|
Croeso i rifyn yr hydref o gylchlythyr LIFE Afon Dyfrdwy!
Gwyliwch fideo byr o rai o uchafbwyntiau ein prosiect hyd yn hyn yma.
Yn ddiweddar, ymgymerwyd â'r gwaith o dorri rhicyn 1 metr o led mewn cored yng nghyfadeilad llifddorau’r Bala. Cored Z yw'r sianel orlif artiffisial ar gyfer afon Tryweryn, sydd yn sych fel arfer ac eithrio'r adegau pan fydd dŵr yn rhedeg drwyddi mewn llif uchel. Islaw Cored Z mae rhwystr concrit ar draws yr afon sy'n achosi i ardal sydd oddeutu'r un maint â phwll nofio i ddal dŵr unwaith y bydd y llifau uchel yn gollwng. Golyga hyn fod pysgod hefyd yn gallu cael eu dal yn yr ardal hon wrth iddynt fudo yn yr afon, sydd yn eu gwneud yn agored i ysglyfaethu. Drwy dorri’r rhicyn, rydym wedi darparu llwybr diogel i bysgod ddianc o’r ardal pan fydd lefelau dŵr yn gostwng.
Yn y gorffennol, mae hyn wedi bod yn rhwystr i bysgod sy'n mudo i lawr yr afon gan y byddent yn mynd yn sownd yn yr ardal gronedig (ardal o ddŵr cronnog) yn union uwchben y gored goncrit. Eiliadau wedi i'r gored gael ei thorri, recordiwyd fideo byr sy'n amlygu pwysigrwydd llwybr rhydd ar gyfer pysgod ym mhob adeiledd. Mae'r fideo yn dangos ychydig gannoedd o bysgod ifanc yn gadael yr ardal gronedig trwy'r rhicyn newydd ac yn pasio drwyddo'n rhydd!
|
|
Yn ystod mis Medi, cynhaliwyd prosiect i gyflwyno clogfeini mawr i'r brif afon uchaf ger Y Bala. Byddai llawer o glogfeini wedi bod yn bresennol yn y rhan hon o’r afon yn y gorffennol, ond yn y 1950au cafodd ei chamlesu, ac yn gynnar yn y 2000au cafodd ei charthu eto pan adnewyddwyd y gored. Pan gafodd yr afon ei chamlesu, cafodd holl glogfeini a deunyddiau'r afon eu symud, gan ddinistrio cynefin hanfodol ar gyfer pysgod, yn enwedig pysgod ifanc. Mae’r gwaith hwn wedi golygu gosod 500 tunnell o glogfeini lleol ar draws ardal o 400 metr er mwyn ailgyflwyno'n rhannol yr hyn a dynnwyd oddi yno yn y gorffennol, gan greu cynefin i silod mân a oedd wir ei angen a lloches i bysgod mwy, yn ogystal â darparu amrywiaeth llif.
Rydym yn ddiolchgar i Ystad Rhiwlas am ei chydweithrediad gyda’r prosiect hwn, a chefnogaeth Cymdeithas Bysgota’r Bala a’r Cylch, a fu’n ymweld â’r safle’n gyson yn ystod y gwaith, gan ddarparu mewnbwn gwerthfawr. Gellir gweld lluniau yma.
|
|
|
Newyddion da – mae ein harolygon pysgota trydanol diweddar yn nant Morlas wedi canfod cynnydd unwaith eto yn nifer yr eogiaid ifanc (silod a phariaid) mewn ardaloedd uwchlaw'r safle ble tynnwyd rhyd goncrit ym mis Medi 2021. Mae hyn yn cadarnhau bod eogiaid yn parhau i fudo i'r ardal a agorwyd gennym pan dynnwyd y rhwystr hwn, sy'n dangos yn glir y manteision amgylcheddol o gael gwared o goredau.
Rydym hefyd wedi bod yn pysgota'n drydanol mewn is-afonydd eraill yn y dalgylch. Gwelwyd niferoedd cynyddol o eogiaid ifanc yn afon Tryweryn yn dilyn y gwaith o gyflwyno graean yno ddwy flynedd yn ôl.
Fodd bynnag, fel yr oeddem wedi'i amau, ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw eogiaid ifanc yn afon Alwen yn y safle uwchlaw cwlfert ffordd fawr ar y B4501. Byddwn yn ymgymryd â gwaith yma yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf er mwyn helpu i wella llwybr y pysgod drwy'r cwlfert hwn, er mwyn caniatáu iddynt gyrraedd y prif fannau silio i fyny'r afon. Byddwn yn cynnal mwy o arolygon wedi'r gwaith er mwyn monitro unrhyw newidiadau, yn y gobaith y byddwn yn gweld canlyniadau mwy cadarnhaol. Darllenwch y diweddariad llawn am ein harolygon pysgota trydanol yma.
|
|
|
Gan weithio ar y cyd â’r Ganolfan Adfer Afonydd, mae tîm LIFE Afon Dyfrdwy yn falch iawn o gael cynorthwyo i gynnal y Gynhadledd Adfer Afonydd yn Llandudno y flwyddyn nesaf. Mae’r gynhadledd yn dod ag arbenigwyr ac ymarferwyr cenedlaethol a rhyngwladol sy’n gweithio ar adfer afonydd ar draws llawer o wahanol ardaloedd ynghyd. Mae disgwyl i dros 300 o bobl fynychu’r gynhadledd, a fydd yn cael ei chynnal yn Venue Cymru rhwng 24 a 26 Ebrill 2024. Byddwn yn mynd â'r model EM river i'r gynhadledd i ddangos effeithiau mewn afonydd, ac i roi cyfle i bobl gymryd rhan yn ymarferol!
Bydd dau ddiwrnod cyntaf y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau, gweithdai ac ymweliadau safle byr, gyda'r trydydd diwrnod wedi'i neilltuo ar gyfer ymweliadau safle diwrnod llawn â rhai o safleoedd y prosiect ble rydym wedi gwneud ymyriadau. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle inni siarad am yr effaith y mae strwythurau’n ei chael ar afonydd a sut y gallwn osgoi’r problemau hyn.
Bydd aelodau o dîm LIFE Afon Dyfrdwy yn cyflwyno gwahanol elfennau o'r prosiect yn ystod y gynhadledd, gan drafod pynciau megis cysylltedd afonydd, gwaith monitro a chanlyniadau ymyriadau. Mae croeso i unrhyw un fynychu’r gynhadledd. Ceir rhagor o fanylion yma.
|
|
|
Yn 2022, yn dilyn cymeradwyaeth y tirfeddiannwr a’r ffermwr tenant, codwyd 600 metr o ffensys stoc ar hyd glan dde afon Ceiriog, ger Tregeiriog, er mwyn atal gwartheg a defaid rhag llygru’r afon ac erydu’r lan. Darparwyd darpariaeth ddŵr arall ar ffurf dau gafn, a gaiff eu cynnal gan bwmp wedi'i bweru gan ynni'r haul.
Fodd bynnag, ers hynny, mae'r afon wedi erydu'r tro allanol ymhellach, sy'n bygwth llinell newydd y ffens ac yn difrodi darn ohoni. Ym mis Hydref eleni, atgyfnerthwyd y tro allanol hwn trwy greu wal gynnal naturiol 60 metr gyda phren lleol a malurion, a symudwyd llinell y ffens yn ôl dri metr.
O ystyried grym erydol pwerus yr afon pan fo'r llif yn uchel, y gobaith yw cryfhau'r lan ymhellach ac atgyfnerthu'r wal gynnal trwy blannu coed yn ystod y misoedd nesaf. Dylai hyn wella bioamrywiaeth ymhellach a darparu cysgod a gorchudd i bysgod a bywyd dyfrol arall.
|
|
|
Mae ein contractwyr lleol yn gweithio ar gynllun ffensio ar hyn o bryd ar brif ran Afon Dyfrdwy yng Nghorwen, yn y dalgylch uchaf. Bydd hyn yn creu llain glustogi 2.8 km ar hyd yr afon, ac, mewn mannau, bydd yn ymestyn ar draws y ddwy lan. Bydd ffensio’r rhan hon o’r afon yn sicrhau bod da byw yn cael eu hatal rhag cael mynediad at y cwrs dŵr, a fydd yn helpu i greu afon iachach gyda llai o erydiad o ganlyniad i wartheg ar y lan, ac yn annog bywyd gwyllt i ffynnu. Yn ogystal, bydd naw cafn dŵr yfed yn cael eu cysylltu â’r prif gyflenwad dŵr fel cyflenwad dŵr amgen ar gyfer da byw, ac mae camfeydd hefyd yn cael eu gosod ar hyd llinell y ffens i ganiatáu mynediad i’r afon i bysgotwyr.
Gan fod yr ardal hon yn agored i lifogydd, rydym wedi treialu pyst pen saeth Kiwitech, sy'n fath o bostyn gwydr ffibr parhaol a fydd yn ystwytho ac yn plygu o dan bwysau cryf yn hytrach na thorri fel ffensys pren neu blastig cyffredin, sy'n eu gwneud yn ddewis llawer gwell mewn ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef llifogydd. Edrychwn ymlaen at weld sut mae'r pyst pen saeth newydd yn dal i fyny yn ystod unrhyw lifoedd uchel y gaeaf hwn.
|
Y mis hwn, aeth y tîm i Cumbria i ymweld â phrosiect LIFE R4ever Kent, rhaglen adfer afonydd LIFE debyg i'n rhaglen ni, ynghyd â'r tîm Prosiect 4 Afon LIFE. Cawsom sawl diwrnod hynod ddiddorol yn ymweld â safleoedd i weld y gwaith gwych y maent wedi’i gyflawni hyd yn hyn, a’r hyn sydd ganddynt ar y gweill ar gyfer gweddill y prosiect, gan gynnwys cael gwared ar goredau, plannu coed, ffensio, sefydlogi glannau, rheoli gwaddod, a chynlluniau amaethyddol.
Roedd ein hymweliad â Chanolfan Adfer Rhywogaethau y Gymdeithas Fiolegol Dŵr Croyw yn arbennig o ddiddorol. Mae'r ganolfan yn gweithio i gynyddu poblogaethau’r fisglen berlog, sydd mewn perygl difrifol, ac maent yn cynnal ymchwil helaeth yn y maes.
Diolch i'r prosiect a'i holl bartneriaid am ymweliad addysgiadol ac ysbrydoledig. Gellir gweld lluniau yma.
|
- Bydd ramp osgoi i bysgod cwlfert afon Alwen yn cael ei gyflwyno yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf er mwyn galluogi eogiaid i gael gwell mynediad i'r ardal silio well i fyny'r afon. Mae hyn wedi golygu gwaith dylunio gofalus a chydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddylunio adeiledd sy'n darparu llwybr da i bysgod wrth sicrhau hefyd nad yw cryfder adeileddol y cwlfert yn cael ei beryglu.
- Plannu coed ar draws y dalgylch – byddwn yn plannu llawer o goed y gaeaf hwn, gyda rhai treialon yn defnyddio gwahanol rywogaethau a dulliau, yn dilyn argymhellion a gasglwyd o brosiectau adfer afonydd eraill. Ar un o’r safleoedd ble buom yn ffensio yn ystod haf 2023, byddwn yn plannu poplys duon (Populus nigra), sydd wedi profi i fod yn ffordd dda o sefydlogi glannau afonydd a banciau graean mewn gwledydd eraill. Bydd hwn yn fuddsoddiad hirdymor i helpu afon Dyfrdwy.
|
|
|
|
|