yr adeg hon o’r flwyddyn gyda dail yn disgleirio dan got o farrug a lliwiau trawiadol aeron y gaeaf.
Mae’r coedlannau a’r gwarchodfeydd sydd yn ein gofal ar agor trwy gydol y flwyddyn ond cofiwch edrych ar ein gwefan cyn i chi gychwyn oherwydd efallai y bydd angen i ni gau meysydd parcio, llwybrau neu gyfleusterau eraill mewn eira, gwyntoedd cryfion neu dywydd gwael arall.
Gall y gaeaf ddod â heriau ychwanegol pan fyddwch am ymweld â’r awyr agored, yn enwedig os bydd y tywydd yn gwaethygu a’r tymheredd yn gostwng. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’n arbennig o bwysig gwirio rhagolygon y tywydd a gwneud yn siŵr bod gennych chi’r offer cywir cyn i chi gychwyn.
Mae gan wefan AdventureSmart awgrymiadau i’ch helpu i baratoi ar gyfer yr awyr agored yn ystod misoedd y gaeaf.
|
|
Os yw rhedeg ar eich rhestr o addunedau blwyddyn newydd, efallai y byddwch am roi cynnig ar un o’n llwybrau rhedeg.
Mae llwybrau rhedeg yn y pedwar lle hwn:
- Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, Ynys Môn
- Parc Coedwig Coed y Brenin, ger Dolgellau
- Coedwig Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth
- Coetir Ysbryd Llynfi, ger Pen-y-bont ar Ogwr
Mae’r llwybrau’n amrywio o ran hyd ac anhawster ac yn rhoi cyfle i redeg oddi ar y ffordd fawr ar lwybrau di-draffig.
Mae gan bob llwybr banel gwybodaeth ar y dechrau ac mae cyfeirbwyntiau fel y gallwch deimlo’n hyderus am ddilyn y llwybr, ac mae’r olygfa’n llawer brafiach nag mewn campfa!
Cofiwch y bydd angen esgidiau a dillad i gyd-fynd â’r amodau ac mae rhai rhannau o’r llwybrau hirach yn dilyn llwybrau troed mwdlyd lle argymhellir esgidiau rhedeg llwybr.
|
|
Os ydych chi am gael golygfa dda o’r sêr y gaeaf hwn yna ewch i Safle Darganfod Wybren Dywyll.
Mae dau o’n coetiroedd yn Safleoedd Darganfod Wybren Dywyll: y Bwa (13 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth) a choetir Coed y Bont (6 milltir i’r gogledd o Dregaron). Lleolir y ddau goetir ym Mynyddoedd Cambria, sydd ymhlith y lleoliadau ag awyr dywyllaf y nos yn Ewrop.
Defnyddiwch y dolenni i’n gwefan isod i ddarganfod mwy am ymweld â’r Bwa a Choed y Bont, ac ewch i wefan Dark Sky Discovery am awgrymiadau ar fwynhau awyr y nos.
|
|
Cynhelir digwyddiad rhedeg Winter Trail Gaeaf ddydd Sadwrn 17 Chwefror yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin. Mae’r daith redeg saith milltir hon sy’n dilyn llwybr ar hyd traciau sengl a llwybrau troed trwy Barc Coedwig Coed y Brenin yn cael ei threfnu gan Run Coed y Brenin ac mae mwy o fanylion ar eu gwefan.
Cynhelir digwyddiad beicio mynydd Fox Antifreeze ddydd Sadwrn 9 Mawrth ym Mharc Coedwig Coed y Brenin. Mae’r her dygnwch beicio mynydd hwnt-gychwyn hon, sy’n cynnwys nifer o lapiau ac yn defnyddio sglodion electronig i amseru’r cystadleuwyr, yn cael ei threfnu gan Dyfi Events. Mae’r llwybr yn dilyn cymysgedd o lwybrau gorau’r parc coedwig, sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer yr achlysur.
Cynhelir Hanner Marathon y Llwybr Arian, y ras 10k a’r rasys iau (o hanner milltir hyd at 2.7 milltir) yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian ddydd Sadwrn 23 Mawrth. Trefnir y digwyddiad gan Glwb Athletau Aberystwyth. Mae medalau i bawb sy’n gorffen y rasys a bydd rasys yr oedolion yn defnyddio sglodion electronig i amseru’r cystadleuwyr.
|
|
Mae ein coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd gwych ar gyfer anturiaethau teuluol.
Beth bynnag fo’r tywydd, mae plant wrth eu bodd â’r rhyddid i chwarae yn yr awyr agored a darganfod bywyd gwyllt bendigedig Cymru.
Gallwch ddod o hyd i leoedd ag ardaloedd chwarae, llwybrau beicio hawdd a llwybrau cerdded sy’n addas ar gyfer cadeiriau gwthio ar ein tudalen we sy’n rhoi syniadau am ddiwrnodau gwych i’r teulu.
|
|
Mis Ionawr yw Mis Cerdded Eich Ci, sy’n annog perchnogion i ymarfer eu cŵn yn rheolaidd yn yr awyr agored, hyd yn oed ynghanol y gaeaf.
Mae ein lleoedd yn croesawu cŵn sy’n ymddwyn yn dda, sy’n cael eu cadw dan reolaeth agos, ac sydd ar dennyn pan fo arwyddion yn mynnu hynny. Bydd hyn yn help i ddiogelu bywyd gwyllt, fel adar sy’n nythu ar y ddaear. Hefyd, chi sy’n gyfrifol am roi baw eich ci mewn bag – a rhoi hwnnw yn y bin neu fynd ag ef adref.
Dilynwch y cyngor yn y Cod Cerdded Cŵn ar gyfer teithiau cerdded diogel a hapus gyda’ch ci.
|
|
I lawer o bobl, mae aer oer y gaeaf a llai o oriau golau dydd yn golygu treulio mwy o amser dan do a bod yn fwy eisteddog.
Gall fod yn ymdrech ychwanegol i fynd allan yn y gaeaf, ond bydd lapio’n gynnes a mynd allan o fudd i’ch llesiant a’r amgylchedd hefyd.
Darganfyddwch bum ffordd o ymgysylltu â byd natur y gaeaf hwn ym mlog ein cynghorydd iechyd.
|
|
Rydym ni’n mawr obeithio ein bod wedi rhoi ychydig flas i chi o’r hyn sy’n digwydd yn rhai o’r lleoedd rydym yn gofalu amdanyn nhw ledled Cymru. Gobeithio fod hyn wedi rhoi rhywfaint o ysbrydoliaeth i chi i fynd allan i’r awyr agored.
Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am y cylchlythyr hwn yn ogystal â rhannu unrhyw syniadau sydd gennych ar gyfer yr hyn i’w gynnwys yn y rhifynnau nesaf.
A beth am anfon y cylchlythyr ymlaen at ffrindiau a theulu fyddai wrth eu bodd yn darganfod mwy o Gymru?
I gael mwy o wybodaeth am ein coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol a’r cyfleusterau sydd ar gael i ymwelwyr, ewch i’n tudalen Ar Grwydr.
|
|
|
|